Rhaid i ysgolion flaenoriaethu addysgu o ansawdd uchel i wireddu nodau Cwricwlwm i Gymru

Mae adroddiad thematig newydd gan Estyn yn tynnu sylw at rôl ganolog addysgu effeithiol wrth gyflwyno Cwricwlwm i Gymru a gwella deilliannau i ddysgwyr. Ar sail tystiolaeth o ymweliadau ag ysgolion ledled Cymru a thystiolaeth o adroddiadau arolygu diweddar, mae’r adroddiad yn nodi arfer gref lle mae ysgolion wedi ymwreiddio ymagweddau cyson a phwrpasol tuag at addysgeg – ac yn galw am ffocws newydd ar ansawdd addysgu ym mhob ysgol.
Ymwelodd arolygwyr â 25 o ysgolion, gan gynnwys ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed, i archwilio sut mae addysgu’n cael ei ddatblygu yn unol ag egwyddorion Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adroddiad yn canfod, mewn llawer o ysgolion, bod arweinwyr wedi sefydlu gweledigaethau clir, ysgol gyfan ar gyfer addysgu sy’n cyd‑fynd â dibenion y cwricwlwm a, lle caiff hyn ei gefnogi gan ddysgu proffesiynol strwythuredig, mae addysgu’n cael effaith gadarnhaol ar gynnydd ac ymgysylltiad disgyblion.
Fodd bynnag, canfu Estyn hefyd fod disgwyliadau ar gyfer ansawdd addysgu yn aneglur mewn lleiafrif o ysgolion, gan arwain at arfer anghyson yn yr ystafell ddosbarth a deilliannau gwannach i ddisgyblion.
Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans:
“Mae addysgu o ansawdd uchel wrth wraidd diwygio addysg yng Nghymru. Wrth i ni symud ymhellach i roi Cwricwlwm i Gymru ar waith, mae ein tystiolaeth yn dangos, pan fydd ysgolion yn rhoi addysgeg wrth wraidd eu gwaith – a phan gaiff athrawon eu cefnogi trwy ddysgu proffesiynol parhaus, cydweithredol – mae disgyblion yn ffynnu.
Ond nid yw hyn yn wir ym mhob ysgol eto. Mae angen ymrwymiad cyson, cenedlaethol arnom i wella addysgu ar draws pob cyfnod, fel y gall pob disgybl, ym mhob ystafell ddosbarth, elwa ar ddysgu difyr ac effeithiol.”
Mae’r adroddiad yn nodi nodweddion allweddol addysgu cryf, gan gynnwys:
- Bwriadau dysgu clir a gwersi sydd wedi’u strwythuro’n dda.
- Cynllunio cwricwlwm yn bwrpasol, sy’n meithrin gwybodaeth a medrau dros gyfnod.
- Defnyddio asesu ffurfiannol yn effeithiol i addasu addysgu a hybu myfyrio gan ddisgyblion.
- Defnyddio cyd-destunau dilys a lleol i ddyfnhau ymgysylltiad a chryfhau hunaniaeth.
- Dysgu proffesiynol cynaledig a chydweithredol sy’n canolbwyntio ar addysgeg.
Mae’r ysgolion mwyaf effeithiol hefyd yn integreiddio blaenoriaethau addysgu mewn hunanwerthuso a chynllunio gwelliant. Mae arweinwyr yn y lleoliadau hyn yn casglu tystiolaeth eang ac yn hybu deialog broffesiynol sy’n canolbwyntio nid yn unig ar yr hyn sy’n cael ei addysgu, ond pa mor dda y mae disgyblion yn dysgu, hefyd.
Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio rhag defnyddio pedwar diben y cwricwlwm yn arwynebol wrth gynllunio gwersi neu asesu. Mewn rhai ysgolion, mae staff yn asesu’n uniongyrchol yn erbyn y pedwar diben yn hytrach na chanolbwyntio ar y wybodaeth a’r medrau y mae angen i ddisgyblion eu datblygu, gan arwain at brofiadau dysgu llai ystyrlon. Ar ben hynny, mae amser a chyllidebau cyfyngedig mewn rhai ysgolion yn cyfyngu ar allu staff i fanteisio ar ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel. Yn yr achosion hyn, mae hyfforddiant yn dueddol o ganolbwyntio ar gynnwys statudol neu gydymffurfiaeth, yn hytrach nag ar ddyfnhau arbenigedd addysgu.
Mae Estyn yn galw ar ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid cenedlaethol i gynnal ffocws cryf, ar draws y system, ar wella addysgu. Mae dysgu proffesiynol cynaledig, arweinyddiaeth fyfyriol a diwylliant cydweithredol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod Cwricwlwm i Gymru yn cyflawni ei uchelgeisiau.