Defnydd effeithiol o dechnoleg ddigidol i gefnogi ymgysylltiad a chynnydd mewn dysgu oedolion yn y gymuned

Quick links:
Ynglŷn â’r bartneriaeth
Cadeirir partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned Conwy a Sir Ddinbych gan Grŵp Llandrillo Menai ac mae’n cynnwys:
- Grŵp Llandrillo Menai
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir Ddinbych
- Addysg Oedolion Cymru
Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024, roedd gan y bartneriaeth 474 o ddysgwyr a ymgysylltodd â dosbarthiadau a ariannwyd gan ddefnyddio’r Grant Dysgu Cymunedol a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol Conwy a Sir Ddinbych. Cyflwynwyd llawer o’r dosbarthiadau hyn gan Grŵp Llandrillo Menai a’r gweddill gan Addysg Oedolion Cymru. Fe wnaeth 1,100 o oedolion sy’n dysgu gymryd rhan mewn dosbarthiadau a ariannwyd gan ddefnyddio cyllid addysg bellach (AB) ran-amser Grŵp Llandrillo Menai a dderbynnir yn uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Fe wnaeth 878 o ddysgwyr ychwanegol ar draws y ddwy sir gymryd rhan mewn dosbarthiadau gydag Addysg Oedolion Cymru, gan ddefnyddio’r cyllid y mae’n ei gael yn uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Gwefan y bartneriaeth: https://communitycourses.wales/cy/
Ynglŷn â’r gweithgaredd
Mae’r bartneriaeth wedi defnyddio cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn sgil COVID-19 i foderneiddio technoleg ddigidol ar draws llawer o leoliadau cymunedol. Gan gydweithredu’n agos ag arweinwyr mewn awdurdodau lleol a gwasanaethau llyfrgell, fe wnaeth Grŵp Llandrillo Menai gaffael amrywiaeth eang o gyfarpar ar ran yr awdurdodau lleol. Mae’r cyfarpar hwn wedi’i osod mewn amryw leoliadau ar draws Conwy a Sir Ddinbych, gan ychwanegu at weithgareddau dysgu a sicrhau y gallai dysgwyr elwa o’r adnoddau digidol diweddaraf.
Bellach, mae gan y mannau addysgu o fewn y bartneriaeth, gan gynnwys y rheiny mewn lleoliadau cymunedol, adnoddau da. Mae tiwtoriaid yn integreiddio technoleg ddigidol i’w gwersi, gan wella ymgysylltiad a chyfranogiad dysgwyr yn sylweddol.
Cefnogodd y naill ddarparwr a’r llall eu tiwtoriaid gyda hyfforddiant helaeth yn ystod y pandemig i sicrhau parhad addysgu trwy ddarpariaeth ar-lein. Rhoddodd yr hyfforddiant hwn ddealltwriaeth gadarn i diwtoriaid o fuddion a chymwysiadau technoleg ddigidol wrth wella’r profiad dysgu. Gan adeiladu ar hyn ers y pandemig, mae tiwtoriaid yn defnyddio byrddau gwyn rhyngweithiol, camerâu delweddu a dyfeisiau symudol yn fedrus yn ystod sesiynau, gan gyfoethogi’r profiad dysgu a chynnal momentwm gwersi.
Mae tiwtoriaid wedi datblygu’r gallu i addasu eu haddysgu i gyflwyno’n hybrid. Er enghraifft, pan na all dysgwyr fod yn bresennol, gallant ymuno â sesiynau o bell trwy blatfformau fel Google Meet, gan alluogi tiwtoriaid i ddarparu gwersi i ddysgwyr wyneb yn wyneb ac ar-lein ar yr un pryd.
Enghreifftiau o integreiddio effeithiol
Cyflwyniad i Gynorthwywyr Addysgu – Roedd un dysgwr a gofrestrodd ar gwrs y Cyflwyniad i Gynorthwywyr Addysgu eisoes wedi bwcio gwyliau ond roedd yn awyddus i beidio â cholli unrhyw sesiynau. Fe wnaeth y tiwtor alluogi’r dysgwr i gymryd rhan o bell, trwy ymuno â’r dosbarth trwy gyfrwng Google Meet tra’r oedd ar wyliau. Hefyd, gallai’r dysgwr gael at ddeunyddiau’r cwrs trwy Google Classroom, gan sicrhau parhad yn y profiad dysgu.
Dosbarthiadau Celf – Mewn dosbarthiadau celf, mae tiwtoriaid yn defnyddio delweddwyr a sgriniau rhyngweithiol mawr i arddangos technegau gam wrth gam. Mae’r ymagwedd hon yn caniatáu i ddysgwyr arsylwi dilyniant technegau a deall sut cânt eu cymhwyso. Yn flaenorol, bu’n rhaid i ddysgwyr gynnull o gwmpas cynfas y tiwtor, ac roedd rhwystrau i’w golwg ohono yn achosi trafferthion, yn aml. Mae integreiddio technoleg wedi cael adborth cadarnhaol, gan ei bod yn rhoi dealltwriaeth gliriach, fwy cynhwysfawr i ddysgwyr o’r dulliau sy’n cael eu harddangos mewn amser real, yn hytrach na dim ond gweld y cynnyrch terfynol.
Effaith ar ddysgwyr a thiwtoriaid
Mae’r buddsoddiad strategol mewn technoleg ddigidol a gwella sgiliau tiwtoriaid wedi gwella’r profiad addysgol i ddysgwyr ac i diwtoriaid yn sylweddol:
I ddysgwyr
- Hygyrchedd gwell. Bellach, gall dysgwyr gymryd rhan mewn sesiynau o bell pan fydd amgylchiadau’n eu hatal rhag bod yn bresennol wyneb yn wyneb, gan leihau rhwystrau rhag dysgu.
- Gwell ymgysylltiad. Mae defnyddio offer rhyngweithiol a gweledol, fel byrddau gwyn a delweddwyr, yn golygu bod y dysgu’n fwy dynamig a difyr, gan feithrin mwy o ddiddordeb a dealltwriaeth.
- Cymorth wedi’i bersonoleiddio: Mae dysgwyr yn elwa o ddulliau darparu hyblyg, gan eu galluogi i ddysgu yn ôl eu pwysau a chael at adnoddau fel gwersi wedi’u recordio a deunyddiau ar-lein.
- Deilliannau gwell: Mae eglurder ac effeithiolrwydd arddangosiadau gan ddefnyddio offer digidol yn cyfrannu at ddealltwriaeth ddyfnach a chaffael sgiliau’n fanylach, a gwella cyfraddau llwyddiant cyffredinol.
I Diwtoriaid
- Mwy o hyder a chymhwysedd. Mae hyfforddiant mewn technoleg ddigidol wedi gwella gallu tiwtoriaid i gynllunio a chyflwyno gwersi difyr ac arloesol.
- Gwell effeithlonrwydd. Mae offer digidol yn symleiddio’r gwaith o baratoi a chyflwyno gwersi, gan alluogi tiwtoriaid i ganolbwyntio fwy ar addysgu a chefnogi dysgwyr.
- Cyflwyno hyblyg. Bellach, gall tiwtoriaid gyflwyno sesiynau hybrid yn ddi-dor, gan addasu i anghenion amrywiol dysgwyr heb beryglu ansawdd yr addysgu.
- Twf proffesiynol. Mae amlygiad i dechnolegau a methodolegau addysgu newydd wedi cyfoethogi datblygiad proffesiynol tiwtoriaid, gan eu paratoi nhw ar gyfer heriau mewn addysg yn y dyfodol.