Erthyglau newyddion |

Mae angen gwella safonau TGCh mewn ysgolion uwchradd

Share this page

Mae safonau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) fel pwnc yn dda neu’n well mewn tua hanner yr ysgolion uwchradd yr ymwelwyd â nhw yn ystod yr arolwg hwn, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn heddiw.

Mae adroddiad Estyn, ‘TGCh yng nghyfnod allweddol 3’, yn arfarnu safonau mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) fel pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol yn ogystal ag ystyried effaith TGCh fel medr allweddol i gynorthwyo dysgu’r disgyblion ar draws y cwricwlwm.

Dywed Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Mae defnyddio technoleg ddigidol yn rhan o fywyd bob dydd i lawer ohonom. Fodd bynnag, mae datblygu medrau TGCh cymwys mewn ysgolion uwchradd yn her ac mae angen i ddisgyblion gael digon o gyfleoedd i gymhwyso’u medrau mewn cyd-destunau gwahanol. Er bod pocedi o arfer dda, mae angen i bob ysgol uwchradd wella ansawdd addysgu, cyflwyno a monitro TGCh ar draws y cwricwlwm.

“Rwy’n annog pob ysgol i ddarllen yr adroddiad, nodi’r argymhellion ac anelu at arfer dda y darparwyr hynny sy’n cael sylw yn ein hastudiaethau achos.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos y modd y gellir gwella addysgu TGCh fel pwnc ac fel medr ar draws y cwricwlwm drwy ddulliau arloesol fel yn Ysgol y Creuddyn ger Llandudno, lle mae disgyblion yn creu fideo digidol i gynorthwyo eu dysgu mewn mathemateg.

Lle mae ansawdd y cynllunio, darparu ac asesu ar gyfer TGCh fel pwnc yn dda neu’n well yn hanner yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw, mae mater yn codi ynghylch pa mor effeithiol y mae adrannau TGCh ac adrannau pwnc eraill yn cysylltu â’i gilydd i ddarparu cyfleoedd wedi’u cynllunio’n dda i ddisgyblion gymhwyso medrau, a ddatblygwyd mewn gwersi TGCh ar wahân, mewn cyd-destunau ystyrlon ar draws y cwricwlwm.

Mae ‘TGCh yng nghyfnod allweddol 3’ yn argymell fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu fframwaith statudol ar gyfer TGCh o’r Cyfnod Sylfaen i ôl-16 ac yn ystyried datblygiadau mewn technoleg, yn amodol ar adolygu’r cwricwlwm presennol yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gamau y dylai ysgolion ac awdurdodau lleol/ consortia rhanbarthol eu cymryd i wella addysgu, monitro ac asesu.

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Cyhoeddir yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014 ac mae ar gael yn llawn i’w lawrlwytho yma.
  • Yr adroddiad hwn yw’r ail i’w gynhyrchu mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2012-2013. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar effaith technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) ar ddysgu disgyblion yng nghyfnod allweddol 3 mewn ysgolion uwchradd. Roedd yr adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2013, yn canolbwyntio ar effaith TGCh ar ddysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd. Mae’r ddau adroddiad hwn yn adeiladu ar ddau adroddiad cynharach:
  • ‘Adolygiad o’r ddarpariaeth technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) mewn ysgolion a’i heffaith ar godi safonau’ (Estyn, 2003); ac
  • ‘Arfarniad o effaith y gronfa Ysgolion Gwell ar ddarpariaeth ar gyfer TGCh mewn ysgolion’ (Estyn, 2007).

Astudiaethau achos arfer orau

  • Ysgol Gyfun Radur, Caerdydd
  • Ysgol Gyfun Aberaeron, Ceredigion
  • Ysgol y Creuddyn, Conwy
  • Ysgol Uwchradd Prestatyn, Sir Ddinbych
  • Ysgol Gyfun Aberpennar, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, Rhondda Cynon Taf
  • Pen-y-Dre, Merthyr Tudful
  • Ysgol Maelor, Wrecsam

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth mewn dysgu i bawb yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan, sef www.estyn.gov.uk