Ymchwil Canfyddiadau Rhanddeiliaid Estyn 2025 - Estyn

Ymchwil Canfyddiadau Rhanddeiliaid Estyn 2025


Yn dilyn ein blwyddyn gyntaf o ymchwil canfyddiadau rhanddeiliaid, n ddiweddar, buom yn holi barn rhanddeiliaid fel rhan o ail flwyddyn y gwaith hyn.

Nod y gwaith hwn yw ein helpu i ddeall sut mae rhanddeiliaid ledled Cymru yn gweld ein gwaith, pwy ydym ni, beth rydym ni’n ei wneud a’r effaith a gawn. Un o’n huchelgeisiau yw bod pawb rydym yn rhyngweithio â nhw yn deall ac yn gwerthfawrogi ein cyfraniad at y sector ac at ddysgwyr yng Nghymru.

Rhannwyd adborth trwy arolwg ar-lein a 25 o gyfweliadau ansoddol.

Mae’r adroddiad llawn o flwyddyn dau ar gael yn Saesneg yn unig isod.