Rôl yr Enwebai - Estyn

Rôl yr Enwebai


Two primary school students in art class

Mae enwebai’n gweithredu fel cynrychiolydd yr ysgol ar y tîm arolygu trwy gydol wythnos yr arolygiad. Fel arfer, y pennaeth sy’n ymgymryd â’r rôl hon, ond gellir ei neilltuo i uwch arweinydd arall hefyd, os yw’r ysgol yn cytuno. Mae mewnbwn yr enwebai yn helpu i sicrhau bod gan y tîm arolygu ddealltwriaeth lawn o gyd-destun yr ysgol. Gallant gynnig gwybodaeth a chyd-destun ychwanegol am yr ysgol, cynnig eglurhad ar feysydd a drafodwyd gan y tîm arolygu a sicrhau bod llais yr ysgol yn cael ei glywed yn ystod y broses arolygu.

Gallwch ddysgu mwy am rôl yr enwebai isod: