Polisi Menopos - Estyn

Polisi Menopos


Bwriad y polisi hwn yw codi ymwybyddiaeth am y menopos ymhlith yr holl gyflogeion a rheolwyr, gan helpu hyrwyddo a chreu amgylchedd gweithio cwbl gynhwysol a chefnogol ar gyfer pob un o’r cyflogeion sy’n cael eu heffeithio gan y menopos.

Rydym yn cydnabod y gallai fod angen ystyriaeth, cymorth ac addasiadau ychwanegol ar fenywod sy’n profi’r menopos, boed hynny cyn, yn ystod neu ar ôl y cyfnod hwn o newid hormonaidd a
symptomau cysylltiedig. Rydym ni am i gydweithwyr deimlo’n gyfforddus i godi materion am eu symptomau a gofyn am addasiadau i’r gweithle.

Er y gallem ni gyfeirio at fenywod neu ddefnyddio rhagenwau benywaidd trwy gydol y polisi hwn, rydym yn deall y gallai fod pobl eraill sydd hefyd yn profi symptomau’r menopos, yn cynnwys pobl drawsryweddol, pobl anneuaidd, a chyflogeion rhyngryw. Mae’r cymorth y cyfeirir ato yn yr arweiniad hwn wedi’i fwriadu ar gyfer yr holl gyflogeion sy’n cael eu heffeithio gan y menopos.