Erthyglau newyddion |

Mae ymglymiad rhieni gydag ysgolion yn helpu disgyblion i gyflawni

Share this page

Dylai ysgolion archwilio’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfathrebu â rhieni fel y gellir eu cynnwys yn well yn addysg eu plentyn, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn. Er bod llawer o ysgolion yn croesawu ystod gynyddol o ffyrdd i helpu dileu’r rhwystrau rhwng yr ysgol a’r cartref, fel defnyddio apiau digidol, ychydig o ysgolion yn unig sy’n mynd ati i ymgynghori â rhieni ynglŷn â pha fathau o gyfathrebu sydd orau ganddynt.

Canfu adroddiad heddiw, ‘Cynnwys rhieni – Cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni plant o oedran ysgol’, nad yw ysgolion bob amser yn cynnwys tadau cystal â mamau.  Hefyd, weithiau, mae’n anos cyrraedd rhieni o ardaloedd amddifadedd uchel.  Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos sy’n amlinellu strategaethau arloesol o ysgolion sydd wedi sicrhau cyfathrebu ac ymglymiad effeithiol rhieni yn llwyddiannus.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

Caiff ei gydnabod yn gyffredinol fod cymorth rhieni’n gallu cael effaith sylweddol ar gyflawniad disgyblion. Mae llawer o ysgolion yn gwella’r ffyrdd maen nhw’n cynnwys rhieni.  Mae gan yr ysgolion mwyaf llwyddiannus ddull cynlluniedig a strwythuredig sy’n bodloni anghenion yr holl rieni ac mae’n seiliedig ar ddewisiadau rhieni.  Dylai pob ysgol ddarllen adroddiad heddiw i ddarganfod strategaethau i gefnogi’r modd y gallan nhw gynnwys rhieni’n well.

Mabwysiadwyd un strategaeth oedd â’r nod o gynnwys tadau yn fwy gan Ysgol Gynradd Lansdowne yng Nghaerdydd.  Bob bore, mae’r pennaeth yn sefyll wrth giât yr ysgol i groesawu teuluoedd.  Ar ôl sylwi bod grŵp o dadau yn amharod i fynd ar y maes chwarae, gwahoddodd nhw i rannu eu rhesymau am eu hamharodrwydd.  Gweithiodd y pennaeth yn  agos â nhw ac arweiniodd hyn at nifer o newidiadau, fel ehangu’r gwasanaeth negeseuon testun i gynnwys dau rif ffôn a defnyddio grŵp o dadau i drafod a chefnogi penderfyniadau am newidiadau i’r cwricwlwm.  O ganlyniad, bu cynnydd yn nifer y bechgyn sy’n darllen gartref gan ddefnyddio cynllun newydd, ac yn nifer y tadau sy’n mynychu nosweithiau rhieni.

Canfu arolygwyr fod rhieni disgyblion ysgolion uwchradd yn derbyn llai o ohebiaeth ar y cyfan na rhieni plant oedran cynradd.  Fodd bynnag, mae menter arloesol yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr, Aberdâr, gan ddefnyddio ap gwaith cartref, wedi helpu meithrin ymgysylltu gwell â rhieni.  Ers ei gyflwyno, mae 85% o rieni wedi mynd ati i ddefnyddio’r ap, sydd wedi arwain at welliant sylweddol yn safbwyntiau rhieni am waith cartref.

Yn ogystal ag argymell y dylai ysgolion ymgynghori â rhieni am eu hoff ffyrdd o gyfathrebu, mae Estyn yn amlygu’r angen i ysgolion sicrhau bod adroddiadau a nosweithiau rhieni yn cael eu teilwra yn unol â chryfderau penodol plentyn a’i feysydd i’w datblygu.  Dylai ysgolion gymryd camau hefyd i gynnwys rhieni’n well trwy ei gwneud yn glir sut gellir cysylltu â staff a rhiant-lywodraethwyr a gwrando ar safbwyntiau rhieni o bob cefndir economaidd gymdeithasol.  Yn olaf, mae’r adroddiad yn cynnig argymhellion i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru am eu rolau priodol mewn cynorthwyo ysgolion â’r gwaith hwn.