Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd – diweddariad ar gynnydd
Mae’r adroddiad hwn yn fersiwn ddiweddaredig o’n hadroddiad thematig blaenorol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024 yn canolbwyntio ar bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd. Mae’r canfyddiadau diweddaredig hyn wedi’u seilio ar dystiolaeth arolygu ac ymgysylltu â’r ysgolion oedd â chameos yn yr adroddiad blaenorol, yn ogystal â phump o ysgolion ychwanegol lle bu gwelliannau mewn presenoldeb dros y deuddeg mis diwethaf. Mae hefyd yn cynnwys dadansoddiad o’r data presenoldeb cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Bydd diweddariadau i’r adroddiad hwn mewn testun glas er mwyn ei gwneud yn hawdd i ddarllenwyr adnabod newidiadau.
Yn yr achosion gorau, mae ysgolion wedi cynnal ffocws cryf ar wella presenoldeb disgyblion ac wedi nodi bod presenoldeb yn flaenoriaeth bwysig i’r ysgol gyfan. Yn y cameos diweddaredig, rydym wedi nodi ychydig o ddulliau newydd y mae ysgolion wedi eu rhoi ar waith sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar wella presenoldeb.
Mae ysgolion yn parhau i gael pryderon am yr heriau i’r disgyblion hynny sy’n byw o fewn y radiws tair milltir i’r ysgol, ac felly nid ydynt yn gallu manteisio ar gludiant am ddim i’r ysgol. Dywedodd y rhan fwyaf o arweinwyr y siaradom â nhw fod hyn yn parhau i fod yn rhwystr pwysig iawn rhag gwella presenoldeb. Nodon nhw hefyd fod hyn yn aml yn effeithio’n anghymesur ar y disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Her ychwanegol a nodwyd gan arweinwyr ysgolion yw arholiadau Blwyddyn 11. O ystyried fod arholiadau’n cael eu cynnal ddechrau mis Mai, mae’n heriol i ysgolion gynnal presenoldeb disgyblion Blwyddyn 11, pan mae disgyblion yn awyddus i aros gartref i adolygu. Nododd pob un o’r ysgolion y siaradom â nhw eu bod yn gweld gostyngiad nodedig ym mhresenoldeb Blwyddyn 11 yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig lle mae ysgolion wedi gweithio’n galed yn ystod y flwyddyn i wella presenoldeb y grŵp blwyddyn hwn yn arbennig.
Er bod awdurdodau lleol wedi parhau i flaenoriaethu gwella presenoldeb, mewn mwyafrif o achosion, nid yw’r gwaith hwn wedi cael effaith ddigonol. Mae’r cymorth a’r her ar gyfer gwella presenoldeb yn parhau i fod yn rhy amrywiol ledled Cymru. Nododd ychydig o arweinwyr ysgolion fod her hefyd lle na fydd rhai awdurdodau lleol yn cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig ac mae hyn yn cyfyngu ar eu gallu i herio teuluoedd i wella presenoldeb disgyblion.
Pan gyhoeddom yr adroddiad hwn ym mis Ionawr 2024, nodom nad yw’r data y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi ynghylch presenoldeb yn darparu digon o fanylion i ysgolion wneud cymariaethau pwysig, er enghraifft rhwng grwpiau o ddisgyblion a grwpiau blwyddyn. Mae diffyg dadansoddiad manylach yn parhau i gyfyngu ar allu ysgolion i werthuso effaith eu gwaith yn llawn, gwneud cymariaethau a nodi gwendidau pwysig mewn perfformiad.