Rhaglen Arweinwyr o Leiafrifoedd Ethnig - Estyn

Rhaglen Arweinwyr o Leiafrifoedd Ethnig


Grŵp o bump o bobl amrywiol yn gwenu, gyda thestun uwchben yn darllen 'Rhaglen Arweinwyr Lleiafrifoedd Ethnig' ar gefndir oren.

Yn 2023, lansiwyd rhaglen ddatblygu newydd i leihau’r rhwystrau sy’n wynebu gweithwyr addysg o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Nod y rhaglen yw cynyddu amrywiaeth mewn arweinyddiaeth addysg a helpu i oresgyn rhwystrau rhag dilyniant gyrfa, gan effeithio’n uniongyrchol ar gadw a dilyniant gyrfa addysgwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ac yn y pen draw, ar ganlyniadau dysgwyr.

Hyd yn hyn rydym wedi hyfforddi cynrychiolwyr o’r sectorau cynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg gychwynnol athrawon (AGA) ac mae’r rhaglen wedi cael ei ymestyn i gynnwys unigolion cymwys o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol a sectorau addysg eraill.

Wrth i gyfranogwyr symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, rydym yn gobeithio y bydd rhai yn arolygwyr cymheiriaid neu llawn amser (AEF) yn y dyfodol.

Os hoffech gael gwybod pryd y bydd ceisiadau ar agor nesaf ar gyfer y rhaglen, cofrestrwch i gael diweddariadau yma.