Cymorth ar gyfer llwybrau a gyrfaoedd disgyblion yn y dyfodol  - Estyn

Cymorth ar gyfer llwybrau a gyrfaoedd disgyblion yn y dyfodol 

Arfer effeithiol

Y Pant Comprehensive School

Mae pedwar myfyriwr mewn gwisgoedd ysgol yn trafod o amgylch bwrdd mewn ystafell ddosbarth, gyda chyfrifiaduron yn y cefndir. Mae un myfyriwr yn defnyddio cadair olwyn.

Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr: 

Mae Ysgol Gyfun Y Pant yn Rhondda Cynon Taf yn ysgol cyfrwng Saesneg sydd â 1,444 o ddisgyblion, y mae 1,178 ohonynt o oedran ysgol statudol. Mae 1.1% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae tua 9.6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, ac mae gan ryw 12.7% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae tîm arweinyddiaeth yr ysgol yn cynnwys y pennaeth, y dirprwy bennaeth, dau uwch bennaeth cynorthwyol a thri phennaeth cynorthwyol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Gweledigaeth Ysgol Gyfun Y Pant yw bod pob disgybl yn ymddwyn trwy ddangos parch, gwyleidd-dra, a bod yn barod ar gyfer bywyd. I gefnogi’r weledigaeth hon, mae’r ysgol wedi dyfeisio system yrfaoedd arloesol, sy’n cynnig cymorth cynhwysfawr ar gyfer disgyblion i baratoi ar gyfer eu llwybrau yn y dyfodol, gan wneud yn siŵr bod pob dysgwr yn sicrhau cyrchfan ôl-16 neu ôl-18 sy’n cyd-fynd â’u medrau a’u diddordebau. Mae’r cymorth hwn yn cwmpasu ystod eang o gymorth, gan gynnwys mentora, profiad gwaith ac amlygrwydd i wahanol lwybrau a llwybrau gyrfa . Mae’n broses ymgorfforedig sy’n cael ei hadeiladu trwy gydol cyfnod disgyblion yn yr ysgol, ond yn arbennig mewn cyfnodau pontio arwyddocaol.  

Trwy ymchwil, roedd yr ysgol yn deall bod disgyblion oedd â llwybr neu gyrchfan gyrfa clir yn ymroi’n well yn yr ysgol. Ar ôl hynny, roedd system gynhwysfawr yn cael ei dylunio lle mae cymorth gyrfaoedd yn treiddio trwy bob rhan o fywyd ysgol ac wedi bod yn flaenoriaeth allweddol sylfaenol i’r ysgol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Mae gan yr ysgol ymagwedd gydlynus at gynorthwyo disgyblion i nodi eu llwybr dewisol, a gwneud cynnydd arno. Caiff y broses ei harwain yn strategol gan uwch arweinydd dynodedig. Mae ymarfer mapio cynhwysfawr yn cefnogi’r broses ac yn cael ei hadolygu’n rheolaidd i sicrhau ei bod yn berthnasol a chymwys. 

Mae’r broses yn dechrau pob blwyddyn academaidd trwy gynnal ffair yrfaoedd fywiog yn yr ysgol y mae pob un o’r disgyblion yn ymweld â hi. Mae dros 50 o gyflogwyr yn mynychu’r ffair yrfaoedd, a gall disgyblion ddysgu mwy am wahanol ddiwydiannau a chwmnïau. Mae disgyblion yn ymchwilio i’r gwahanol rolau y mae cwmnïau’n eu cynnig ac yn ymgysylltu â phrifysgolion a rhaglenni prentisiaethau modern, sydd hefyd yn bresennol. Mae hyn yn eu helpu i gael syniad a dealltwriaeth o’r meysydd y gallent fod â diddordeb ynddynt. 

Mae disgyblion yn cael gwersi gyrfaoedd ar wahân ym Mlynyddoedd 7 i 11. Yn ystod y gwersi hyn, mae disgyblion: 

  • Yn gwneud cwisiau gyrfaoedd ar bersonoliaeth, diddordebau, amgylcheddau gwaith a medrau 
  • Yn chwilio yn y llyfrgell yrfaoedd am eiriau allweddol neu’u canlyniadau cwis  
  • Yn chwilio yn llyfrgell bynciau’r brifysgol fel yr uchod 
  • Yn datblygu dealltwriaeth o’r llwybr y dylent ei ddilyn tuag at eu nodau gyrfa  
  • Yn cadw canllawiau gyrfaoedd, pynciau, adnoddau a gwybod sut 

Ar draws y cwricwlwm, mae pob maes pwnc yn gyfrifol am sicrhau bod cysylltiadau’n cael eu gwneud â’r byd gwaith. Er enghraifft, yn y Celfyddydau Mynegiannol, mae staff yn arddangos rolau amrywiol o fewn y diwydiant ac yn mynd â disgyblion ar dripiau yn rheolaidd i sefydliadau neu leoliadau addysgol lle gallant ddysgu mwy am y rolau hyn. Ym Magloriaeth Cymru ym Mlynyddoedd 10, 11 a 12, mae disgyblion yn canolbwyntio ar brosiectau Cyrchfannau’r Dyfodol ac yn cwblhau ymchwil. 

Trwy gydol y flwyddyn, mae disgyblion ar draws yr ysgol yn cael sgyrsiau a chyflwyniadau gan rwydwaith o bobl broffesiynol sydd naill ai’n ymweld wyneb yn wyneb neu ar-lein, i roi mwy o fewnwelediad i ddisgyblion i rolau penodol. Mae pob un o’r disgyblion ym Mlwyddyn 10 yn mynd ar leoliad profiad gwaith ac, ar adegau pontio allweddol o’u gyrfa ysgol, mae disgyblion yn cael sawl cyfweliad gydag uwch arweinwyr i sicrhau bod gan bawb lwybr pan fyddant yn gadael yr ysgol. 

Caiff disgyblion chweched dosbarth eu rhoi mewn grwpiau cofrestru blynyddoedd cymysg ar sail dyheadau gyrfa – er enghraifft: Busnes, Cyfrifyddu a Chyllid; Addysg y Dyniaethau a’r Gyfraith; Meddygaeth a Gofal Iechyd Perthynol. Caiff grwpiau dosbarth eu harwain gan aelod o staff sydd ag arbenigedd yn y meysydd hyn. Gwahoddir siaradwyr a chyn-ddisgyblion i roi arweiniad teilwredig. 

Mae pob un o ddisgyblion y chweched dosbarth yn cael awr o gyfoethogi yn eu hamserlen unwaith bob pythefnos. Caiff sesiynau carfanau cyfan neu grwpiau llai eu cyflwyno naill ai’n fewnol neu gan siaradwyr allanol ar destunau fel cyllid myfyrwyr, gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol, prentisiaethau, datganiadau personol, cyllidebu, technegau cyfweld, ac ati. 

Mae’r ysgol yn gwerthfawrogi ei pherthynas waith â’i chynghorydd Gyrfa Cymru, sy’n rhoi cyngor teilwredig i’r rhai sydd ei angen ar draws yr ysgol. Mae Prosiect Golau Gwyrdd Rhondda Cynon Taf, a’r Tîm Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, hefyd yn darparu cyngor a chymorth annibynnol ar gyfer dysgwyr ansicr a bregus.  

Mae disgyblion yn yr ysgol sy’n nodi eu bod yn fregus yn derbyn lefel estynedig o gymorth trwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol, gyda mentora ychwanegol yn y chweched dosbarth yn canolbwyntio ar wahanol grwpiau, gan gynnwys disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion ag ADY, y rhai sy’n hawlio lwfans cynhaliaeth addysg, neu unigolion sydd mewn perygl o fod yn rhai NACH (NEET). Mae prosesau mentora dynamig yn ymateb i anghenion academaidd, lles neu anghenion eraill trwy gydol y flwyddyn. Mae’r ysgol yn ymgysylltu ag Academi Seren a rhaglen Step-Up New College Rhydychen i ddarparu cyngor a chymorth ar gyfer disgyblion mwy abl o Flwyddyn 10 ymlaen. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion? 

Caiff gyrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith eu hymgorffori ar draws yr ysgol, ac o ganlyniad, mae bron bob un o’r disgyblion yn cael cyrchfannau cadarn ar ôl yr ysgol. Mae dros hanner y disgyblion ôl-16 yn dychwelyd i’r chweched dosbarth. Mae cyngor annibynnol a phartneriaethau effeithiol yn sicrhau bod pob disgybl yn cael ei gefnogi. Mae deilliannau ôl-18 yn adlewyrchu cyfraddau presenoldeb uchel mewn prifysgolion, a phrentisiaethau gradd dyheadol yn dod yn fwy poblogaidd. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion ag ADY, a disgyblion sy’n derbyn lwfans cynhaliaeth addysg, yn symud ymlaen i brifysgol, fel y mae llawer o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Gwelwyd deilliannau cryf mewn cymorth estynedig ar gyfer disgyblion sy’n gwneud cais i ddilyn cyrsiau hynod gystadleuol mewn prifysgolion, ac mae bron pob un o’r ymgeiswyr meddygaeth yn sicrhau lleoedd dewis cyntaf, mwyafrif o ymgeiswyr i Rydychen neu Gaergrawnt yn derbyn cynigion, a thua hanner y disgyblion yn derbyn lleoedd mewn prifysgolion cystadleuol. Mae niferoedd cynyddol o ddisgyblion bellach yn ymgeisio’n llwyddiannus am leoedd mewn ysgolion cerddoriaeth ac ar gyfer pynciau mwy arbenigol. Mae adborth disgyblion a rhieni yn amlygu hyder a gwerth gwell mewn gweithgareddau yn gysylltiedig â gwaith. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Mae’r ysgol wedi cyflwyno i ysgolion eraill o fewn a’r tu allan i’r awdurdod lleol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn