Gallai pobl ifanc fregus/sydd mewn perygl ymddieithrio o addysg ôl-16, hyfforddiant a chyflogaeth heb gymorth parhaus gan weithiwr arweiniol 


Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn yn gwerthuso effeithiolrwydd ac effaith rôl y gweithiwr arweiniol mewn cynorthwyo pobl ifanc sydd mewn perygl trwy eu cyfnod pontio i addysg ôl-16, hyfforddiant neu gyflogaeth.  

Pan mae’n gweithio’n dda, mae adroddiad Estyn yn amlygu y gall y rôl hon fod yn bresenoldeb cyson a dibynadwy, yn darparu cymorth personoledig ar gyfer y bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl i’w helpu i aros mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, neu ddechrau ynddynt. Fodd bynnag, mae adroddiad Estyn yn amlygu bod anghenion pobl ifanc yn gynyddol gymhleth a bod arweinwyr a rheolwyr mewn awdurdodau lleol wedi wynebu heriau wrth fodloni graddfa’r angen ac asesu’r math o gymorth sydd ei angen.  

Roedd cydweithio lleol i gefnogi rôl y gweithiwr arweiniol yn amrywio, gyda’r achosion gorau yn cynnwys cynrychiolaeth gref o asiantaethau perthnasol ac arweinwyr yn ymrwymo i rannu gwybodaeth a data. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, roedd heriau oherwydd gorbryderon a diffyg dealltwriaeth ynglŷn â pha wybodaeth bersonol am anghenion a chefndir pobl ifanc y gellid ac na ellid ei rhannu.  

Dywed Owen Evans, y Prif Arolygydd: “Bwriad rôl y gweithiwr arweiniol yw darparu gwasanaeth cymorth cyson i bobl ifanc sydd mewn perygl wrth iddynt ddechrau mewn addysg ôl-16, hyfforddiant neu gyflogaeth. Rydym yn ymwybodol bod atgyfeiriadau a chymhlethdod anghenion yn cynyddu ond bod angen mwy o barhad ar bobl ifanc yn y cymorth a gânt.

“Rhaid i gyrff addysgol ddatblygu ffyrdd o fesur llwyddiant eu gwaith i atal pobl ifanc rhag ymddieithrio o addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (ACH). Bydd rhannu data yn well am amgylchiadau pobl ifanc unigol i hwyluso cydweithio cryfach rhwng yr holl bartneriaid, gan gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant, yn galluogi pobl ifanc i gael cymorth mwy perthnasol ac amserol.

“Rydym ni’n argymell y dylid gwneud gwelliannau i gymorth pontio ôl-16 trwy sicrhau parhad yng ngweithiwr arweiniol person ifanc tan 31 Ionawr ar ôl i berson ifanc symud i’w gyrchfan ôl-16, p’un a yw hyn yn yr ysgol, yn y coleg, gyda darparwr hyfforddiant, neu gyflogaeth.”  

Dywed Janine Bennett, awdur yr adroddiad: “Ym mywyd person ifanc, y gweithiwr arweiniol yn aml yw’r unig bresenoldeb cyson a dibynadwy. Mae ein hymchwil yn dangos bod gweithwyr arweiniol wedi chwarae rôl ganolog yn darparu cymorth personoledig ar gyfer pobl ifanc o ran eu sefyllfa bresennol, a manteisio ar gyfleoedd dilyniant. Fodd bynnag, canfu ein hadroddiad, er bod gweithgareddau pontio i golegau ôl-16 wedi’u strwythuro’n dda, yn nodweddiadol, roedd y cydweithio rhwng darparwyr ôl-16 a gweithwyr arweiniol yn aml yn ddiffygiol ar ôl i berson ifanc gofrestru, ac nid yw llawer o ddarparwyr hyfforddiant yn ymwybodol o rôl y gweithiwr arweiniol a’i manteision.”

Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar dystiolaeth a gasglwyd trwy gyfres o ymweliadau ag 11 awdurdod lleol, 9 ysgol uwchradd, 5 coleg, 5 darparwr hyfforddiant, a thimau Gyrfa Cymru. Mae’r adroddiad yn dod â mewnwelediadau, enghreifftiau o arfer effeithiol a sawl argymhelliad at ei gilydd.