Erthyglau Newyddion Archive - Page 4 of 18 - Estyn

Archives: Erthyglau Newyddion


Archives: Erthyglau Newyddion


Two young children playing with shaving foam on a table in a classroom, wearing colorful aprons.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan y Learning Partnership rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r adolygiad annibynnol hwn o’r trefniadau arolygu ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn. Mae ein cyrff arolygu yn cydweithio i arolygu lleoliadau gofal plant nas cynhelir ar y cyd. 

Mae’r adolygiad yn gadarnhaol am effaith y rhaglen arolygu ar y cyd. Yn ddefnyddiol iawn, mae hefyd yn trafod ffyrdd y gellid gwella’r dull arolygu ac yn cynnwys amrywiaeth o argymhellion i’r ddwy arolygiaeth eu hystyried. 

Gallwch lawrlwytho a darllen yr adolygiad ar waelod y dudalen hon.

Gyda’i gilydd, bydd AGC ac Estyn yn llunio ymateb i’r argymhellion dros y 12 mis nesaf, gan gymryd amser i sicrhau ein bod yn ystyried y goblygiadau ar gyfer y ddau sefydliad. 

Rydym yn ymrwymedig i’r bartneriaeth rydym wedi’i meithrin dros y pum mlynedd neu fwy diwethaf, a byddwn yn cydweithio i wella ein dull mewn modd sy’n gweithio i’r ddau sefydliad. 

Pan gytunir ar newidiadau sylweddol i’r fframwaith a’r fethodoleg, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth ar gyfer y sector. 

Archives: Erthyglau Newyddion


Owen Evans stands confidently at a podium, delivering a presentation to an engaged and attentive large audience.

Yn ystod haf 2024, teithiom ledled Cymru i gyflwyno ein hyfforddiant diweddaru Arolygu 24 i dros 600 o arolygwyr, yn barod i lansio’r fframwaith arolygu newydd ym mis Medi.

Mae’r fframwaith newydd wedi’i ddatblygu trwy ymgynghori’n barhaus dros gyfnod o ddwy flynedd, gan gynnwys mewnwelediadau a phrofiadau gan ystod eang o randdeiliaid.

Ein nod yw ymgysylltu â darparwyr yn fwy rheolaidd, rhannu arfer orau a chefnogi systemau hunanwella ar draws cymunedau addysg a hyfforddiant.

Dechreuodd ein sioe deithiol yn y gogledd, lle ymunodd arolygwyr o ystod o sectorau â ni yn Ewlo ar 25 a 26 Mehefin. Ar 2 Gorffennaf, croesawom arolygwyr yn Abertawe, cyn teithio i Gaerdydd ar 3 a 4 Gorffennaf ar gyfer y digwyddiad olaf yn y gyfres.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans: “Diolch yn fawr iawn i bawb a oedd yn rhan o sioe deithiol hyfforddiant Arolygu 24 a diolch unwaith eto i bob un ohonoch a roddoch o’ch amser i weithio â ni i ddatblygu ein trefniadau, gan ymateb i ymgynghoriadau, rhannu eich safbwyntiau a threialu arolygiadau peilot.”

Gobeithiwn fod yr hyfforddiant diweddaru yn werthfawr i chi. Yr un un modd â phob fframwaith newydd, mae’n siŵr y bydd agweddau y gallwn eu gwella, felly daliwch ati i roi adborth i ni.”

Archives: Erthyglau Newyddion


A group of children, wearing sunglasses and holding bags, stand in front of a tent at an outdoor event. They are smiling and display various colourful stickers on their clothes.

Roeddem yn falch o fod yn rhan o Eisteddfod yr Urdd eleni, yn arddangos ochr yn ochr â Cymwysterau Cymru a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (NAEL).

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, a chofrestrwyd 100,454 o bobl, sef y nifer uchaf erioed, yn ystod yr wythnos. Roedd yr ŵyl eleni hefyd yn dathlu dychwelyd i ardal Maldwyn, sef y tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld â’r ardal er 1988.

Fel yr ŵyl ieuenctid fwyaf yng Nghymru, mae Eisteddfod yr Urdd yn dathlu’r doniau anhygoel sy’n cael eu meithrin gan y gweithlu addysg. Mae athrawon ac addysgwyr yn chwarae rhan hollbwysig mewn datblygu medrau a chreadigrwydd pobl ifanc sy’n cystadlu mewn ystod eang o gystadlaethau – o farddoniaeth, celf a llefaru, i ddawnsio, actio a chanu. Mae’r ŵyl hefyd yn anrhydeddu Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn, gan amlygu pwysigrwydd hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans: “I ni, roedd yr Eisteddfod yn gyfle gwerthfawr i ymgysylltu ag athrawon, rhieni a phlant, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi addysg Gymraeg. Roeddem yn gallu ymgysylltu’n uniongyrchol ag ymwelwyr a thrafod ein rôl o ran ffurfio addysg ledled Cymru.”

Mae Eisteddfod yr Urdd yn dathlu diwylliant ffyniannus ac iaith Cymru ac edrychwn ymlaen at barhau i gymryd rhan.”

Archives: Erthyglau Newyddion


Mae adroddiad newydd gan Estyn a gyhoeddwyd heddiw yn archwilio effaith y rhaglen prentisiaethau iau yng Nghymru. Mae’n amlygu nifer o ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys cyfraddau llwyddo uchel iawn mewn cymwysterau galwedigaethol, lefelau gwell o ymgysylltu a phresenoldeb, a chyfraddau dilyniant cryf i addysg bellach a hyfforddiant. Fodd bynnag, mae niferoedd y dysgwyr yn fach, ac nid yw pobl ifanc mewn llawer o ardaloedd o Gymru yn gallu manteisio ar y cyfleoedd trwy ddarparwyr lleol. 

Mae rhaglenni prentisiaethau iau wedi’u cynllunio i helpu awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau i weithio gyda’i gilydd i gynnig dysgu amser llawn â ffocws galwedigaethol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 o fewn colegau AB. Mae’r rhaglen, a gyflwynwyd yn 2017, wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn mewn 5 o’r 12 coleg yng Nghymru, yn cynnwys tua 150 o ddysgwyr. Fodd bynnag, nid yw dysgwyr mewn llawer o ardaloedd o Gymru yn cael cyfleoedd tebyg oherwydd nad oes trefniadau cydweithredol lleol ar waith o fewn eu hardaloedd i gefnogi’r cyflwyno. 

Dywed Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans: 

Mae ein hadroddiad yn amlygu’r effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen prentisiaethau iau yn ei chael wrth ymestyn cyfleoedd galwedigaethol cyn 16 oed i ddysgwyr sy’n ei chael yn anodd ymgysylltu â’r cwricwlwm ysgol brif ffrwd. Fodd bynnag, gan mai 5 yn unig o’r 22 awdurdod lleol ledled Cymru sy’n cyflwyno’r rhaglen, gallwn weld yn glir beth yw cyfyngiadau’r ddarpariaeth a’r anghydraddoldeb mewn cyfleoedd dysgu rhwng rhanbarthau ac ardaloedd lleol yng Nghymru ar hyn o bryd. 

“Pan mae rhaglenni prentisiaethau iau ar gael, maen nhw’n gwneud cyfraniad pwysig at helpu cynorthwyo pobl ifanc a allai fod mewn perygl o fod yn bobl NACH (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), a goresgyn ymddieithrio â dysgu, ond mae gwaith i’w wneud i sicrhau bod y cyfleoedd yn cael eu cynnig yn fwy cyson. 

“Mae’r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad i gyd, a byddwn i’n annog Llywodraeth Cymru, colegau addysg bellach, ysgolion ac awdurdodau lleol i fyfyrio ar y rhain wrth iddyn nhw ddatblygu’r rhaglen ymhellach i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn gallu dilyn y llwybr unigryw hwn o ddysgu galwedigaethol strwythuredig.” 

Dywedodd awdur yr adroddiad, Ian Dickson: 

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi llais i arweinwyr a staff colegau, cynrychiolwyr o ysgolion ac awdurdodau lleol dysgwyr a dysgwyr prentisiaethau iau ym Mlwyddyn 10 ac 11. Rydym ni wedi amlygu arfer dda ac wedi nodi rhwystrau rhag cyflwyno’r rhaglen prentisiaethau iau gan golegau addysg bellach. Rydym ni’n canolbwyntio ar effaith y rhaglen ar ddeilliannau dysgwyr ac yn nodi nifer o argymhellion i gefnogi datblygu a chyflwyno yn y dyfodol.”

Archives: Erthyglau Newyddion


Mae amrywiaeth o wybodaeth a ddelir gan AGIC yn dangos bod y galw am gymorth iechyd meddwl yn uwch o lawer na chapasiti’r gwasanaeth. Mae hwn yn fater cenedlaethol, sydd wedi gwaethygu yn sgil pandemig COVID-19, a arweiniodd at sefyllfa lle roedd nifer uchel o blant a phobl ifanc yn aros cyfnodau estynedig am asesiad ac ymyriad gan wasanaethau CAMHS arbenigol. O ganlyniad, gall hyn olygu nad yw pobl yn cael y cymorth sydd ei angen ac, mewn rhai achosion, bydd eu cyflwr iechyd meddwl yn dirywio ymhellach. 

Nod ein hadolygiad ar y cyd yw ystyried a yw plant a phobl ifanc yn cael cymorth amserol ac effeithiol i ddiwallu eu hanghenion iechyd meddwl. Bydd ein hadolygiad yn canolbwyntio ar blant rhwng 11 ac 16 oed mewn addysg orfodol ac yn ystyried y gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi eu hanghenion iechyd meddwl o fewn gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant, cyn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau CAMHS arbenigol neu cyn cael eu hasesu ganddynt. 

Mae ein gwaith ymchwil a’n gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi helpu i lywio cwmpas ein gwaith i ateb y cwestiwn canlynol:

  • Sut mae gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant yng Nghymru yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc, pan fyddant yn aros am asesiad, neu’r rhai nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ymyriad gan wasanaethau CAMHS arbenigol?

Mae ein llinellau ymholi allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • A yw gwasanaethau addysg a gwasanaethau phlant yn rhoi cymorth effeithiol i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd meddwl newydd neu gyflyrau sy’n bodoli eisoes?
  • Pa wasanaethau sydd ar gael i reoli anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc ledled Cymru?
  • A oes ymyriadau gofal iechyd amserol a chyfartal ar gael i blant a phobl ifanc er mwyn cefnogi eu hanghenion iechyd meddwl?
  • Pa lwybrau atgyfeirio sydd ar waith gan wasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau awdurdodau lleol er mwyn i blant a phobl ifanc allu cael gafael ar wasanaethau CAMHS arbenigol, ac a ydynt yn effeithiol?
  • Sut mae gwasanaethau yn ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i blant a phobl ifanc y mae angen cymorth iechyd meddwl arnynt, a’r rhai y mae amddifadedd economaidd-gymdeithasol yn effeithio arnynt?
  • A yw ymyriadau gofal iechyd yn ddigonol i gefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc, pan fyddant yn aros am asesiad, neu’r rhai nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ymyriad gan wasanaethau CAMHS arbenigol?

Daw’r adolygiad i ben drwy gyhoeddi adroddiad cenedlaethol ar y cyd yn ystod hydref 2024. Bydd yr adroddiad yn nodi themâu allweddol a meysydd lle ceir arferion da a bydd yn gwneud argymhellion lle caiff gwelliannau gofynnol eu nodi drwy gydol ein hadolygiad. Os caiff unrhyw bryderon brys eu nodi yn ystod ein hadolygiad, cânt eu codi’n brydlon â darparwyr gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant neu Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, lle byddwn o’r farn bod hynny’n briodol, caiff unrhyw ganfyddiadau interim eu cyfleu i’n rhanddeiliaid, darparwyr gofal iechyd, gwasanaethau plant a gwasanaethau addysg fel y bo’n briodol.

Gellir dod o hyd i’r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad isod.

Dweud eich Dweud

Hoffem ddysgu mwy am eich profiadau ac a ydych wedi defnyddio neu wedi cael profiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) neu unrhyw gymorth arall tebyg. 

Drwy dreulio ychydig funudau yn cwblhau’r arolwg hwn, byddwch yn helpu i lywio dyfodol cymorth i bobl ifanc ledled Cymru. 

Amdani! Cwblhewch yr arolwg heddiw i fod yn rhan o’r newid!

Arolwg Plant / Pobl Ifanc

Arolwg Rhieni/Gofalwyr

Staff CAMHS ac Iechyd

Awdurdod Lleol

Gofal Sylfaenol

Trydydd Sector

Archives: Erthyglau Newyddion


Owen Evans speaks at a podium during Estyn's National Headteacher Conference. The background features the Estyn logo and bilingual text in Welsh and English.

Ar 29 Chwefror 2024, cynhaliom ein Cynhadledd Genedlaethol i Benaethiaid yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gan ddod â bron i 500 o benaethiaid ac uwch arweinwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd. Roedd y digwyddiad hwn yn adeg hollbwysig yn ein proses ymgynghori barhaus ar gyfer y fframwaith arolygu newydd, a fydd yn cael ei lansio ym mis Medi 2024.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys prif anerchiad gan Owain Lloyd, sef Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, a rannodd fewnwelediadau i dirwedd esblygol addysg yng Nghymru. Ar ben hynny, trafododd banel o uwch arweinwyr ysgolion eu profiadau o’r arolygiadau peilot dan y fframwaith newydd.

Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i rwydweithio â chyd-benaethiaid ac uwch arweinwyr o bob rhan o Gymru trwy gydol y dydd. Cynigiodd y prynhawn ddetholiad o weithdai lle y dangosodd ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau) arferion effeithiol yn ymwneud â themâu addysgol allweddol, sef:

  • Datblygu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog
  • Lleddfu effeithiau tlodi a difreintedd ar gyrhaeddiad addysgol
  • Defnyddio prosesau hunanwerthuso i gynllunio ar gyfer gwella
  • Cyflwyno Cwricwlwm i Gymru

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans: “Roedd y gynhadledd hon yn gyfle gwerthfawr i arweinwyr addysg roi adborth a chyfrannu at ddatblygu ein trefniadau arolygu newydd, gan ddysgu oddi wrth brofiadau ei gilydd.

“Diolch i bawb a oedd yn bresennol yn y digwyddiad. Edrychwn ymlaen at barhau ar y daith gydweithredol hon wrth i ni baratoi i lansio’r trefniadau arolygu newydd ym mis Medi.”

Archives: Erthyglau Newyddion


A large crowd seated in chairs within a spacious room during the Estyn annual report at the Senedd.

Ar 31 Ionawr 2024, cyhoeddwyd a lansiwyd Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd ar gyfer 2022-2023 yn y Senedd yng Nghaerdydd. Daeth y digwyddiad â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i rannu canfyddiadau’r adroddiad a thrafod cyflwr cyfredol addysg a hyfforddiant yng Nghymru a’u blaenoriaethau yn y dyfodol.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys anerchiad gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ac Owen Evans, y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Fe wnaethant amlygu’r heriau parhaus a achoswyd gan bandemig COVID-19 a phwysigrwydd mynd i’r afael ag effaith difreintedd ar ddeilliannau addysgol.

Daeth trafodaeth panel ar flaenoriaethau addysg Cymru, wedi’i llywyddu gan Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol yn Estyn, â phobl allweddol mewn addysg yng Nghymru at ei gilydd i drafod materion enbyd y sector. Roedd y panel yn cynnwys arweinwyr o amrywiaeth o gyrff a sefydliadau addysgol, a rannodd mewnwelediadau ar yr heriau a’r cyfleoedd y mae ysgolion yng Nghymru yn eu hwynebu. Roedd y pynciau’n amrywio o ddatblygu’r cwricwlwm i hyrwyddo’r Gymraeg, gan fyfyrio ar y blaenoriaethau amrywiol sy’n llywio dyfodol addysg yn y rhanbarth. Fe wnaeth y digwyddiad danlinellu pwysigrwydd cydweithio a chynllunio strategol i fynd i’r afael ag anghenion esblygiadol dysgwyr ledled Cymru.

Mae’r adroddiad blynyddol yn myfyrio ar gyflawniadau ac yn fap ffordd i fynd i’r afael â heriau parhaus ym myd addysg yng Nghymru. Ei nod yw ysbrydoli myfyrio’n adeiladol a chefnogi darparwyr i wella addysg a hyfforddiant ledled Cymru.

Archives: Erthyglau Newyddion


Bachgen ifanc mewn siwmper ysgol goch yn chwarae y tu allan, gyda breichiau wedi'u hymestyn ac yn gwenu, gyda adeilad ysgol brics yn y cefndir.

Yn ôl y Prif Arolygydd, Owen Evans, mae llawer i fod yn falch ohono, ond mae gwybodaeth a medrau dysgwyr yn wannach nag yr oeddent cyn y pandemig o hyd. Mae ysgolion a darparwyr eraill yn wynebu heriau penodol o ran cyflwyno llythrennedd, rhifedd a’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae materion ehangach, fel absenoliaeth dysgwyr a recriwtio athrawon a staff cymorth ar draws nifer o arbenigeddau, yn achosi heriau ychwanegol i arweinwyr addysg.

Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans,

Mae ymrwymiad cryf addysgwyr ledled Cymru yn destun balchder, ond mae’n amlwg bod cysgod y pandemig yn effeithio ar les dysgwyr a’r cynnydd a wnânt o hyd. Mae agweddau gwannach ar arfer yn atal gormod o ddysgwyr rhag gwneud cynnydd ac mae angen i hunanwerthuso mewn ysgolion a darparwyr eraill wella i gryfhau’r system.

Mae adroddiad blynyddol PAEM yn edrych yn ôl ar ganfyddiadau o adroddiadau arolygu ac adroddiadau thematig dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Ar ôl cyhoeddi crynodebau sector Estyn ym mis Hydref, mae adroddiad llawn fis Ionawr yn cynnig cyd-destun manwl ac yn rhoi mewnwelediad dyfnach o lawer i’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella ar draws y ddau ar bymtheg o sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae ysgolion, lleoliadau meithrin nas cynhelir, colegau, prentisiaethau dysgu yn y gwaith, dysgu oedolion yn y gymuned ac addysg gychwynnol athrawon ymhlith y sectorau sydd wedi’u cynnwys.

Gyda’r nod o gynnig adborth defnyddiol i’r gweithlu addysg a hyfforddiant, mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn rhoi crynodeb o bob un o’r adroddiadau thematig cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Estyn eleni ac, i gefnogi gwelliant ymhellach, mae’n cyfeirio at adroddiadau arolygu ac astudiaethau achos gan ddarparwyr a arolygwyd ac y canfuwyd eu bod yn gwneud yn arbennig o dda.

Yn ogystal ag ymateb i ganlyniadau PISA 2022 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae’r adroddiad yn gwerthuso addysg a hyfforddiant yng nghyd-destun ystod o themâu allweddol, y mae llawer ohonynt yn hanfodol i addysgwyr wrth iddynt wynebu’r heriau deuol o adfer ar ôl pandemig COVID-19 a gweithio i roi diwygiadau ar waith sy’n canolbwyntio ar wella.

Mae’r themâu allweddol eleni yn cynnwys:

  • agweddau at ddysgu a phresenoldeb
  • y Gymraeg mewn addysg a hyfforddiant
  • rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith
  • lliniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol
  • addysg a chymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Parhaodd y Prif Arolygydd, Owen Evans,

Mae addysgwyr ledled Cymru yn parhau i weithio’n ddiwyd ac ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig â chefnogi ein plant, a dysgwyr o bob oed, i ddysgu a ffynnu. Mae fy adroddiad yn amlygu’r llwyddiannau ac yn amlinellu rhai o’r heriau y mae addysg a hyfforddiant yn eu hwynebu o hyd; rwy’n gobeithio y bydd yn sbarduno myfyrdod a thrafodaeth adeiladol am sut gallwn ni wella ar y cyd.

Archives: Erthyglau Newyddion


Agos-i o berson yn ysgrifennu ar ddarn o bapur gyda beiro lliwgar, gyda ffôn clyfar wedi'i osod ar y ddesg gerllaw.

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn yn dangos bod presenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi dirywio ers pandemig COVID-19 ac y bu’n araf i wella. Mae gan ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gyfraddau presenoldeb is na’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae nifer y disgyblion sy’n absennol yn gyson wedi cynyddu’n sylweddol.

Canfu’r adroddiad bod ysgolion wedi ymateb i’r heriau hyn trwy gynyddu eu cymorth ar gyfer lles disgyblion a rhoi mesurau ar waith i wella presenoldeb, fel monitro a dadansoddi cyfraddau presenoldeb yn drylwyr. Fodd bynnag, nid yw presenoldeb cyffredinol wedi gwella’n ddigon cyflym. Mae gan yr ysgolion a fu’n fwyaf effeithiol ddiwylliant cryf o ddisgwyliadau uchel o ran presenoldeb, maent yn defnyddio data’n effeithiol, yn canolbwyntio ar addysgu o ansawdd uchel, ac yn gwerthuso effaith eu gwaith yn effeithiol.

Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans:

‘Mae cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn peri pryder; pan nad yw disgyblion yn yr ysgol, nid ydyn nhw’n dysgu ac mae’r data a gofnodwyd yn dangos bod gormod o ddisgyblion yn cael o leiaf un diwrnod i ffwrdd bob pythefnos. Mae absenoldeb yn dal llawer o ddysgwyr yn ôl, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi ac mae diffyg presenoldeb ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn bryder sylweddol. Er bod y rhan fwyaf o ysgolion yn deall pwysigrwydd gwella presenoldeb disgyblion, mewn rhai ysgolion, nid yw gwaith i wella presenoldeb wedi cael digon o effaith. Mae ysgolion sy’n llwyddo i wella presenoldeb yn targedu adnoddau’n ofalus, yn monitro presenoldeb gan ddefnyddio data’n drylwyr, yn cydweithio â theuluoedd ac yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer disgyblion. Mae gan ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyd rôl i’w chwarae o ran gwella presenoldeb a dylent roi ystyriaeth fanwl i’r argymhellion yn yr adroddiad.’

Mae’r adroddiad yn ystyried ystod o rwystrau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â phresenoldeb gwael, gan gynnwys sut mae rhieni’n ystyried pwysigrwydd presenoldeb da, y costau cynyddol sy’n gysylltiedig â chludiant ysgol a’r diffyg cyllid penodedig gan Lywodraeth Cymru i wella presenoldeb.

Dywed awdur yr adroddiad, Alan Edwards:

‘Er bod gan ysgolion rôl bwysig mewn gwella presenoldeb, mae’n glir na allant fynd i’r afael â’r mater hwn ar eu pen eu hunain. Bydd gwella presenoldeb yn mynnu ymagwedd drawswasanaeth, ochr yn ochr â chymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys adolygu’r cyfyngiad tair milltir ar gyfer cludiant am ddim, sy’n cael effaith benodol ar ddisgyblion o deuluoedd ag incwm is, a sut y gellir cefnogi’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim yn well i fynychu’r ysgol. Rydym hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y ffordd orau i ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael i ysgolion i feithrin gallu a chynorthwyo staff i wella presenoldeb. Rydym hefyd wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ymgyrch genedlaethol i wella amgyffrediad rhieni a gofalwyr o bwysigrwydd mynd i’r ysgol.’

Archives: Erthyglau Newyddion


Menyw â gwallt tywyll yn gwisgo crys â phatrwm glas yn gwenu tra'n dal pentwr o lyfrau lliwgar, gyda phlanhigyn a wal liw golau yn y cefndir.

Mae Estyn wedi lansio Barod yn Barod (Ready Already), sef ymgyrch sy’n mynd i’r afael â rhai o’r camsyniadau yn ymwneud ag arolygiadau mewn ysgolion ac UCDau, sydd â’r nod o roi sicrwydd i ddarparwyr addysg i beidio â gorbaratoi ar gyfer arolygiadau ac addysgu fel y byddant fel arfer.

Cyflwynodd Estyn newidiadau i arolygiadau mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn 2022, gan gynnwys cael gwared ar raddau crynodol fel ‘Rhagorol’, ‘Da’, ‘Digonol’ neu ‘Anfoddhaol’. Mae ein hymagwedd wedi creu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr, arweinwyr, athrawon a staff cymorth gyfrannu’n adeiladol at sgyrsiau cydweithredol yn ystod y broses arolygu.

Mae Barod yn Barod yn ymgyrch addysgiadol sy’n cynnwys arweinwyr ysgolion ac athrawon o bob rhan o Gymru sydd â phrofiad diweddar o’r fframwaith arolygu diweddaraf ac sy’n rhoi adborth gonest am yr ymagwedd a disgwyliadau darparwyr cyn ac yn ystod arolygiad.

Mae’r ymgyrch hefyd yn cyfleu ffeithiau’n uniongyrchol gan arolygwyr Estyn er mwyn ceisio rhoi eglurder a chwalu llawer o’r chwedlau cyfredol yn ymwneud ag arolygu.

Mae Estyn yn cydnabod y pwysau ychwanegol y gall arolygu ei greu. Mae pob un o’r arolygwyr yn gyn athrawon neu arweinwyr addysg eu hunain, sydd wedi mynd trwy arolygiadau amrywiol, ac maent yn gwerthfawrogi y dylai’r broses fod yn heriol ond yn adeiladol hefyd, gan adlewyrchu gwir ansawdd dysgu mewn ysgol neu Uned Cyfeirio Disgyblion.

Mae arolygwyr yn rhannu eu canfyddiadau ag uwch arweinwyr a’r enwebai trwy gydol yr wythnos arolygu, yn ogystal â rhoi adborth yng nghyfarfod terfynol yr arolygiad.

Mae Kelly Walker, Arweinydd Cynhwysiant a Lles yn Ysgol Gynradd Alexandra yn Wrecsam, yn siarad yn gadarnhaol am ei phrofiad o arolygiad.

Ni ddes i oddi yno’n teimlo fy mod wedi cael fy nghroesholi. Fe ddes i oddi yno’n meddwl fy mod wedi cael sgwrs am beth rwy’n ei wneud yn yr ysgol a sut rydym yn gweithio. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwybod mwy amdanom ni a’n hethos. Nid oes angen i chi fod â phentwr mawr o bethau i’w cyflwyno i arolygwyr. Y cwbl sydd ei angen arnoch yw gallu siarad a gwybod eich pethau. Maen nhw’n dod i weld beth rydych chi’n ei wneud yn dda. Efallai y bydd pethau y byddant yn awgrymu eu gwella. Dyna eu gwaith. Ond, fel ysgol, dyna rydyn ni ei eisiau, hefyd. Rydyn ni eisiau gwybod sut y gallwn ni wella.”

Dywed Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Owen Evans,

Ein hamcan yw pwysleisio i ddarparwyr dysgu ledled Cymru eu bod nhw’n barod ar gyfer arolygiadau yn barod.

Nid oes angen gorbaratoi ar gyfer arolygiad o gwbl. Rydym yn gwybod bod darparwyr yn wynebu llwythi gwaith heriol ac yn aml yn ychwanegu at y pwysau hwn trwy deimlo bod rhaid iddyn nhw baratoi llwyth o waith papur ychwanegol cyn arolygiad.

Nid yw hynny’n wir. Mae ein timau arolygu eisiau gweld sut mae darparwyr yn addysgu o ddydd i ddydd. Rydyn ni eisiau gweithio ar y cyd i amlygu blaenoriaethau addysg a hyfforddiant, sy’n helpu i lunio’r deilliannau gorau posibl i ddysgwyr.”