Rhaid i addysgu o ansawdd uchel, llythrennedd ac arweinyddiaeth fod wrth wraidd gwella addysg – mewnwelediadau cynnar Estyn yn datgelu’r hyn sy’n gweithio yng Nghymru. - Estyn

Rhaid i addysgu o ansawdd uchel, llythrennedd ac arweinyddiaeth fod wrth wraidd gwella addysg – mewnwelediadau cynnar Estyn yn datgelu’r hyn sy’n gweithio yng Nghymru.

Erthygl

Heddiw, mae Estyn wedi cyhoeddi ei fewnwelediadau cynnar o Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2024-25, gan nodi’r hyn sy’n gweithio’n dda ar draws addysg yng Nghymru a’r hyn y mae angen ei wella. Mae’r canfyddiadau’n cynnig cipolwg cynnar ar yr heriau a’r llwyddiannau yn genedlaethol ar draws deunaw sector addysg a hyfforddiant, cyn cyhoeddi’r adroddiad llawn ym mis Chwefror 2026.

Mae canfyddiadau diweddaraf Estyn, a gasglwyd o dros 400 o ymweliadau arolygu yn 2024-25, yn dangos bod lles a diogelu dysgwyr yn parhau i fod yn sylfeini cryf mewn addysg yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnal amgylcheddau cadarnhaol a chynhwysol, lle mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn barod i ddysgu. Fodd bynnag, mae presenoldeb yn broblem barhaus mewn llawer o sectorau o hyd.

Mae’r penawdau ar draws pob sector yn tanlinellu pwysigrwydd addysgu o ansawdd uchel a medrau llythrennedd cryf wrth helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial ar draws y cwricwlwm ac mewn hyfforddiant. Caiff ystod o enghreifftiau cryf eu hamlygu; fodd bynnag, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod amrywiad o hyd yn ansawdd yr addysgu a chysondeb yn y modd y caiff y cwricwlwm ei gyflwyno ar draws darparwyr.

Mae arweinyddiaeth effeithiol a hunanwerthuso cadarn yn parhau i fod yn nodweddion darparwyr mwyaf llwyddiannus. Mae arweinwyr sy’n adnabod eu hysgolion a’u lleoliadau yn dda, sy’n cynnwys staff mewn myfyrio gonest a gwelliant parhaus, yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i brofiadau a deilliannau dysgwyr.

I gynorthwyo darparwyr i wella eu lleoliadau eu hunain, mae’r crynodebau ar gyfer pob sector yn cyfeirio at adroddiadau arolygu ac astudiaethau achos gan ddarparwyr a arolygwyd ac y canfuwyd eu bod yn gwneud yn arbennig o dda. Mae’r adroddiad yn cwmpasu ystod eang o sectorau ar draws y sectorau addysg a hyfforddiant, gan gynnwys ysgolion, addysg bellach, addysg gychwynnol athrawon, gwasanaethau addysg llywodraeth leol, trefniadau trochi yn y Gymraeg ac addysg yn y sector cyfiawnder. Gyda’i gilydd, maent yn cynnig darlun cenedlaethol o gynnydd, heriau a chyfleoedd ledled Cymru.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Owen Evans:

“Mae’r adroddiad mewnwelediadau cynnar eleni yn amlygu’r neges bod addysgu o ansawdd uchel, llythrennedd cryf ac arweinyddiaeth effeithiol yn hollbwysig i gynnal gwelliant.

“Trwy rannu’r canfyddiadau hyn ar gyfer sectorau penodol nawr, rydym am helpu darparwr i fyfyrio, dysgu o arfer gref a pharhau i adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda.”

“Bydd fy adroddiad blynyddol llawn yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror, a bydd yn cynnig mewnwelediad pellach i’n blaenoriaethau cyfredol ar gyfer addysg a hyfforddiant yma yng Nghymru, gan gynnig rhagor o fanylion am ganfyddiadau ein harolygiadau, ynghyd â dadansoddiad o nifer o themâu ehangach, gan gynnwys llythrennedd, effaith arweinyddiaeth ar addysgu a meddwl yn annibynnol.”  

Mae’r adroddiad mewnwelediadau cynnar ar gael i’w ddarllen ar-lein, gan gynnwys enghreifftiau o arfer effeithiol o bob cwr o Gymru.