Ysgolion wedi cael eu cefnogi i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, ond mae angen cymorth mwy ymarferol o ran dylunio a chyflwyno

Erthygl

Mae ysgolion wedi cael eu cefnogi i ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer addysgu a’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys meddwl am ei egwyddorion sylfaenol, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn. 

Fodd bynnag, byddai ysgolion yn croesawu cyfleoedd dysgu proffesiynol mwy ymarferol gan gonsortia, partneriaethau eraill ac awdurdodau lleol i’w helpu i ddeall sut gallant ddylunio a chyflwyno eu cwricwlwm newydd.

Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans,

Mae’r cwricwlwm newydd yn elfen hanfodol o ddyfodol addysg Cymru. Er bod y consortia yn llwyddo i gynnig cefnogaeth gyffredinol i ysgolion sy’n ymgysylltu â’r cwricwlwm newydd, mae angen gwaith pellach i sicrhau bod ysgolion unigol yn cael y gefnogaeth bwrpasol sydd eu hangen arnynt. Nid oes modd gwahanu addysgu a’r cwricwlwm, ac mae’r gefnogaeth gyffredinol i wella ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth yn rhy amrywiol. Yn rhy aml, nid yw hyn yn targedu’r agweddau penodol y mae angen eu gwella, sy’n gallu effeithio ar gynnydd a dysgu disgyblion. 

Yn olaf, er bod y consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn ceisio barn rhanddeiliaid ac yn defnyddio ymgynghorwyr allanol i adolygu eu gwaith, at ei gilydd, mae angen iddynt wneud mwy i werthuso effaith eu dysgu proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm ac addysgu.

Mae’r adroddiad yn cynnwys cameos arfer ddiddorol, fel sut datblygodd Consortiwm Canolbarth y De fodel i gynorthwyo eu hysgolion ac UCDau i ddeall y broses ar gyfer dylunio’r cwricwlwm. Mae’r model wedi helpu swyddogion y consortiwm i gynorthwyo ysgolion i ddatblygu prosesau dylunio ac wedi rhoi cyfle i ysgolion fanteisio ar ddysgu proffesiynol sy’n addas iddynt ar wahanol gyfnodau datblygu’r cwricwlwm.