Erthyglau Newyddion Archive - Page 8 of 18 - Estyn

Archives: Erthyglau Newyddion


Archives: Erthyglau Newyddion


Mae ymchwil yn awgrymu bod dysgwyr LGBT, mewn llawer o achosion, yn dioddef lefelau uwch o fwlio na’u cyfoedion, a gallant brofi teimladau o arwahanrwydd sy’n cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.  Fodd bynnag, fel rhan o’u hadroddiad arfer effeithiol, canfu arolygwyr fod dysgwyr LGBT yn ffynnu yn yr ysgolion a’r colegau hynny sy’n hyrwyddo diwylliant cynhwysol.  Mae’r dysgwyr hyn yn teimlo mor hyderus â’u cyfoedion i rannu eu teimladau a’u credoau. 

Mae’r arolygiaeth yn argymell y dylai pob ysgol a choleg adolygu pa mor dda y maent yn addysgu amrywiaeth a chynhwysiant ac yn integreiddio’r rhain mewn bywyd bob dydd. 

Mae canllaw arfer dda Estyn yn edrych ar gefnogi dysgwyr LGBT mewn ysgolion a cholegau.  Mae’n canfod bod y darparwyr gorau yn archwilio materion LGBT mewn gwersi mewn ffordd sy’n briodol i gyfnod datblygu’r dysgwr, yn hyrwyddo modelau rôl cadarnhaol ac yn dathlu amrywiaeth yn y gymuned ehangach.  Mae eu harweinwyr a’u staff yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i gasglu eu safbwyntiau a gweithredu er budd y dysgwyr bob amser – gan hyrwyddo unigoliaeth, goddefgarwch a pharch.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd, 

“Mae gan bob disgybl yr hawl i gael addysg yn rhydd o wahaniaethu.  Mae gan ysgolion a cholegau ddyletswydd i sicrhau nad yw disgyblion yn wynebu bwlio homoffobig, deuffobig neu drawsffobig, a mynd i’r afael ag unrhyw achosion o hyn. 

“Dylem ni ddathlu’r arfer dda sy’n cael ei gweld yn yr ysgolion a’r colegau yn adroddiad heddiw, a rhannu hyn yn eang fel bod pob darparwr yn cyflawni diwylliant amrywiol a chynhwysol.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o ysgolion lle mae’r ddarpariaeth yn arbennig o dda.  Sefydlwyd grŵp llais y disgybl, sef Digon, gan Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd, a chynhaliwyd arolwg o’r defnydd o iaith a bwlio homoffobig.  Bu’r ysgol yn gweithio gyda grŵp Digon i wella dealltwriaeth disgyblion o effaith negyddol defnyddio’r math hwn o iaith.  Mae Ysgol Gynradd Eveswell yng Nghasnewydd yn sicrhau bod derbyn gwahanol gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn cael ei addysgu yn yr un ffordd â nodweddion gwarchodedig eraill, fel hil, anabledd a chred grefyddol.

Mae Estyn yn cynnig sawl argymhelliad i helpu ysgolion a cholegau i greu diwylliant cynhwysol.  Mae’r rhain yn cynnwys adolygu eu cwricwlwm, delio’n briodol â bwlio, a sicrhau bod pob un o’r staff wedi eu hyfforddi i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo amrywiaeth.
 

Archives: Erthyglau Newyddion


Yn ôl adroddiad gan Estyn, nid yw lleiafrif o arweinwyr ysgol yn gweld perthnasedd radicaleiddio ac eithafiaeth i’w hysgol, a allai arwain at golli cyfleoedd i nodi a mynd i’r afael â phryderon cynnar.

Dywed Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol: Mae gan ysgolion ran allweddol mewn diogelu pobl ifanc rhag dylanwadau radicaleiddio.  Yng Nghymru, mae bron i hanner yr atgyfeiriadau gwrthderfysgaeth ar gyfer pobl 20 oed ac iau, ac mae’r gyfran uchaf o’r rhain yn dod o’r sector addysg.

Gall radicaleiddio i eithafiaeth dreisgar ddigwydd yn y lleoedd mwyaf annisgwyl.  Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o fwlio, yn enwedig defnydd o iaith hiliol a gwrthdaro rhyng-hiliol rhwng disgyblion, sy’n gallu dangos safbwyntiau radical neu eithafol.

Ymwelodd arolygwyr ag amrywiaeth o ysgolion a darparwyr eraill i gasglu’r dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn.  Mewn un ysgol benodol, gall staff synhwyro problemau neu unrhyw newidiadau mewn ymddygiad yn gyflym trwy arolwg llesiant disgyblion.  Mae’r ysgol yn ymateb i unrhyw dueddiadau sy’n dod i’r amlwg trwy fynd i’r afael â materion trwy’r cwricwlwm mewn meysydd fel addysg bersonol a chymdeithasol, addysg grefyddol, Bagloriaeth Cymru, Saesneg a hanes.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo ysgolion i ddeall eu dyletswyddau, ond mae Estyn yn argymell bod angen i awdurdodau lleol a chonsortia weithio gyda’i gilydd i wneud defnydd gwell o’r cwricwlwm i gynorthwyo disgyblion i feithrin gwydnwch pan fyddant yn wynebu dylanwadau radical ac eithafol.  

Archives: Erthyglau Newyddion


Mewn ysgolion sy’n gweithio’n agos â chyflogwyr, ceir arweinwyr a staff ymroddgar, maent yn gwybod beth yw dyheadau gyrfa eu disgyblion, ac yn cynnig profiadau yn gysylltiedig â gwaith.

Dywed Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol,

Mae cysylltiadau â chyflogwyr yn gallu rhoi cyfle i ddisgyblion elwa ar brofiadau go iawn yn gysylltiedig â gwaith.  Er bod llawer o ysgolion yn cynnal ffair yrfaoedd flynyddol, yn trefnu ymweliadau â gweithleoedd ac yn croesawu pobl i’r ysgol i siarad am yrfaoedd, lleiafrif ohonyn nhw yn unig sydd bellach yn cynnig profiad gwaith.

Mae angen i ysgolion ystyried yn ofalus sut maen nhw’n ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith pan fyddan nhw’n cynllunio eu cwricwlwm newydd fel bod disgyblion yn cael amrywiaeth eang o brofiadau go iawn mewn partneriaeth â chyflogwyr.

Mae’r adroddiad yn sôn am Ysgol Gyfun Glynrhedyn yn Rhondda Cynon Taf lle mae staff wedi gweithio’n galed i oresgyn y diffyg cyfleoedd o ran cyflogaeth leol trwy sefydlu menter gymunedol.  Mae’n darparu ‘sesiynau rhagflas’ gwaith, profiad gwaith a phrentisiaethau Blwyddyn 11 i ddysgwyr na fyddent yn cael cyfleoedd i gael profiad o’r gweithle fel arall.

Mae adroddiad heddiw, sef Partneriaethau â chyflogwyr mewn ysgolion uwchradd ac arbennig, yn cynnwys mwy o astudiaethau achos ac argymhellion, gan gynnwys bod ysgolion yn gwerthuso effaith eu partneriaethau a’u gweithgareddau ar ddealltwriaeth disgyblion o fyd gwaith.  Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Gyrfa Cymru a phartneriaid eraill hefyd i werthuso effaith rhaglenni presennol a llunio arweiniad i gynorthwyo ysgolion i greu cysylltiadau â chyflogwyr.

Archives: Erthyglau Newyddion


Dywed Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol,

Mae rhai disgyblion yn wynebu rhwystrau emosiynol, cymdeithasol a datblygiadol rhag dysgu, tra bydd disgyblion eraill dan anfantais oherwydd caledi ariannol a chymdeithasol gartref.

Mae’r ysgolion mwyaf effeithiol nid yn unig yn canolbwyntio ar yr heriau mae’r disgyblion hyn yn eu profi, maen nhw’n nodi diddordebau a doniau unigol hefyd, ac yn adeiladu ar yr elfennau cadarnhaol hyn.  Mae ymchwil yn dangos, o’r holl ffactorau addysg, mai addysgu yn yr ystafell ddosbarth sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ddysgu disgyblion.  Mae disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn elwa hyd yn oed yn fwy na’u cyfoedion ar addysgu o ansawdd uchel.

Mae adroddiad heddiw yn cynnwys enghreifftiau o lawer o wahanol ysgolion ledled Cymru y mae eu gwaith wedi cael effaith gadarnhaol ar gynorthwyo dysgwyr sy’n agored i niwed a dysgwyr dan anfantais.

Yn yr adroddiad, amlygwyd yr amgylchedd gofalgar yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson yng Nghaerdydd, sydd wedi cael effaith gadarnhaol eang.  Yma, caiff pob disgybl ei atgoffa bob dydd ei fod ‘yn cael ei garu, a’i fod yn gryf, yn bwysig ac yn arbennig’.  Mae athrawon wedi gweld perthnasoedd gwell rhwng staff a disgyblion, gostyngiad mewn digwyddiadau negyddol, ac mae disgyblion yn canolbwyntio ar gyflawni eu llawn botensial.

Mae adroddiad heddiw, sef ‘Cymorth ysgol effeithiol ar gyfer disgyblion dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed’ yn argymell y dylai pob ysgol ystyried yr arfer orau a amlinellir yn ei hastudiaethau achos i’w helpu i gynyddu effaith y cyllid a mynd i’r afael â phryderon â phresenoldeb a chyflawniad.

Archives: Erthyglau Newyddion


Yn ei Adroddiad Blynyddol a gyhoeddwyd heddiw, mae Meilyr Rowlands yn myfyrio ar ddatblygiadau allweddol mewn addysg dros y tair blynedd diwethaf, ac mae’n cymeradwyo’r cynnydd wrth ddiwygio addysg:

Rydym ynghanol newid sylweddol, hanesyddol mewn addysg yng Nghymru.  Mae’r momentwm wedi cynyddu’n ddiweddar, gan ddod â chydweithredu gwell rhwng sefydliadau addysg cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

 

Gan fod y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi’i gyhoeddi erbyn hyn, mae’n rhaid i bob ysgol feddwl o ddifrif am yr hyn y mae’r cwricwlwm newydd hwn yn ei olygu i’w cymuned ysgol, a sut gallan nhw wella addysgu a dysgu.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley ym Merthyr lle maent eisoes wedi rhoi cynnig ar rai ymagweddau diddorol at y cwricwlwm.  Mae rhaglen gyfoethogi arloesol yn helpu’u disgyblion i adeiladu medrau bywyd cryfach, ac mae wedi agor cyfleoedd newydd iddyn nhw ddysgu mewn ffyrdd gwahanol.  Mae astudiaethau achos ar hyd yr adroddiad yn rhannu arfer effeithiol er mwyn helpu ysgolion i wella.

Mae’r Prif Arolygydd yn parhau,

Mae nifer o heriau hirsefydlog yn parhau.  Mae gormod o ysgolion uwchradd yn dal i beri pryder, ac nid yw’r ‘bwlch tlodi’ rhwng dysgwyr sydd dan anfantais a’u cyfoedion wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Ni all ysgolion wneud hyn i gyd ar eu pennau’u hunain.  Mae’n rhaid i weddill y system weithio gyda’i gilydd a chefnogi ein gweithlu addysg wrth drawsnewid addysg yng Nghymru.  Dyna pam y mae Estyn yn cael seibiant o arolygiadau o fis Medi i ymweld ag ysgolion ac adeiladu darlun cenedlaethol o’r hyn sy’n gweithio’n dda wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm a nodi unrhyw heriau.

Mwy o ganfyddiadau o Adroddiad Blynyddol 2018-19:

  • Mae safonau’n dda neu’n well mewn rhyw wyth o bob deg o leoliadau nas cynhelir.  Yn y lleoliadau hyn, mae ein dysgwyr ieuengaf yn gwneud cynnydd cryf, gan ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd, medrau corfforol a medrau personol a chymdeithasol yn effeithiol.
  • Mae safonau’n dda neu’n well mewn rhyw wyth o bob deg o ysgolion cynradd ac mae’r gyfran â safonau rhagorol wedi parhau i gynyddu, gydag un o bob deg yn derbyn y farn uchaf.
  • Mae safonau’n dda neu’n well ym mron hanner yr ysgolion uwchradd a arolygwyd yn 2018-19, ac mae’r gyfran o’r ysgolion hyn sy’n peri pryder yn parhau yn her.
  • Bu gwelliannau yn yr ysgolion arbennig annibynnol a’r unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd gennym, gydag enghreifftiau o ragoriaeth am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer.  Mae Estyn hefyd wedi nodi mwy o arfer effeithiol mewn ysgolion pob oed.
  • Gallai’r diwygiadau yn y sector ôl-16 wneud profiadau pobl ifanc mewn cyfnodau gwahanol o’u haddysg yn fwy di-dor. Fodd bynnag, mae gormod o’r rhai sy’n gadael yr ysgol ar hyn o bryd nad ydyn nhw’n symud ymlaen at y cyfleoedd dysgu sy’n cysylltu orau â’u huchelgeisiau, eu diddordebau a’u galluoedd.

Archives: Erthyglau Newyddion


Annwyl gydweithiwr,

Oherwydd y cyfnod cyfnewidiol a heriol sy’n wynebu ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill o achos COVID-19, rwyf wedi penderfynu, yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, atal holl arolygiadau a gweithgareddau cysylltiedig eraill Estyn o heddiw, dydd Llun 16 Mawrth 2020.

Bydd yr ataliad yn parhau hyd nes bod y sefyllfa bresennol wedi mynd heibio neu wedi newid yn sylweddol er gwell. O’n trafodaethau ag Arolygiaeth Gofal Cymru, maent wedi cytuno y bydd yr ataliad yn cynnwys ein cyd-arolygiadau o leoliadau meithrin nas-cynhelir.

Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwn i ganiatáu i arweinwyr a staff ym mhob darparwr addysg a hyfforddiant, a’r sefydliadau hynny sy’n eu cefnogi, ganolbwyntio’n llawn ar les eu dysgwyr, eu staff a’u teuluoedd. Mae darparwyr yn debygol o weld cynnydd yn absenoldeb staff yn ystod yr amser hwn. Bydd y penderfyniad i atal gwaith arolygu yn helpu i gynnal lefelau staffio trwy sicrhau nad yw arolygwyr cymheiriaid ac arolygwyr eraill allan o’u sefydliadau ar yr adeg bwysig hon.

Bydd ein staff yn cael eu defnyddio i weithio ar ystod o weithgareddau i gefnogi darparwyr a system addysg Cymru. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i benderfynu ar y ffordd orau o wneud hyn. Efallai y bydd achosion lle hoffai darparwyr inni barhau â rhai agweddau ar ein gwaith ymgysylltu neu gefnogi gyda nhw, o bell o bosibl a thrwy ddefnyddio technoleg.

Byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa sy’n newid a byddwn yn eich diweddaru wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

Dymunaf yn dda ichi yn ystod yr amser anodd hwn a diolch i chi i gyd am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad.

Meilyr Rowlands

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Archives: Erthyglau Newyddion


Hoffwn ddiolch i holl weithwyr y byd addysg am eich gwaith arbennig yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ein nod pennaf fel arolygiaeth nawr yw cefnogi system addysg Cymru a chynnig tystiolaeth a chyngor annibynnol a gwrthrychol i Weinidogion y Llywodraeth.

Ataliwyd pob arolygiad craidd ac ymweliadau eraill cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Ar hyn o bryd, rydym yn cadw mewn cysylltiad â darparwyr addysg o bell, drwy alwadau ffôn a fideo. Mae wedi bod yn ddefnyddiol clywed sut mae ysgolion a darparwyr eraill yn cefnogi lles dysgwyr a staff a sut maen nhw’n delio â’r heriau presennol. Rydym hefyd wedi adleoli staff i Lywodraeth Cymru ac wedi cyfrannu at y rhaglen parhad dysgu (gweler y dolenni). Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â darparwyr o bell pan fyddant ar gau ar gyfer addysg.

Ni fyddwn yn arolygu ysgolion a gynhelir y flwyddyn academaidd nesaf. Yn hytrach, ar ôl cyfnod ar gyfer addasu, bydd arolygwyr yn ymweld ag ysgolion i wrando ar bryderon ac i nodi’r hyn sy’n gweithio’n dda. Diben ein trafodaethau presennol a’r ymweliadau ymgysylltu hyn yw cael darlun cenedlaethol ac nid i farnu ysgolion unigol, ond i gasglu gwybodaeth am y system addysg yn ei chyfanrwydd, a mesur effaith uniongyrchol a thymor hir yr argyfwng coronafeirws ar ddysgu ac ar les disgyblion a staff. Byddant hefyd yn gyfle i adnabod a rhannu arferion arloesol ac effeithiol.

Ni fyddwn yn parhau ag ymweliadau monitro ffurfiol ar gyfer ysgolion a darparwyr eraill sydd angen camau dilynol. Er y byddai rhai ysgolion yn hoffi i ni wneud hynny, nid ydym yn credu bod hyn yn briodol o dan yr amgylchiadau presennol. Rydym eisoes wedi ysgrifennu at a ffonio darparwyr sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n peri pryder i egluro beth fydd yn digwydd nesaf ac i gynnig cymorth.

Mae’n gyfnod ansicr, ac yr ydym wedi ymrwymo i fod yn gefnogol ac yn hyblyg yn y ffordd yr ydym yn casglu ac yn darparu gwybodaeth a chyngor i’r Llywodraeth. Byddwn yn addasu ein gwaith wrth i’r sefyllfa ddatblygu a sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth lawn am ein bwriadau. Byddwn hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid o sectorau heblaw am ysgolion a gynhelir ar sut y byddwn yn addasu ein trefniadau ar eu cyfer am y flwyddyn sydd i ddod.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwaith.

Meilyr Rowlands

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Archives: Erthyglau Newyddion


Mae adroddiad heddiw, ‘Arloesi’r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd’, yn disgrifio ymagweddau y dylai ysgolion eu hystyried wrth gynllunio cwricwlwm i ddatblygu dysgwyr galluog, mentrus a hyderus.  Mae’r adroddiad yn defnyddio ymweliadau â 30 o ysgolion cynradd ac yn nodi pedwar cyfnod datblygu penodol  mewn ysgolion wrth iddynt drawsnewid eu harferion addysgu a dysgu. 

Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,

Mae’r daith tuag at ddiwygio’r cwricwlwm yn mynnu cynllunio gofalus.  Gall pob ysgol, gan gynnwys ysgolion cynradd, ddefnyddio’r pedwar cam a amlinellwyd yn ein hadroddiad fel strwythur i gefnogi’u meddwl cwricwlaidd a’u dysgu proffesiynol, o hunanarfarnu a chynllunio, i gyflawni ac arfarnu newid.”

“Mae Estyn yn annog ysgolion i ganolbwyntio ar ddatblygu dulliau addysgu effeithiol fel sail i’w cynlluniau cwricwlwm.  Bwriedir i’r adroddiad hwn a’r astudiaethau achos gynorthwyo ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer eu cwricwlwm newydd.  Er enghraifft, mae Ysgol Gynradd Cornist Park wedi gweld llwyddiant ym mhob un o’r pedwar cam o’r cyfnod sylfaen ymlaen.”

Dechreuodd y gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm yn Ysgol Gynradd Cornist Park, Sir y Fflint, gydag archwiliad o’u cwricwlwm, gan nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.  Oddi yno, aeth arweinwyr ati i gynllunio ar gyfer newid trwy dreialu ‘wythnosau â thema’ ar destunau gwahanol.  Drwy archwilio ffyrdd newydd o addysgu, mae’r ysgol wedi gallu rhoi newidiadau ar waith yn hwylus.  Gyda chylch parhaus o arfarnu, adolygu, monitro a newid, mae’r ysgol wedi gweld gwelliannau o ran creadigrwydd, hunan-barch a chymhelliant disgyblion sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau.

Mae’r adroddiad yn nodi rhwystrau rhag newid y cwricwlwm yn llwyddiannus.  Gall cynllunio annigonol, datblygu medrau yn anghyson, a bod yn rhy betrus arafu cynnydd.  Mae’r adroddiad yn nodi’n fanwl beth sy’n gweithio’n dda, ac mae’n darparu cwestiynau hunanarfarnu i helpu ysgolion i fyfyrio ar eu darpariaeth eu hunain.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Cafodd adroddiad Estyn ‘Arloesi’r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd’ ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig/chwilio
  • Mae Estyn yn cynnal dwy gynhadledd ar 22 a 24 Mai lle bydd rhai o’r ysgolion o adroddiad heddiw yn cyflwyno gweithdai i helpu rhannu’u harfer dda.
  • Ymwelodd arolygwyr â 30 o ysgolion ar gamau gwahanol o ddatblygu’r cwricwlwm gan gynnwys sampl gynrychioliadol fras ym mhob rhanbarth.

Astudiaethau achos

Pen-y-bont ar Ogwr

Caerffili

Caerdydd

Sir Gaerfyrddin

Ceredigion

Sir Ddinbych

Sir y Fflint

Gwynedd

Sir Fynwy

Casnewydd

Powys

Abertawe

Bro Morgannwg

Wrecsam

Archives: Erthyglau Newyddion


Canfu adroddiad heddiw, ‘Cynnwys rhieni – Cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni plant o oedran ysgol’, nad yw ysgolion bob amser yn cynnwys tadau cystal â mamau.  Hefyd, weithiau, mae’n anos cyrraedd rhieni o ardaloedd amddifadedd uchel.  Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos sy’n amlinellu strategaethau arloesol o ysgolion sydd wedi sicrhau cyfathrebu ac ymglymiad effeithiol rhieni yn llwyddiannus.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

Caiff ei gydnabod yn gyffredinol fod cymorth rhieni’n gallu cael effaith sylweddol ar gyflawniad disgyblion. Mae llawer o ysgolion yn gwella’r ffyrdd maen nhw’n cynnwys rhieni.  Mae gan yr ysgolion mwyaf llwyddiannus ddull cynlluniedig a strwythuredig sy’n bodloni anghenion yr holl rieni ac mae’n seiliedig ar ddewisiadau rhieni.  Dylai pob ysgol ddarllen adroddiad heddiw i ddarganfod strategaethau i gefnogi’r modd y gallan nhw gynnwys rhieni’n well.

Mabwysiadwyd un strategaeth oedd â’r nod o gynnwys tadau yn fwy gan Ysgol Gynradd Lansdowne yng Nghaerdydd.  Bob bore, mae’r pennaeth yn sefyll wrth giât yr ysgol i groesawu teuluoedd.  Ar ôl sylwi bod grŵp o dadau yn amharod i fynd ar y maes chwarae, gwahoddodd nhw i rannu eu rhesymau am eu hamharodrwydd.  Gweithiodd y pennaeth yn  agos â nhw ac arweiniodd hyn at nifer o newidiadau, fel ehangu’r gwasanaeth negeseuon testun i gynnwys dau rif ffôn a defnyddio grŵp o dadau i drafod a chefnogi penderfyniadau am newidiadau i’r cwricwlwm.  O ganlyniad, bu cynnydd yn nifer y bechgyn sy’n darllen gartref gan ddefnyddio cynllun newydd, ac yn nifer y tadau sy’n mynychu nosweithiau rhieni.

Canfu arolygwyr fod rhieni disgyblion ysgolion uwchradd yn derbyn llai o ohebiaeth ar y cyfan na rhieni plant oedran cynradd.  Fodd bynnag, mae menter arloesol yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr, Aberdâr, gan ddefnyddio ap gwaith cartref, wedi helpu meithrin ymgysylltu gwell â rhieni.  Ers ei gyflwyno, mae 85% o rieni wedi mynd ati i ddefnyddio’r ap, sydd wedi arwain at welliant sylweddol yn safbwyntiau rhieni am waith cartref.

Yn ogystal ag argymell y dylai ysgolion ymgynghori â rhieni am eu hoff ffyrdd o gyfathrebu, mae Estyn yn amlygu’r angen i ysgolion sicrhau bod adroddiadau a nosweithiau rhieni yn cael eu teilwra yn unol â chryfderau penodol plentyn a’i feysydd i’w datblygu.  Dylai ysgolion gymryd camau hefyd i gynnwys rhieni’n well trwy ei gwneud yn glir sut gellir cysylltu â staff a rhiant-lywodraethwyr a gwrando ar safbwyntiau rhieni o bob cefndir economaidd gymdeithasol.  Yn olaf, mae’r adroddiad yn cynnig argymhellion i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru am eu rolau priodol mewn cynorthwyo ysgolion â’r gwaith hwn. 

Archives: Erthyglau Newyddion


Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,

Rwy’n ddiolchgar i’r Athro Donaldson am ei waith ar yr adolygiad hwn, ac rwy’n falch bod yr adroddiad yn cydnabod cryfderau’r system arolygu bresennol.  Rydym nawr yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru, ysgolion a rhanddeiliaid eraill i ystyried cynigion cynhwysfawr yr adroddiad yn llawn a sut i’w symud ymlaen. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid wrth i’r gwaith hwn ddatblygu a byddwn yn ceisio eu barn trwy ymgynghoriad er mwyn sicrhau y cânt ddweud eu dweud.

Dywed yr Athro Graham Donaldson,

Mae Cymru’n gweithio i ddatblygu system addysg ddynamig a llwyddiannus, gyda safonau sy’n codi ac ysgolion sy’n ymroddedig i’w gwelliant eu hunain. Mae’r dystiolaeth i’m Hadolygiad yn cadarnhau bod Estyn wrth wraidd y broses honno.  Mae profiad ac arbenigedd proffesiynol unigryw ei AEM ac arolygwyr cymheiriaid yn adnodd cenedlaethol allweddol.  Dylai arolygwyr arfarnu pa mor dda y caiff pobl ifanc yng Nghymru eu gwasanaethu gan eu hysgolion a pha mor dda maent yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella ansawdd eu dysgu.  Mae hyn yn golygu mwy o bwyslais ar hunanarfarnu a hunanwella gan ysgolion, adroddiadau arolygu mwy addysgiadol, dull mwy diagnostig ar gyfer ysgolion sy’n peri pryder ac arolygwyr yn ymgysylltu’n fwy uniongyrchol â diwygio.

Mae’r adroddiad yn cynnwys 34 o argymhellion manwl.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rôl fwy i Estyn o ran darparu arfarnu a chymorth ar lefel ysgolion, awdurdodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

  • Ymgasglu adnoddau Estyn er mwyn sbarduno diwygio, gyda seibiant byr i’r cylch arolygu i ddechrau er mwyn galluogi arolygwyr ac ysgolion i gydweithio â’i gilydd ar y diwygiadau.

  • Mwy o gyfrifoldeb i ysgolion arfarnu eu perfformiad eu hunain, ac Estyn i gadarnhau ansawdd yr hunanarfarnu hwnnw.

  • Adroddiadau arolygu mwy addysgiadol gydag arfarniadau cyflawn yn disodli graddau crynodol.

  • Ffocws mwy teilwredig ar ysgolion sy’n peri pryder, ac arolygiadau diagnostig sy’n rhoi mewnwelediad gwell i’r newidiadau angenrheidiol.

  • Arfarnu cynnydd â’r diwygiadau cenedlaethol yn amserol trwy adroddiadau thematig ac Adroddiad PAEM ar ‘gyflwr y genedl’ bob tair blynedd.

  • Sefydlu annibyniaeth Estyn ymhellach.

  • Angen alinio ar draws y dirwedd atebolrwydd.

Mae Estyn yn croesawu safbwyntiau ei holl randdeiliaid ar yr adolygiad a bydd yn ymgynghori arno’n eang cyn bo hir.  Yn y cyfamser, gall randdeiliaid fynegi eu barn trwy anfon neges e-bost at