PAEF yn tynnu sylw at arfer ragorol, ond yn galw am welliant mewn lefelau llythrennedd a mwy o gysondeb o ran ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth. - Estyn

PAEF yn tynnu sylw at arfer ragorol, ond yn galw am welliant mewn lefelau llythrennedd a mwy o gysondeb o ran ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth.

Erthygl

Heddiw, mae Estyn wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd, gan roi trosolwg clir a manwl o addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cydnabod enghreifftiau o arfer gref, gan rybuddio bod gwendidau parhaus mewn llythrennedd, ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, yn cyfyngu ar gynnydd gormod o ddysgwyr.

Gan ddefnyddio tystiolaeth arolygu o ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a gwasanaethau addysg ehangach yn ystod 2024–2025, mae’r adroddiad yn canfod, er bod llawer o gryfderau, nad yw’r system gyfan wedi gweithio’n ddigon cydlynol hyd yma i sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn gyson.

Mae enghreifftiau o arfer gref yn cael eu hamlygu trwy gydol yr adroddiad, gan gynnwys ysgolion yn ymwreiddio ymagweddau pwrpasol a systematig tuag at ddarllen, darparwyr yn sefydlu diwylliannau o ddysgu proffesiynol ac awdurdodau lleol yn datblygu darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg yn effeithiol.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at heriau hirsefydlog, gan gynnwys anghysondeb mewn arweinyddiaeth a hunanwerthuso, problemau o ran recriwtio, gallu anghyfartal i fanteisio ar ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel i athrawon, a gwendidau mewn datblygu medrau fel darllen, mathemateg a chymhwysedd digidol.

Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans,

“Mae adroddiad eleni yn sicr yn amlygu rhesymau i fod yn optimistaidd. Mae diwygiadau parhaus i’r cwricwlwm, y Rhaglen Gwella Ysgolion (RhGY) newydd, sefydlu Adnodd a Dysgu, a blwyddyn gyntaf Medr yn gwbl weithredol – yn cynnig cyfleoedd i gryfhau cydlynu ar draws y system.

“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn o’r pwysau cynyddol ar ddarparwyr, gyda niferoedd cynyddol o ddysgwyr sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol a’r galw cynyddol am ddarpariaeth arbenigol. Mae’r pryderon ynghylch lefelau llythrennedd ac ansawdd yr addysgu ledled Cymru yn parhau a, heb ffocws mwy craff a chynaledig yn y meysydd hyn, bydd gormod o ddysgwyr yn parhau i fethu cyrraedd eu potensial.”

Mae adroddiad blynyddol PAEF yn edrych yn ôl ar ganfyddiadau o adroddiadau arolygu ac adroddiadau thematig dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Ar ôl cyhoeddi crynodebau sector Estyn ym mis Hydref, mae’r adroddiad llawn ym mis Chwefror yn cynnig cyd-destun manwl ac yn rhoi mewnwelediad llawer dyfnach i’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella ar draws deunaw sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae ysgolion, lleoliadau meithrin nas cynhelir, colegau addysg bellach, prentisiaethau, addysg gychwynnol athrawon, trefniadau trochi Cymraeg a gwaith ieuenctid ymhlith y sectorau sy’n cael eu cynnwys.

Mae’r adroddiad hefyd yn gwerthuso pa mor dda mae darparwyr yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau penodol y mae dysgwyr yn eu hwynebu yng Nghymru trwy gyfres o themâu allweddol.

Mae themâu eleni yn cynnwys:

  • Datblygu maes dysgu a phrofiad (MDaPh) y Dyniaethau
  • Cefnogi disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Datblygu dysgwyr yn feddylwyr annibynnol
  • Effaith cynllunio ar gyfer llythrennedd ar fedrau darllen, ysgrifennu a llafaredd disgyblion mewn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed
  • Datblygu dealltwriaeth fathemategol a chymhwyso medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm
  • Effaith arweinyddiaeth ar addysgu

Parhaodd y Prif Arolygydd, Owen Evans:

“Hoffwn ddiolch i’r holl leoliadau, darparwyr, staff a dysgwyr sy’n parhau i ddangos ymroddiad ac ymrwymiad, er gwaethaf pwysau sylweddol. Mae Estyn yn parhau i ymrwymo i ddarparu craffu annibynnol, adeiladol a theg ac rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cynnig adborth defnyddiol i sectorau addysg a hyfforddiant i gefnogi gwelliant pellach.

“Rwy’n falch o gynnwys yr arloesedd a’r arfer gref a welom ledled Cymru ac rwy’n optimistaidd y gallwn adeiladu ar y sylfeini cryf hyn; fodd bynnag, mae angen camau gweithredu pendant i fynd i’r afael â gwendidau systemig. Byddwn yn parhau i chwarae ein rhan trwy dynnu sylw at arfer orau, herio tanberfformio a chefnogi gwelliant – dros ddysgwyr, dros Gymru.”

Yn ogystal ag ystod o astudiaethau achos arfer orau, mae cyfres o bodlediadau yn cyd-fynd ag adroddiad Estyn eleni, sy’n dod â gweithwyr proffesiynol addysg a dysgwyr ynghyd i drafod rhai o’r heriau a’r arfer orau yn unol â themâu allweddol prentisiaethau dysgu yn y gwaith a datblygu dysgwyr yn feddylwyr annibynnol.