Polisi aflonyddu rhywiol - Estyn

Polisi aflonyddu rhywiol


Mae Estyn wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a diogel i bob cydweithiwr. Mae’r polisi hwn yn amlinellu ein cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Amddiffyn Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010), sy’n datgan bod rhaid i gyflogwyr gymryd “camau rhesymol i amddiffyn cyflogeion rhag aflonyddu rhywiol yn ystod eu cyflogaeth”.

Nid yw Estyn yn goddef aflonyddu rhywiol, ac yn ogystal â’r darpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddeddf Amddiffyn Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010), fe allai fod yn drosedd.

Nod y Polisi hwn yw amddiffyn cydweithwyr rhag awgrymiadau rhywiol digroeso ac, os oes aflonyddu rhywiol wedi digwydd, bydd yn rhoi canllawiau clir ar sut i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau. Bydd hefyd yn amlinellu sut y bydd unrhyw adroddiadau o’r fath yn cael eu trin, ac yn rhoi cyngor clir ar y camau y mae Estyn wedi’u cymryd i gefnogi dioddefwyr aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Rydym wedi ymrwymo i:

  • Greu amgylchedd lle nad yw aflonyddu rhywiol o unrhyw fath yn dderbyniol
  • Sicrhau bod cydweithwyr yn cael eu hamddiffyn rhag aflonyddu rhywiol, boed hynny gan gydweithiwr, rhanddeiliad allanol neu gontractwr
  • Sicrhau bod arferion cadarn ar waith i ddelio ag unrhyw honiad o aflonyddu rhywiol a chymryd camau prydlon
  • Sicrhau bod y rhai sy’n profi neu’n gweld aflonyddu rhywiol yn gwybod sut i adrodd amdano a’u bod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt
  • Pan adroddir am achosion, sicrhau eu bod yn cael eu trin mewn modd prydlon, sensitif a phriodol
  • Darparu hyfforddiant fel bod pawb yn adnabod beth yw aflonyddu rhywiol ac yn deall yr effaith y mae’n ei chael ar unigolion a’r sefydliad.