Mae angen mwy o gydlyniant a chysondeb ar gwricwlwm Medrau Byw yn Annibynnol mewn Addysg Bellach

Mae adroddiad thematig diweddaraf Estyn, sef Y Cwricwlwm Medrau Byw yn Annibynnol (MBA) Mewn Addysg Bellach, yn tynnu sylw at welliannau nodedig ers 2017 yn y ffordd y mae colegau’n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn nodi gwendidau parhaus mewn asesu, sicrhau ansawdd, a chysondeb ar draws darparwyr.
Canfu’r adolygiad fod colegau’n personoli dysgu’n fwy effeithiol ac yn cydweithio’n ehangach, ond mae’r ddarpariaeth yn parhau i fod yn anwastad. Yn benodol, nid yw cynigion cwricwlwm wedi’u halinio’n gyson â chyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, gan beryglu diffyg cydymffurfiaeth a chanlyniadau amrywiol i ddysgwyr.
Cwblhaodd tua 1,700 o ddysgwyr raglenni MBA yn 2023-2024 ar draws 12 sefydliad addysg bellach yng Nghymru. Mae’r rhaglenni hyn yn cefnogi dysgwyr ag ystod eang o anghenion, o anawsterau dysgu ac anableddau cymedrol i ddwys, i heriau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl.
Er bod llawer o welliannau wedi’u gwneud, yn enwedig wrth leihau gorddibyniaeth ar gymwysterau achrededig a chanolbwyntio mwy ar gwricwla personol sy’n seiliedig ar fedrau, mae’r adroddiad yn rhybuddio bod amrywioldeb yn y ddarpariaeth yn parhau i gyfyngu ar gyfleoedd dysgwyr. Mae hefyd angen datblygu ymhellach gefnogaeth pontio, darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac eglurder llwybrau cwricwlwm.
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru:
“Rydym wedi gweld cynnydd cadarnhaol yn y ffordd y mae colegau’n personoli cefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth yn dal yn rhy anghyson ledled Cymru. Mae angen ailgyflunio’r cwricwlwm Medrau Byw yn Annibynnol yn fodel mwy cydlynol, uchelgeisiol, a chanolbwyntio ar ganlyniadau sy’n helpu pob dysgwr i baratoi ar gyfer bywydau oedolion boddhaol.”
Mae’r adroddiad yn argymell bod sefydliadau addysg bellach yn gweithio gyda rhanddeiliaid i alinio cwricwlwm Medrau Byw yn Annibynnol yn agosach â nodau unigol dysgwyr a gofynion statudol. Mae hefyd yn galw am ddysgu proffesiynol cryfach ar gyfer staff Medrau Byw yn Annibynnol, gwelld darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a mwy o ffocws ar olrhain cynnydd a chyrchfannau dysgwyr.