Mae cymorth awdurdodau lleol yn helpu ysgolion i reoli cyllid, ond mae angen cryfhau cynllunio strategol
Mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl bwysig wrth helpu ysgolion i reoli eu cyllid, ond mae’r cymorth strategol y maent yn ei gynnig yn amrywio gormod ledled Cymru, yn ôl adroddiad newydd Estyn, Cymorth awdurdodau lleol i ysgolion i reoli eu cyllidebau. Mae’r adroddiad yn archwilio pam mor effeithiol mae awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion a gynhelir â rheolaeth ariannol a chynllunio tymor hir ar adeg o bwysau cynyddol ar gyllidebau ysgolion.
Mae’r adolygiad yn canfod bod ysgolion yn gwerthfawrogi’r cyngor a’r arweiniad a gânt gan dimau cyllid awdurdodau lleol, yn gyffredinol. Mewn llawer o achosion, mae ysgolion yn elwa ar gymorth gweithredol cryf o ddydd i ddydd i’w helpu i fonitro gwariant, rheoli grantiau a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ariannol.
Fodd bynnag, mae cymorth yn llai cyson o ran helpu ysgolion i gynllunio’n strategol. Yn rhy aml, mae’r ffocws ar fantoli cyllidebau blynyddol yn hytrach na chynorthwyo ysgolion i wneud penderfyniadau ariannol tymor canolig a thymor hir hyderus.
Fel arfer, mae prosesau gosod cyllideb yn agored ac yn dryloyw, ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ymgysylltu ag ysgolion trwy grwpiau ymgynghori neu fforymau cyllideb. Fodd bynnag, gall eglurder ac amseriad gwybodaeth ariannol amrywio’n sylweddol, gan ei gwneud hi’n anodd i arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion gynllunio penderfyniadau am staff a’r cwricwlwm yn hyderus.
Mae’r adroddiad hefyd yn canfod, er bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn monitro risg ariannol ac yn cynorthwyo ysgolion sy’n wynebu anawsterau ariannol, bod dulliau ymyrraeth gynnar a chynaliadwyedd tymor hir yn anghyson. Mewn llawer o achosion, mae ymatebion yn canolbwyntio ar arbedion tymor byr yn hytrach na chynllunio tymor hwy.
Mae Estyn yn tynnu sylw at y ffaith bod yr arfer gryfaf yn digwydd lle mae gwasanaethau cyllid, adnoddau dynol a gwasanaethau gwella ysgolion yn cydweithio’n agos â’i gilydd. Mae hyn yn helpu awdurdodau i nodi risgiau’n gynharach a sicrhau bod penderfyniadau ariannol yn cyd-fynd â blaenoriaethau addysgol.
Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Owen Evans:
“Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi ymrwymo’n gryf i gynorthwyo ysgolion i reoli eu cyllid, ac mae ysgolion yn gwerthfawrogi proffesiynoldeb a hygyrchedd timau cyllid.
“Fodd bynnag, mae angen gwybodaeth gliriach a mwy amserol, a chymorth cryfach, ar ysgolion i gynllunio ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir. Lle mae awdurdodau lleol yn dwyn ynghyd arbenigedd cyllid, y gweithlu a gwella ysgolion, maent yn gallu nodi risgiau’n gynnar yn well a chynorthwyo ysgolion i wneud penderfyniadau cynaliadwy sydd o fudd i ddysgwyr.”
Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwella amseroldeb a rhagweladwyedd cyllid ac yn symleiddio trefniadau ariannu i gefnogi cynllunio tymor hir yn well. Mae hefyd yn galw am arweiniad cenedlaethol cryfach a buddsoddi mewn data i gefnogi cynllunio ariannol cyson ledled Cymru. Mae’r adroddiad yn argymell cryfhau cymorth strategol gan awdurdodau lleol trwy wella cynllunio aml-flwyddyn, darparu gwybodaeth ariannol gliriach a mwy amserol, a chydweithio’n agosach ar draws gwasanaethau cyllid, y gweithlu a gwella ysgolion.