Sioe Deithiol Mathemateg Uwchradd: Datgloi potensial o ran addysgu ac arweinyddiaeth mathemateg  - Estyn

Sioe Deithiol Mathemateg Uwchradd: Datgloi potensial o ran addysgu ac arweinyddiaeth mathemateg 

Erthygl

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth yn dal cardiau gyda llythrennau, yn cymryd rhan mewn gweithgaredd addysgol.

Digwyddiad Dysgu mewn partneriaeth ag Estyn 

Rydym yn gwahodd athrawon mathemateg ysgolion uwchradd a phenaethiaid adrannau mathemateg i ymuno â ni ar gyfer y Sioe Deithiol Mathemateg Uwchradd, y byddwn yn ei chyflwyno mewn partneriaeth â Dysgu. 

Mae’r gyfres hon o ddigwyddiadau yn cynnig cyfle gwerthfawr i archwilio dulliau wedi’u seilio ar dystiolaeth sy’n cefnogi addysgu mathemateg o ansawdd uchel, yn cryfhau arweinyddiaeth adrannol ac yn gwella deilliannau dysgwyr. Bydd cynrychiolwyr yn cael mewnwelediadau o ymchwil ac arfer bresennol, ac yn cymryd rhan mewn sesiynau sydd wedi’u cynllunio i lywio addysgeg ystafell ddosbarth a chynllunio  strategol. 

Gall pob ysgol uwchradd gofrestru hyd at ddau gynrychiolydd, a chaiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Bydd y sioe deithiol yn cynnwys chwe sesiwn ar draws tri lleoliad: 

De Cymru – Pencadlys Estyn, Llys Angor, Caerdydd Dydd Llun 23 Chwefror 2026 
bydd sesiwn y bore’n cael ei chyflwyno yn Saesneg yn unig; bydd sesiwn y prynhawn yn cael ei chyflwyno’n ddwyieithog  

De Orllewin Cymru – Village Hotel, Abertawe  Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026 
bydd sesiwn y bore’n cael ei chyflwyno yn Saesneg yn unig; bydd sesiwn y prynhawn yn cael ei chyflwyno’n ddwyieithog  

Gogledd Cymru – Galeri, Caernarfon Dydd Iau 26 Chwefror 2026 
Bydd y ddwy sesiwn yn cael eu cyflwyno’n ddwyieithog