Erthyglau newyddion |

Mae angen i ysgolion gynorthwyo disgyblion yn well wrth ddewis gyrfa

Share this page

Mae angen i ysgolion uwchradd sicrhau bod disgyblion yn gallu cael at wybodaeth ddiduedd, gyfredol, am eu hopsiynau yngylch dysgu a gyrfaoedd yn y dyfodol, ynghyd â threfnu trafodaethau rheolaidd am opsiynau disgyblion, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn. Er bod bron pob ysgol yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i ddisgyblion am y llwybrau sydd ar gael iddynt ar ôl TGAU, nid yw mwyafrif yr ysgolion wedi ymateb yn effeithiol i newidiadau yn y ffordd y mae Gyrfa Cymru yn eu cefnogi. O ganlyniad, mae gallu disgyblion i gael at gyngor ac arweiniad diduedd, a chymorth personol, yn amrywio’n ormodol. Dim ond ychydig ysgolion sy’n sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfweliad personol i drafod ei ddyfodol. Yn gyffredinol, mae ysgolion yn rhoi gormod o bwyslais ar hyrwyddo’u chweched dosbarth eu hunain yn hytrach na’r opsiynau sydd ar gael mewn chweched dosbarth mewn ysgol arall, mewn colegau addysg bellach neu brentisiaethau.

Mae’r adroddiad ‘Gweithredu’r fframwaith gyrfaoedd a’r byd gwaith mewn ysgolion uwchradd’  yn bwrw golwg ar y graddau y mae ysgolion yn cyflwyno’r fframwaith statudol y bwriedir iddo helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer eu bywyd gwaith.  Canfu arolygwyr fod lefel yr amser mewn gwersi a’r dulliau o roi cyngor ar yrfaoedd a phrofiad o fyd gwaith i ddisgyblion yn amrywio’n ormodol rhwng ysgolion.  Er bod yr amser mae ysgolion yn ei neilltuo i weithgareddau gyrfaoedd a gwaith wedi cynyddu ar gyfartaledd, mewn sawl achos, mae’r ddarpariaeth hon bellach yn cael ei chynllunio yn ôl gofynion Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn hytrach na’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith.

Meddai Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd,

“Mae adroddiad heddiw yn amlygu nad yw pob disgybl yn cael yr un lefel o gymorth i’w helpu i wneud penderfyniadau pwysig am eu haddysg a’u gyrfa yn y dyfodol.

 

“Mae angen i bob ysgol sicrhau bod eu holl ddisgyblion yn cael cymorth llawn wrth wneud y penderfyniadau hyn.  Dylai’r ystod lawn o opsiynau ôl-16 gael eu cynnig iddynt, dylent gael cynnig profiad gwaith perthnasol a dylent gael cyfweliad i drafod eu gyrfa.”

Hefyd, mae’r adroddiad yn dweud bod angen i ysgolion arfarnu pa mor dda y maent yn cynorthwyo disgyblion â chynllunio ar gyfer eu dyfodol.  Mae angen i arweinwyr sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi’n dda a’u bod yn gwneud defnydd gwell o wybodaeth i fonitro cyflawniad er mwyn helpu i gynllunio gwelliant.

Mae argymhellion pellach wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad i ysgolion, awdurdodau a chonsortia, a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cynyddu cysylltiad llywodraethwyr, yn ogystal ag adolygu fframwaith y llywodraeth er mwyn adlewyrchu egwyddorion y cwricwlwm newydd.

Ynglŷn â’r adroddiad

Cafodd adroddiad Estyn ‘Gweithredu’r fframwaith gyrfaoedd a’r byd gwaith mewn ysgolion uwchradd’ ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.gov.wales/thematic-reports

Adroddiadau blaenorol:

Fe wnaeth sail dystiolaeth yr adroddiad hwn gynnwys tystiolaeth o adroddiadau arolygu 156 o ysgolion uwchradd, holiaduron gan 21 ysgol uwchradd, cyfweliadau dros y ffôn â naw ysgol a phum arolygiad yn canolbwyntio’n benodol ar yrfaoedd a’r byd gwaith.