Dylunio cwricwlwm o amgylch yr ardal leol - Estyn

Dylunio cwricwlwm o amgylch yr ardal leol

Ciplun

Wrth gynllunio themâu lleol, mae’r staff yn trefnu gweithgareddau diddorol gan ystyried cwestiynau’r disgyblion. Er enghraifft, sut a pham mae pentref Bodedern wedi newid dros amser? Trwy gynllunio profiadau ystyrlon, mae’r staff yn rhoi sylw i hanes a threftadaeth y pentref, gan gydgynllunio ymweliadau sy’n datblygu ymdeimlad cryf o berthyn i’r ardal. Er enghraifft, mae disgyblion hynaf yr ysgol yn tywys y plant iau o amgylch y pentref, gan adrodd straeon a hanesion am eu milltir sgwâr. Mae’r staff yn cefnogi’r profiadau hyn yn effeithiol gyda gweithgareddau bwriadus yn y dosbarthiadau, fel ymchwilio i hanes y tân a losgodd yr hen ysgol. O ganlyniad i’r cynlluniau bwriadus yma, mae pob disgybl yn meithrin balchder at eu bro, gan ddathlu treftadaeth Bodedern ac Ynys Môn yn hynod effeithiol.