Pan ddaeth y cyfyngiadau ar y wlad ym mis Mawrth, roedd yn sioc i’r system. Fe wnaeth y rhan fwyaf o ysgolion, colegau a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill atal neu ostwng eu gwaith wyneb yn wyneb gyda dysgwyr dros nos bron, ac yn ei le daeth gweithio o bell a gweithio ar-lein. Rhoesom y gorau i arolygu ar fyr rybudd iawn ac atal ein negeseuon e-bost misol i randdeiliaid a blogiau, a rhoesom y gorau i hybu arfer effeithiol a’r Adroddiad Blynyddol er mwyn rhoi cyfle i randdeiliaid newid y ffordd yr oeddent yn darparu dysgu.
Felly, beth rydym ni wedi bod yn ei wneud ers mis Mawrth?
Yn ei flog nôl ym mis Mehefin, diolchodd ein Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands, i bawb sy’n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod y cyfnod anodd hwn. Esboniodd sut rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol i gynnig cyngor ac arweiniad i ddarparwyr ar gefnogi parhad dysgu mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae hyn wedi cynnwys arweiniad i sicrhau na chaiff yr un dysgwr ei eithrio rhag dysgu, ynghyd â chyngor ar sut i ddefnyddio technoleg i barhau ag addysg mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau). Hefyd, cyfrannom at gymorth ar gyfer meysydd pwysig eraill, gan gynnwys:
- Diogelu
- Rhieni
- Ysgolion cyfrwng Cymraeg y mae eu disgyblion yn byw mewn cartrefi Saesneg eu hiaith
- Iechyd a lles
- Dysgu cyfunol
- Cyflwyno Safon Uwch
Trwy gydol y cyfnod clo, rydym wedi cadw mewn cysylltiad â darparwyr addysg a hyfforddiant drwy alwadau ffôn a fideo, a chyfarfodydd gyda rhai o’n grwpiau ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys ein grŵp cyfeirio penaethiaid. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gallu dechrau creu darlun o sut mae darparwyr ledled y wlad wedi ymateb i’r argyfwng. Mae wedi bod yn arbennig o bwysig i AEM unigol gynnig cymorth bugeiliol i unrhyw ddarparwyr y nodwyd ar hyn o bryd eu bod yn achosi pryder. Mae’r darparwyr hyn yn dweud wrthym fod cael sgwrs ag AEM a sicrwydd ynghylch sut rydym ni’n bwriadu’u cefnogi nhw wrth i bethau fynd nôl i’r arfer yn rhywbeth y gwnaethant ei werthfawrogi’n fawr. Mae ein cyswllt â darparwyr wedi’n helpu i gyhoeddi cyfres o ddogfennau Cymorth i Ddal ati i Ddysgu ar ein gwefan. Mae’r rhain yn cynnig cipolygon defnyddiol i’r ffordd y mae rhai ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr ôl 16 wedi mynd i’r afael â’r heriau a wynebont dros y misoedd diwethaf.
Beth fyddwn ni’n ei wneud o fis Medi?
Gan fod mwy o weithgareddau mewn ysgolion a darparwyr eraill erbyn hyn, rydym ni’n dechrau ailsefydlu ein llais fel y gallwn:
- Barhau i gynorthwyo ysgolion a darparwyr addysg eraill trwy amlygu amrywiaeth o adnoddau defnyddiol Estyn.
- Sicrhau rhieni, dysgwyr a’r cyhoedd.
- Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar sut mae’r broses o ddychwelyd i ddysgu yn mynd..
- Parhau’r drafodaeth am y Cwricwlwm i Gymru.
Yn ystod rhan gyntaf tymor yr hydref, byddwn yn parhau i ymgysylltu ag ysgolion a darparwyr eraill trwy alwadau ffôn neu fideo. Bydd hyn yn ein helpu i ddysgu rhagor am eu gwaith dros y misoedd diwethaf a pha mor dda mae dysgwyr a staff yn dod i’r arfer â ffyrdd newydd o weithio. Byddwn yn gofyn i arweinwyr a staff pa mor ddefnyddiol fu’r cymorth a gawsant. Bydd y sgyrsiau hyn yn ein helpu i nodi arweiniad pellach a allai fod yn ddefnyddiol iddynt. Hefyd, byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol sut maen nhw wedi bod yn helpu ysgolion ac UCDau i ymateb i’r argyfwng a sut maent yn defnyddio gwersi a ddysgwyd i gynllunio ar gyfer unrhyw argyfwng tebyg yn y dyfodol. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth a gasglwn o’r sgyrsiau hyn gyda Llywodraeth Cymru i’w helpu i ddeall yr ymateb cenedlaethol i argyfwng y pandemig.
Yn nes ymlaen yn y tymor, os bydd hi’n briodol, rydym yn gobeithio cynnal ymweliadau wyneb yn wyneb byr â darparwyr. Os aiff pethau’n dda a bydd y sefyllfa’n parhau i wella, bydd hyd yr ymweliadau hyn yn cynyddu gydag amser. Yn ystod yr ymweliadau hyn, bydd ffocws ein sgyrsiau gydag ysgolion ac UCDau yn symud yn raddol o’r ymateb i COVID-19 i’r cwricwlwm. Dyma oedd ein cynllun bob amser ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, fel y gallem ymgysylltu â phob ysgol a gynhelir ac UCD, a’u cynorthwyo nhw i gynllunio a pharatoi ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’n bwysig ein bod yn gallu dechrau siarad am hyn eto pan fydd ysgolion ac UCDau yn barod i wneud hynny. Mewn colegau a darparwyr ôl-16 eraill, byddwn yn canolbwyntio ar ddysgu cyfunol a lles dysgwyr.
Yn ystod tymor yr hydref, byddwn hefyd yn parhau â’n cymorth i ysgolion a darparwyr sy’n destun pryder. Byddwn yn cysylltu â nhw ym mis Medi neu Hydref i weld sut maen nhw’n dod yn eu blaen ac i gynnig ymweliadau bugeiliol yn nes ymlaen yn ystod y tymor. Bydd hyn yn ein helpu i ailymgysylltu â nhw yn anffurfiol a thrafod sut a phryd y byddwn yn dychwelyd i’n hamserlen arferol o ymweliadau dilynol.
Er na fydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn ein gweld ni wyneb yn wyneb am gyfnod, mae rhai eithriadau. Er enghraifft, bydd angen i ni ymweld â rhai ysgolion annibynnol a cholegau arbenigol annibynnol y tymor hwn ar gyfer ymweliadau monitro blynyddol ac ymweliadau cofrestru. Yn achos yr ysgolion hyn, byddwn yn ystyried ceisiadau unigol am newid perthnasol ac yn penderfynu p’un a fydd angen i ni ymweld â’r safleoedd ac ymateb yn unol â hynny. Yn ystod tymor yr hydref, byddwn yn gwerthuso’r posibilrwydd o ailgychwyn arolygiadau craidd ar gyfer pob darparwr heblaw ysgolion a gynhelir ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn nhymor y Gwanwyn. Os nad yw’n bosibl gwneud hyn, byddwn yn parhau â’n rhaglen o alwadau ffôn ac ymweliadau ymgysylltu. Hefyd, mae gwaith statudol i ni ei wneud y tymor hwn ar gyd-arolygiadau addysg yn y sector cyfiawnder.
Felly, fel y gwelwch, fel y mae pob darparwr addysg yn addasu i ffyrdd newydd o weithio ar hyn o bryd, rydym ni’n gwneud hynny hefyd. Rydym yn ateb heriau rhith-gyfarfodydd, ac yn ymgysylltu â chydweithwyr a sefydliadau ledled y wlad ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol ar-lein.
Nawr yw’r amser i ni i gyd weithio gyda’n gilydd. Mae’n gyfle i sicrhau bod dyfodol ein plant a’n pobl ifanc yn ddiogel, er gwaethaf y tarfu a achoswyd gan COVID-19.