Addysgu Cwricwlwm i Gymru - Estyn

Addysgu Cwricwlwm i Gymru

Adroddiad thematig


I droi is-deitlau Cymraeg ymlaen, cliciwch y botwm CC.

Mae’r adroddiad thematig hwn yn canolbwyntio ar ba mor effeithiol y mae ysgolion yn datblygu ac yn ymwreiddio dulliau addysgu yng Nghwricwlwm i Gymru. Gan fanteisio ar dystiolaeth arolygu, ymweliadau â lleoliadau ysgol (14 o ysgolion cynradd, 10 o ysgolion uwchradd ac un ysgol pob oed) ac adborth gan randdeiliaid, mae’n nodi nodweddion allweddol arfer lwyddiannus a meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach. Casglwyd tystiolaeth ar gyfer yr ystod oedran sy’n gweithio o fewn Cwricwlwm i Gymru ar hyn o bryd yn unig, sef hyd at Flwyddyn 9 mewn ysgolion uwchradd ar adeg yr adroddiad hwn. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rôl ganolog addysgu o ran gwireddu nodau Cwricwlwm i Gymru ac o ran sicrhau deilliannau gwell i ddisgyblion. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd rhoi addysgeg wrth wraidd gwelliant addysgol, gan alw ar ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid cenedlaethol i gynnal ffocws cryf ar addysgu o ansawdd uchel.

  1. Mewn llawer o’r ysgolion yr ymwelom â nhw, mae arweinwyr wedi datblygu a chyfleu gweledigaeth glir, ysgol gyfan ar gyfer addysgu, sy’n cyd-fynd yn agos â dibenion eu cwricwlwm. Mae’r ysgolion hyn wedi sefydlu fframweithiau cytûn ar gyfer addysgeg a, lle caiff y rhain eu rhoi ar waith yn dda, mae staff yn aml yn dangos dealltwriaeth gyson o sut beth yw addysgu effeithiol. Mae hyn yn cynorthwyo athrawon i gymhwyso’r egwyddorion hyn yn hyderus, gan eu haddasu’n fedrus ar draws pynciau a chyfnodau. Fodd bynnag, nid yw lleiafrif o ysgolion wedi datblygu nac ymwreiddio disgwyliadau clir ar gyfer ansawdd addysgu, hyd yn hyn. Yn yr achosion hyn, mae arfer yn yr ystafell ddosbarth yn rhy amrywiol o hyd, gan nad oes gan athrawon ddealltwriaeth gadarn o sut beth yw addysgu effeithiol na dealltwriaeth ddigon da o’i effaith ar ddysgu disgyblion.
  2. Mae addysgu cryf wedi’i ategu gan gynllunio cwricwlwm yn bwrpasol. Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, mae athrawon yn sicrhau bod dysgu wedi’i roi mewn trefn yn feddylgar er mwyn sicrhau dilyniant mewn gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth. Maent yn ailedrych ar gysyniadau allweddol ac yn dylunio tasgau sy’n galluogi disgyblion i gymhwyso dysgu mewn cyd-destunau pwrpasol a difyr. Mae’r ysgolion hyn yn sicrhau y caiff cynlluniau tymor canolig eu datblygu ar y cyd, ar draws grwpiau blwyddyn neu adrannau, gyda digon o strwythur i arwain dysgu a digon o hyblygrwydd i ymateb i anghenion disgyblion. Lle mae’r cynllunio’n llai effeithiol, mae disgyblion yn profi dysgu di-drefn neu nid ydynt yn cael digon o gyfleoedd i ddatblygu ac atgyfnerthu medrau dros gyfnod ac ar draws y cwricwlwm.
  3. Mewn llawer o ysgolion, mae addysgu o ansawdd uchel wedi’i nodweddu gan fwriadau clir ar gyfer dysgu, arferion sefydledig a ffocws cryf ar asesu ffurfiannol. Mae athrawon effeithiol yn esbonio bwriadau dysgu’n glir, yn defnyddio holi’n bwrpasol ac yn addasu’r addysgu er mwyn ymateb i gynnydd a chamsyniadau disgyblion. Mae’r ysgolion cryfaf yn mabwysiadu strategaethau adborth ffurfiannol sy’n annog disgyblion i fyfyrio ar eu dysgu a chymryd camau nesaf ystyrlon. Yn yr ysgolion hyn, mae disgyblion yn gyfranogwyr gweithredol yn eu dysgu ac yn dangos annibyniaeth gynyddol. Mae hyn yn helpu i greu diwylliant lle mae staff a disgyblion yn glir ynghylch sut olwg sydd ar lwyddiant a sut i wella.
  4. Mae llawer o’r ysgolion yr ymwelom â nhw, yn enwedig yn y sector cynradd, yn defnyddio cyd-destunau dysgu dilys a pherthnasol a’r gymuned leol i ddyfnhau ymgysylltiad a sicrhau bod dysgu’n fwy ystyrlon. Mae’r dulliau hyn yn cynorthwyo disgyblion i weld perthnasedd eu dysgu, hybu meddwl beirniadol a chryfhau eu hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn. Yn yr arfer fwyaf effeithiol, mae addysgu’n meithrin chwilfrydedd am Gymru a’r byd ehangach, gan alluogi disgyblion i greu cysylltiad ar draws meysydd o’u dysgu mewn ffyrdd sy’n cefnogi datblygiad disgyblion tuag at y pedwar diben.
  5. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, mae staff yn asesu cynnydd disgyblion yn uniongyrchol yn erbyn y pedwar diben, yn hytrach na chanolbwyntio ar y wybodaeth a’r medrau y mae angen i ddisgyblion eu datblygu dros gyfnod. Mae hyn yn arwain at ddull asesu arwynebol a defnydd amhriodol o’r pedwar diben mewn gwersi unigol. O ganlyniad, caiff amser addysgu gwerthfawr ei dreulio ar weithgareddau nad ydynt yn cyfrannu’n ystyrlon at ddysgu disgyblion.
  6. Lle mae dysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn cael yr effaith fwyaf, mae’n gynaledig, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar wella addysgu. Yn yr ysgolion gorau, mae staff yn cydweithio â’i gilydd i archwilio arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, myfyrio ar addysgeg a mireinio dulliau yng ngoleuni profiad yn yr ystafell ddosbarth. Mae arweinwyr yn creu amser wedi’i ddiogelu ar gyfer dysgu proffesiynol ac yn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â nodau ysgol gyfan ac anghenion datblygu unigol. Caiff anogaeth gan gymheiriaid, grwpiau ymholi a chymorth strwythuredig ar gyfer addysgeg sy’n benodol i bwnc neu gyfnod eu defnyddio’n effeithiol i feithrin gallu a rhannu cyfrifoldeb dros welliant.
  7. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau amser a chyllidebol yn aml yn cyfyngu ar ddarpariaeth ac effaith dysgu proffesiynol mewn rhai ysgolion. Yn yr achosion hyn, dywed staff bod diffyg cyfleoedd i ganolbwyntio ar addysgeg a bod cydymffurfiaeth neu gynnwys statudol yn aml yn cael lle blaenllaw mewn hyfforddiant. Mae hyn yn achosi heriau penodol i staff a fyddai’n elwa ar ddysgu proffesiynol parhaus sy’n benodol i gyfnod neu bwnc, nad yw ar bob amser ar gael yn gyson yn rhan o’u datblygiad proffesiynol rheolaidd.
  8. Ar draws y system, mae ysgolion yn cydnabod yn fwyfwy werth cydweithio o ansawdd uchel rhwng cymheiriaid i ysgogi gwelliant. Mae ysgolion effeithiol yn ymgorffori cymorth, anogaeth ac ymholi rhwng cymheiriaid yn rhan o’u diwylliant proffesiynol. Mae staff yn defnyddio’r dulliau hyn i archwilio arfer, treialu strategaethau a myfyrio ar effaith. Mae’r dulliau hyn nid yn unig yn cefnogi twf proffesiynol, maent hefyd yn hybu diwylliant proffesiynol cydweithredol a chydgyfrifoldeb dros wella ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol.
  9. Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol yr ymwelom â nhw, mae arweinwyr yn integreiddio blaenoriaethau addysgu a dysgu yn eu prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant. Mae staff yn yr ysgolion hyn yn casglu ystod eang o dystiolaeth yn rheolaidd i werthuso ansawdd yr addysgu a’i effaith ar gynnydd disgyblion. Mae deialog broffesiynol wedi’i ymwreiddio ar draws yr ysgol a chaiff sgyrsiau myfyriol eu defnyddio’n barhaus i nodi cryfderau a mireinio arfer. Yn bwysig, mae hunanwerthuso yn yr ysgolion hyn yn canolbwyntio nid yn unig ar roi strategaethau ar waith, ond hefyd ar eu heffaith ar ddysgu.
  10. Lle mae hunanwerthuso’n llai effeithiol, mae’n dueddol o ganolbwyntio ar gydymffurfiaeth arwynebol ag ystod benodol o dechnegau addysgegol, yn hytrach na gwerthuso’r dulliau sy’n cael yr effaith fwyaf ar ddysgu disgyblion. Yn yr achosion hyn, caiff strategaethau addysgu eu defnyddio’n anghyson ac, yn aml, heb ystyriaeth fanwl, ac mae adborth ar arfer yn yr ystafell ddosbarth yn dueddol o atgyfnerthu dull cul, fformiwläig o addysgu.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn