‘Ffordd Y Pant’

Arfer effeithiol

Y Pant Comprehensive School


Cyd-destun

Ysgol cyfrwng Saesneg 11-19 oed yw Ysgol Gyfun Y Pant, a gynhelir gan awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf.  Mae’n gwasanaethu ardaloedd Pont-y-clun, Tonysguboriau, Brynna a Llanhari.  Mae tua 1,300 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae 205 ohonynt yn y chweched dosbarth.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel eu mamiaith ac yn dod o gefndir gwyn Prydeinig.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae tua 10% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 12% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Mae’r pennaeth adeg yr arolygiad ym mis Ionawr 2017 bellach wedi gadael yr ysgol.   Ar hyn o bryd, mae pennaeth dros dro a dirprwy bennaeth dros dro yr oedd y naill a’r llall yn yr ysgol adeg yr arolygiad yn arwain yr ysgol.

Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.

Strategaeth a chamau gweithredu

Dros gyfnod, mae’r ysgol wedi datblygu dull tair rhan hynod effeithiol o gynnal a gwella safonau rhagorol mewn deilliannau ac addysgu.  Mae datblygu ymagwedd at addysgeg y mae staff yn ei deall ac yn ei chymhwyso’n gyson wedi bod yn ganolog i hyn.  Ar yr un pryd, mae’r ysgol wedi datblygu mecanweithiau cadarn i ddatblygu athrawon yn ymarferwyr myfyriol, gan alluogi cyfleoedd pwrpasol i gydweithwyr rannu a myfyrio’n dda ar arfer ei gilydd.  Yn olaf, mae’r ysgol wedi datblygu dull trylwyr o ddefnyddio data a thystiolaeth ansoddol i gefnogi ei harfarniad o addysgu a nodi meysydd pellach i’w gwella.

Mae cyd-ddealltwriaeth gref gan athrawon o’r effaith a gaiff addysgu effeithiol ar ddysgu a deilliannau disgyblion.  Mae hyn yn ganolog i ddull yr ysgol o ddatblygu addysgu. 

Mae polisi addysgu a dysgu’r ysgol yn disgrifio’i dull o addysgu a dysgu trwy egwyddorion allweddol.  Mae’r ysgol yn cyfeirio at yr egwyddorion hyn gyda’i gilydd fel ‘Ffordd Y Pant’ (‘Y Pant Way’).  Mae’r polisi yn esbonio’r dull yn glir.  Mae hyn yn cynorthwyo athrawon newydd yn yr ysgol.  Ar adegau strategol yng nghylch dysgu proffesiynol yr ysgol, mae arweinwyr yn atgyfnerthu a thrafod yr egwyddorion allweddol gyda phob un o’r staff.

Blaenoriaeth allweddol i dîm arweinyddiaeth yr ysgol wrth ddatblygu’r egwyddorion hyn fu sicrhau eu bod yn parhau’n syml, yn gofiadwy ac yn berthnasol.  Mae arweinwyr ac athrawon yn yr ysgol yn glir na ddylai’r dull hwn arwain at ddull fformiwläig neu dicio blychau o arfarnu addysgu sy’n atal datblygiad ymreolaeth athrawon unigol.  I’r gwrthwyneb, mae’r egwyddorion yn ffurfio fframwaith cyffredin i arwain a llywio trafodaethau am addysgu, dysgu a dysgu proffesiynol, lle caiff athrawon eu hannog i nodi a datblygu eu cryfderau eu hunain.  Mae hyn yn sicrhau cyfuniad cyfoethog ac amrywiol o brofiadau dysgu i ddisgyblion ar draws yr ysgol. 

Mae dull yr ysgol o addysgu a dysgu yn canolbwyntio ar yr egwyddorion hanfodol canlynol:

  • Mae strwythur clir i’r holl ddysgu
  • Cynhelir lefelau uchel o ymgysylltu
  • Caiff dysgwyr eu herio’n ddigonol
  • Ymgorfforir asesu ar gyfer dysgu
  • Mae gofynion trawsgwricwlaidd yn ystyrlon a pherthnasol
  • Mae perthnasoedd gweithio cadarnhaol a chefnogol rhwng athrawon a dysgwyr yn cefnogi dysgu

Mae arweinwyr a staff yn glir fod y ffocws cyson ar yr egwyddorion allweddol hyn gan bob un o’r staff wedi darparu man cychwyn hynod effeithiol ar gyfer trafodaethau am addysgu.  Dros gyfnod, mae hyn wedi arwain at ddatblygu arfer hynod gyson ar draws yr ysgol.  Mae hefyd wedi helpu creu diwylliant o ymreolaeth broffesiynol sy’n galluogi staff i roi gofynion polisi a mentrau cwricwlwm newydd ar waith mewn ffordd raddol, ystyriol a chymesur.

Mae prosesau sefydledig, sydd â’r nod o ddatblygu ethos o arfer fyfyriol yn yr ysgol, yn cryfhau’r dull cyson o addysgu a dysgu.  Mae’r ysgol wedi rhoi llawer o gyfleoedd perthnasol ar waith i athrawon rannu eu profiad  a’u harfer mewn cyd-destun sy’n caniatáu ar gyfer trafod a dadlau ystyrlon.  Er enghraifft, mae’r ysgol wedi symud oddi wrth yr arfer o ddefnyddio arsylwadau gwersi i farnu athrawon a gwersi, at un sy’n gweld arsylwadau fel cyfrwng ar gyfer nodi arfer orau a chyd-destun cyfoethog ar gyfer hyfforddi i athrawon sy’n ceisio gwella agweddau ar eu harfer.  Mae arsylwadau cymheiriaid, wedi’u cynnal gan aelodau o’r uwch dîm arweinyddiaeth ac arbenigwyr pwnc, yn helpu’r ysgol i gasglu gwybodaeth gyfoethog am y cryfderau a’r meysydd i’w gwella mewn addysgu ar draws yr ysgol.  Mae staff yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i lywio blaenoriaethau mewn cynlluniau gwella ysgol gyfan ac adrannol. 

Mae grwpiau bach o athrawon o fewn neu ar draws adrannau yn cymryd rhan mewn teithiau dysgu, sydd â ffocws clir ar nodi beth sy’n gweithio’n dda.  Mae’r teithiau dysgu hyn yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i athrawon rannu a myfyrio ar arfer orau.  Mae arweinwyr yn neilltuo amser, fel rhan o raglen dysgu proffesiynol yr ysgol, i athrawon weithio gyda’i gilydd mewn grwpiau o dri neu chwech i gynllunio, cwblhau ac adrodd ar deithiau dysgu.  Mae staff yn rhannu a thrafod y canfyddiadau allweddol bob blwyddyn.

Mae’r grwpiau strategaeth ar ôl yr ysgol, sy’n rhan o amser cyfeiriedig athrawon, hefyd wedi rhoi cyfleoedd i staff ymgysylltu â phrosiectau ymchwil weithredu a’u datblygu.  Mae’r grwpiau hyn yn gweithredu fel fforymau trafod i alluogi staff i ddilyn hynt a helynt mentrau mewn addysg a datblygu ymwybyddiaeth cydweithwyr o arferion addysgegol.  Yn ystod blwyddyn gyntaf y cylch presennol, dewisodd arweinwyr ystod o destunau academaidd i’w trafod.  Dewisodd staff destunau oedd fwyaf perthnasol iddynt yn eu barn nhw, a chyfarfod yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn i ddarllen a thrafod eu testun, gan roi crynodeb o’u gwaith i bob un o’r staff ar ddiwedd y flwyddyn.  Roedd athrawon yn gwerthfawrogi’r cyfle i archwilio a datblygu eu dealltwriaeth o’r syniadau hyn yn eu hamser eu hunain, yn hytrach na derbyn gwybodaeth yn oddefol gan yr uwch dîm arweinyddiaeth.  Yn ystod ail flwyddyn y cylch, cafodd cydweithwyr eu hannog i ystyried cymwysiadau ymarferol yr hyn roeddent wedi ei ddarganfod a dechrau prosiectau ymchwil weithredu unigol neu ar y cyd.

Mae’r ysgol yn ychwanegu at rannu arfer addysgegol dda a ddisgrifir uchod gyda diwrnodau dysgu proffesiynol o ansawdd da.  Caiff staff ar draws yr ysgol gyfleoedd buddiol i gynllunio a chyflwyno’r rhain.  Mae athro’n arwain pob sesiwn ac yn canolbwyntio ar faes y nodwyd ei fod yn arfer orau yn ei faes cyfrifoldeb ei hun.  Er bod y diwrnodau a’r sesiynau hyn yn mynd i’r afael yn rheolaidd ag anghenion datblygiadol ysgol gyfan, mae arweinwyr yn sicrhau bod cyfleoedd rheolaidd i athrawon elwa ar ddewis mwy amrywiol o weithgareddau dysgu proffesiynol sy’n adlewyrchu eu hanghenion unigol.

Yn ychwanegol, mae ymglymiad yr ysgol â rhwydweithiau ysgolion eraill, er enghraifft trwy ei gwaith fel ysgol arloesi ac ysgol hwb dysgu proffesiynol ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De, wedi darparu cyfleoedd ystyrlon i staff weithio gydag ysgolion eraill i rannu a chasglu arfer orau.

Mae elfen olaf dull strategol yr ysgol o wella safonau mewn deilliannau ac addysgu yn ymwneud â’i dull trylwyr o ddefnyddio data a ffynonellau eraill o dystiolaeth ansoddol.  Mae’r ysgol wedi sefydlu gweithdrefnau trylwyr i arfarnu cynnydd disgyblion trwy ddatblygu ei mesur gwerth ychwanegol ei hun, sef ‘Gweddilleb Y Pant’ (‘Y Pant residual’), y mae’n ei ddefnyddio i olrhain a monitro cynnydd disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5.  Mae arweinwyr canol yn cynnal adolygiadau adrannol ar gyfer pob adran bob blwyddyn, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon yn ogystal â’r deilliannau o weithgareddau craffu ar waith a llais y disgybl, arsylwadau gwersi a theithiau dysgu.  Mae’r adolygiadau hyn yn darparu trosolwg cynhwysfawr o waith yr adran, gan lywio hunanarfarnu a chynllunio gwelliant adrannol.  Mae’r gweithgareddau hyn yn llywio hunanarfarnu a chynllunio gwelliant yn eu tro. 

Mae cyfarfodydd sicrhau ansawdd adrannol rheolaidd yn sicrhau bod staff ar draws yr ysgol yn cael eu cynnwys mewn arfarnu safonau gwaith disgyblion ac yn darparu cyfleoedd pellach i staff gyfnewid syniadau a rhannu arfer.  Mae’r gweithdrefnau hyn wedi helpu cryfhau gallu arweinwyr canol ar draws yr ysgol a sicrhau bod gan uwch arweinwyr ac arweinwyr canol ddull cyffredin o arfarnu safonau a nodi blaenoriaethau i’w gwella. 

Mae’r ysgol yn ystyried data ar gynnydd disgyblion, deilliannau gweithgareddau llais y disgybl a chraffu ar waith fel y dangosyddion allweddol wrth arfarnu addysgu a dysgu yn yr ysgol.  Mae arweinwyr yn teimlo bod y gweithgareddau hyn yn darparu ffynhonnell wybodaeth fwy dibynadwy ac addysgiadol o lawer i nodi cryfderau’r ysgol a’i blaenoriaethau gwella na dibynnu ar ddeilliannau arsylwadau gwersi yn unig.

Deilliannau

Mae’r ysgol yn dangos cryfderau ei dull o ddatblygu addysgu o ansawdd uchel trwy’r deilliannau cyson uchel a gyflawnir gan ddisgyblion.  Mewn gwersi a thros gyfnod, mae disgyblion yn Ysgol Gyfun Y Pant yn gwneud cynnydd cyson gryf.  Ar ddiwedd cyfnod allweddol 4, mae perfformiad yn gyson uwchlaw deilliannau wedi’u modelu, ac yn cymharu’n dda iawn â pherfformiad ysgolion tebyg ar sail bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae disgyblion sy’n fwy abl yn gwneud yn eithriadol o dda.  Mae bechgyn, merched a disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn perfformio’n well na’r grwpiau hyn o ddisgyblion mewn ysgolion tebyg  (Llywodraeth Cymru, 2017c).

Barnodd adroddiad arolygiad Estyn ym mis Ionawr 2017 fod ansawdd yr addysgu yn yr ysgol yn rhagorol ar y cyfan.  Dywedodd arolygwyr fod yr ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar ddysgu proffesiynol a bod hyn yn arwain at arfer ystafell ddosbarth hynod gyson ac effeithiol.  Mae’r ysgol yn darparu llawer o gyfleoedd gwerthfawr i athrawon wella eu medrau, gan gynnwys cymryd rhan mewn ymchwil, sydd o fudd i’w harfer eu hunain ac arfer cydweithwyr eraill.  Mae’r ysgol yn mynd ati i gynorthwyo ysgolion eraill, a chydweithio â nhw.  Mae hyn wedi cryfhau arfer athrawon yn yr ysgol.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Wrth iddi symud ymlaen, mae’r ysgol yn glir am yr heriau y mae’n eu hwynebu a’r angen i barhau i ddatblygu a mireinio ei harfer i sicrhau’r deilliannau gorau posibl ar gyfer ei disgyblion.  Mae ei chamau nesaf yn cynnwys:

  • sicrhau bod teithiau dysgu a datblygiad proffesiynol athrawon yn canolbwyntio ar strategaethau i wella ymgysylltiad bechgyn â dysgu
  • datblygu cydweithio ag ysgolion cynradd clwstwr ynglŷn â dulliau cyffredin o sicrhau dysgu ac addysgu rhagorol, gan gynnwys teithiau dysgu ar draws sectorau
  • datblygu rôl disgyblion a llywodraethwyr mewn teithiau dysgu
  • sicrhau bod egwyddorion allweddol yr ysgol ynghylch dysgu ac addysgu yn cael eu rhannu’n fwy effeithiol gyda rhieni
  • datblygu mesurau cynnydd cadarn yng nghyfnod allweddol 3 yn unol â’r dull a ddefnyddir yng nghyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn