Polisi codi pryder (gan gynnwys chwythu’r chwiban)
Dylai holl gydweithwyr Estyn deimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel i godi eu llais os deuant ar draws rhywbeth yn ystod eu gwaith sydd wedi digwydd, sy’n digwydd ar hyn o bryd neu sydd ar ddod, y credant ei fod yn anghywir, yn anghyfreithlon neu’n peryglu pobl eraill.
Mae codi pryder yn golygu rhoi gwybod am gamwedd, risg neu gamymarfer a amheuir sy’n effeithio ar grŵp ehangach o unigolion, fel cydweithwyr, y sefydliad, cwsmeriaid a’r cyhoedd ehangach.
Fe allai ‘pryder’ gynnwys (ymhlith pethau eraill) rhywbeth a fyddai’n gyfystyr â datgeliad chwythu’r chwiban o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, achos honedig o dorri Cod y Gwasanaeth Sifil, neu ddatgeliad a fyddai’n torri Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 pe na byddai’n cael ei wneud trwy’r sianeli priodol.
Rydym wedi ymrwymo i:
- sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn gallu codi llais pan fydd ganddynt bryder, ac
yn deall eu cyfrifoldeb i wneud hynny - sicrhau bod unrhyw un sydd â phryder yn ymwybodol o sut i’w godi
- gwrando ar y rhai sy’n codi pryder, a’u trin â pharch
- delio â phryderon yn gyfrifol, yn broffesiynol ac mewn modd cadarnhaol
- sicrhau bod y rhai sy’n codi pryder yn cael eu hamddiffyn, fel y manylir yn y
weithdrefn - cefnogi’r rhai sy’n gysylltiedig, trwy ymchwilio’n llawn i’w pryderon ac
uwchgyfeirio, fel y bo’n briodol - hyfforddi swyddogion enwebedig ar sut i gefnogi staff
- rhoi neges glir a chyson o’r brig bod dyletswydd ar bawb i godi llais ac y bydd
unrhyw un sy’n gwneud hynny’n ddidwyll yn cael ei amddiffyn rhag unrhyw ddial
Sylwer: Nid yw Estyn yn gorff chwythu’r chwiban rhagnodedig. Mae hyn yn golygu na allwn ymchwilio i unrhyw bryderon a allai fod gennych ynglŷn ag ysgol, coleg neu gorff addysgol arall. Os oes gennych bryder o’r fath, dylech gysylltu â’r corff rhagnodedig priodol ar restr y llywodraeth.