Ymchwil Canfyddiadau Rhanddeiliaid Estyn
Ym mis Rhagfyr 2024, cyhoeddwyd canlyniadau ein hymchwil canfyddiadau rhanddeiliaid.
Comisiynwyd prosiect ymchwil annibynnol i geisio adborth gonest ar ganfyddiadau o’n gwaith, ein brand a’n henw da ymhlith amrywiaeth o randdeiliaid.
Pwrpas ceisio mewnwelediadau gan randdeiliaid yw cael dealltwriaeth ddyfnach o’r berthynas gwaith sydd gennym â’n rhanddeiliaid – i asesu ein henw da, asesu effaith a defnyddioldeb ein hadroddiadau, cyhoeddiadau ac ymgyrchoedd allweddol ac i ddeall hoff ffyrdd rhanddeiliaid o gyfathrebu ac ymgysylltu â ni.
Rhannwyd adborth trwy arolwg ar-lein a 23 o gyfweliadau ansoddol.
Bydd yr ymchwil yn cael ei gynnal yn flynyddol dros dair blynedd i ddechrau, er mwyn ein galluogi i feincnodi a llywio ein blaenoriaethau’n well wrth symud ymlaen.
Mae’r adroddiad llawn o flwyddyn un ar gael yn Saesneg yn unig isod.