Ysgolion yng Nghymru yn archwilio manteision a heriau AI, ond yn galw am ddull cenedlaethol clir - Estyn

Ysgolion yng Nghymru yn archwilio manteision a heriau AI, ond yn galw am ddull cenedlaethol clir

Erthygl

Three children with their backs to the photographer, sitting on a desk in front of computers.

Mae adroddiad Estyn newydd, “Oes Newydd: Sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Cefnogi Addysgu a Dysgu”, yn tynnu sylw at y cyfleoedd a’r risgiau o ddefnyddio AI mewn addysg.

Mae’r adroddiad yn canfod, er bod llawer o ysgolion yn dal i fod yn y cyfnod cynnar defnyddio AI, fod rhai yn dechrau gweld sut y gall leihau llwyth gwaith athrawon a chefnogi cynhwysiant. Fodd bynnag, mae Estyn yn dod i’r casgliad bod angen dull cenedlaethol cydlynol i sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel, yn foesegol ac yn effeithiol ledled Cymru.

Mae’r adolygiad thematig yn tynnu ar ymweliadau ag ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), yn ogystal â sgyrsiau ag arweinwyr, staff a disgyblion, ac arolwg cenedlaethol. Mae’n datgelu bod athrawon eisoes yn elwa o ostyngiadau llwyth gwaith, yn enwedig wrth gynllunio gwersi, creu adnoddau ac ysgrifennu adroddiadau. Yn y cyfamser, mae disgyblion yn ymgysylltu’n gadarnhaol â AI, gan wneud defnydd o brosiectau creadigol, gweithgareddau adolygu a chyfleoedd dysgu annibynnol.

Mae ysgolion yn cydnabod potensial AI fwyfwy i gefnogi ecwiti a chynhwysiant, yn enwedig ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Ac eto ar yr un pryd, mae staff yn codi pryderon ynghylch gorddibyniaeth ar AI, diogelu, amddiffyn data a’r risg o raniad digidol rhwng disgyblion sy’n gallu cael mynediad at offer AI taledig a’r rhai na allant. Er bod ychydig o ysgolion wedi dechrau ymgorffori AI yn strategol yn eu cynlluniau gwella, mae’r rhan fwyaf yn gweithio ar eu pen eu hunain gyda chydweithrediad cyfyngedig neu gefnogaeth genedlaethol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Owen Evans:

“Mae gan ddeallusrwydd artiffisial y potensial i drawsnewid addysgu a dysgu, lleihau llwyth gwaith, a chefnogi cynhwysiant mewn ysgolion. Ond mae hefyd yn dod â heriau na allwn eu hanwybyddu. Er mwyn sicrhau bod AI o fudd i bob dysgwr yng Nghymru, mae angen dull cenedlaethol clir arnom – un sy’n gynaliadwy, yn foesegol, ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i ddisgyblion.”

Mae’r adroddiad yn galw am ganllawiau cenedlaethol clir, dysgu proffesiynol strwythuredig, ac arweinyddiaeth gref i helpu ysgolion i ddefnyddio AI yn effeithiol ac yn ddiogel.

I gydfynd â’r adroddiad, mae fideos astudiaethau achos wedi’u cyhoeddi i amlygu arfer effeithiol:

Defnyddio AI i Wahaniaethu
AI a Dysgu Proffesiynol
Defnyddio AI i Leihau Pwysau Gwaith
Sut mae AI yn Cefnogi Addysgu a Dysgu
Ymagwedd Strategol i AI