Arweinyddiaeth Gydweithredol  - Estyn

Arweinyddiaeth Gydweithredol 

Arfer effeithiol

Y Pant Comprehensive School

Group of five professionals sitting around a table in a modern office setting, engaging in a discussion with papers and digital devices on the table. The background features bright orange walls.

Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr: 

Mae Ysgol Gyfun Y Pant yn Rhondda Cynon Taf yn ysgol cyfrwng Saesneg sydd â 1,444 o ddisgyblion, y mae 1,178 ohonynt o oedran ysgol statudol. Mae 1.1% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae tua 9.6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, ac mae gan ryw 12.7% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae tîm arweinyddiaeth yr ysgol yn cynnwys y pennaeth, y dirprwy bennaeth, dau uwch bennaeth cynorthwyol a thri phennaeth cynorthwyol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol   

Fel rhan o’u strategaeth i wella arweinyddiaeth, mae arweinwyr wedi darparu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer arweinyddiaeth gydweithredol ar bob lefel. Mae hyn wedi cael ei gefnogi’n dda gan ddysgu proffesiynol effeithiol, disgwyliadau uchel a llinellau atebolrwydd clir. Mae’r pennaeth yn glir nad rhywbeth i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn unig yw arweinyddiaeth, ac nad yw’n rhywbeth sy’n bodoli mewn ffordd linellol, chwaith. Caiff staff yn yr ysgol eu hannog i ddatblygu eu medrau arwain yn y rhan fwyaf o agweddau ar eu rolau. Amlinellir y dull hwn yn glir mewn blaenoriaethau ysgol gyfan, yn ogystal â chynllunio datblygiad adrannol. Mae arweinwyr yn canolbwyntio ar sefydlu ‘atebolrwydd deallus’ trwy adolygu ac addasu eu dulliau yn rheolaidd, gosod targedau clir ar gyfer gwella a sicrhau bod gwaith yn cael ei lywio gan dystiolaeth. 

Mae’r ysgol yn ymdrechu i sicrhau bod arweinwyr canol yn gwerthuso pob agwedd ar eu gwaith yn effeithiol, gan gynnwys defnydd cadarn o ddata. Trwy gyfarfodydd rheolwyr llinell bob hanner tymor sy’n cael eu llywio gan ystod o dystiolaeth uniongyrchol, mae arweinwyr yn gwerthuso effaith eu gwaith yn rheolaidd. Mae pob un o’r staff yn defnyddio systemau’r ysgol yn dda i olrhain cynnydd. Mae’r ysgol wedi gweithio’n galed i greu diwylliant o gydweithio wedi’i yrru gan dîm sy’n cefnogi twf, lles ac ymdeimlad o ddiben ar gyfer pob un o’r cydweithwyr ar bob lefel. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae gan yr ysgol systemau effeithiol i alluogi uwch arweinwyr i weithio gydag arweinwyr canol mewn ffordd strwythuredig. Mae’r dulliau hyn wedi cynorthwyo arweinwyr i sefydlu dadansoddiad clir o gynnydd disgyblion trwy fodel goleuadau traffig. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio’n fedrus gan arweinwyr i sicrhau bod cymorth a her yn cael eu blaenoriaethu i’r meysydd sydd fwyaf mewn angen. Mae arweinwyr yn defnyddio dull yn canolbwyntio ar atebion yn gyson, gan annog arweinwyr canol i chwilio am atebion effeithiol, a’u gweithredu. Er bod yr ysgol yn annog ymreolaeth wedi’i hennill, cydnabyddir bod blaenoriaethau ysgol gyfan yn cael eu deall a’u hymgorffori’n llawn wrth wneud penderfyniadau. Mae pob arweinydd yn yr ysgol yn mwynhau cyfathrebu cyson ac effeithiol trwy gyfarfodydd rheolaidd sydd hefyd yn helpu nodi arfer ragorol i’w lledaenu mewn cyfarfodydd arweinwyr canol. Mae ystod eang o ddysgu proffesiynol sydd wedi’i dargedu at fedrau arwain penodol wedi cynorthwyo arweinwyr ar bob lefel i wella’u harfer. Mae hyn yn cyd-fynd ag aelodau staff penodol sy’n astudio ar gyfer graddau MA a doethuriaethau. 

Mae gan yr ysgol system gydweithredol a chadarn ar gyfer gwerthuso a gwella. Caiff hon ei llywio gan ystod o dystiolaeth, gan gynnwys dadansoddi arholiadau, arsylwadau dysgu, craffu ar waith a llais y disgybl. Mae uwch arweinwyr wedi canolbwyntio’n dda ar ddatblygu medrau arweinwyr canol fel eu bod yn gyrru’r prosesau hyn, ac mae ganddynt yr ymreolaeth i gyfeirio dulliau eu hadran i sicrhau’r gwelliannau a ddymunir.  

Gellir gweld effaith arweinyddiaeth gydweithredol yn glir yn ymagweddau’r ysgol at bontio a gwella ymddygiad disgyblion. Mae’r ysgol wedi datblygu medrau arwain rhai aelodau staff i weithio’n rheolaidd gyda’r clwstwr cynradd er mwyn deall anghenion darpar ddisgyblion a rhieni’n well. Caiff yr aelodau staff hyn wersi amserlen mewn ysgolion cynradd ac maent wedi cynllunio’u gwaith yn ofalus. Mae’r arweinwyr hyn wedi sefydlu diwylliant o gynhwysiant a goddefgarwch clir ac a ddeellir yn glir y mae staff a disgyblion yn ei groesawu.  

Dros gyfnod amser sylweddol, mae uwch arweinwyr wedi cynnal ffocws cryf ar yrru gwelliannau mewn arweinyddiaeth i elwa ar ymreolaeth ac atebolrwydd wrth sefydlu ymagweddau at wella’r ysgol. Maent yn modelu’r diwylliant hwn â brwdfrydedd a strategaeth ac yn rhoi arweinyddiaeth ddosbarthedig yn ganolog i’r gwaith hwn. Mae nifer o gydweithwyr wedi cwblhau cyrsiau arweinyddiaeth, hyfforddi a MA. Wedyn, caiff yr aelodau staff hyn eu hannog i ledaenu eu dysgu ymhlith aelodau staff eraill. 

Mae arweinwyr yn cydnabod pwysigrwydd cynllunio olyniant. I gefnogi hyn, caiff staff ar bob lefel eu cynnwys mewn llywio gwneud penderfyniadau a datblygu medrau arwain. Caiff mentora a hyfforddi eu defnyddio’n dda, yn yr un modd â defnyddio rolau arwain a chyfleoedd secondio cysylltiedig. Nod yr ysgol yw sicrhau parhad arweinyddiaeth gref, gan feithrin diwylliant o dwf a datblygiad sydd o fudd i staff a disgyblion, fel ei gilydd.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion? 

Mae arweinyddiaeth gref wedi sicrhau gwelliannau pwysig yn ansawdd gwerthuso a gwelliant ac effaith yr addysgu ar ddysgu. Ar draws yr ysgol, mae disgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu, ar y cyfan, ac yn elwa ar addysgu o ansawdd uchel.  

Mae effaith arweinyddiaeth gydweithredol wedi cryfhau cyfathrebu ac wedi creu perthnasoedd gwaith cryf ar draws yr ysgol. Mae’r dull hwn wedi datblygu medrau arwain staff ac wedi galluogi arweinwyr canol ac uwch arweinwyr i gyflawni eu rolau’n effeithiol. Mae staff yn deall gweledigaeth yr ysgol ac wedi elwa’n gyson ar ystod o gyfleoedd datblygiad proffesiynol. Mae arweinwyr wedi sefydlu trefniadau atebolrwydd effeithiol tra’n cynnal dull ar y cyd, hefyd. O ganlyniad i systemau cryf, gall staff fonitro cynnydd disgyblion yn ystyrlon a sicrhau bod grwpiau o ddisgyblion yn cael eu cefnogi’n effeithiol. Mae trosglwyddo gwneud penderfyniadau i arweinwyr canol wedi golygu bod gan staff allu gwell i wneud penderfyniadau gwybodus er budd eu disgyblion.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?  

Mae’r ysgol yn croesawu cyswllt gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithredu’r dull hwn yn eu lleoliad.   


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn