Erthyglau newyddion |

Gwella llythrennedd mewn ysgolion uwchradd yn her o hyd

Share this page

Er bod y ddarpariaeth ar gyfer datblygu llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3 yn parhau’n ddigonol at ei gilydd, bu rhywfaint o gynnydd wrth weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Mae ymwybyddiaeth y rhan fwyaf o athrawon o’r angen i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion wedi gwella a, bellach, maent yn cynnwys llythrennedd yn eu cynlluniau pwnc. Mae llawer o ysgolion yn cynnig mwy o gyfleoedd i ddisgyblion lunio darnau estynedig o waith ysgrifennu ar draws y cwricwlwm.

‘Llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3: adroddiad interim’ yw’r ail o dri adroddiad yn arfarnu effeithiolrwydd strategaethau llythrennedd ac effaith y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, a ddaeth yn ofyniad statudol i bob ysgol o Fedi 2013.

Dywed Ann Keane, Prif Arolygydd,

Mae safonau llythrennedd disgyblion yn yr ysgolion a fu’n rhan o’r arolwg yr un fath â’r safonau yn adroddiad gwaelodlin 2012. Fodd bynnag, mae ansawdd y cynllunio wedi gwella ac mae gwell cyfleoedd i wella safonau ymhellach wrth i ysgolion droi at weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn llawnach. Er gwaethaf gwelliannau yn y deilliannau a aseswyd gan athrawon, ar y lefel ddisgwyliedig ar gyfer disgyblion 11 i 14 mewn Cymraeg a Saesneg mamiaith yng nghyfnod allweddol 3, mae gwella llythrennedd yn her o hyd.

Mae angen i lythrennedd barhau’n brif flaenoriaeth i ysgolion fel y gall ddisgyblion gymhwyso’u medrau i bynciau ar draws y cwricwlwm a chyflawni eu potensial llawn. Rwy’n annog pob ysgol i weithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad hwn a defnyddio’r astudiaethau achos arfer orau er mwyn helpu i wella llythrennedd i bob disgybl.

Darganfu arolygwyr fod y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wedi’i gyflwyno’n gyflym, ond cymedrol fu’r cynnydd wrth weithredu’r fframwaith. Mae nifer o resymau dros hyn, gan gynnwys y cyfnod arweiniol byr ac anawsterau o ran cael cymorth a hyfforddiant.

Mae ysgolion wedi gwneud cynnydd da yn amlygu llythrennedd yn flaenoriaeth i’r ysgol gyfan ac yn cydnabod gwerth y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wrth eu helpu i archwilio a datblygu eu cynlluniau. Mae cydlynydd llythrennedd gan bron pob un o’r ysgolion erbyn hyn. Er bod yr ysgolion yn y sampl a gafodd ymweliadau wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, nid yw athrawon yn gwbl glir o hyd ynghylch y safonau llythrennedd a ddisgwylir ar draws y cwricwlwm. Mae mecanweithiau i asesu ac olrhain cynnydd mewn llythrennedd wedi’u tanddatblygu o hyd yn y rhan fwyaf o ysgolion.

Amlygir Ysgol Gyfun Bro Morgannwg ym Mro Morgannwg fel un o’r astudiaethau achos arfer orau yn yr adroddiad. Cyflogodd yr ysgol uwchradd dri chyn athro cynradd i gynorthwyo â’r gwaith ar fedrau llythrennedd disgyblion, gan fod nifer o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol uwchradd gydag oedrannau darllen isel a geirfa ymarferol gyfyngedig. Bu’r athrawon yn gweithio gyda disgyblion Blwyddyn 7 i wella cystrawen, atalnodi a sillafu. O ganlyniad, fe wnaeth deilliannau disgyblion wella’n sylweddol.

Mae ‘Llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3’ yn cynnwys cyfres o argymhellion i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Dylai ysgolion weithredu dull cydlynus o ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm a gwella olrhain a monitro medrau llythrennedd disgyblion. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu deunyddiau cymorth ac enghreifftiau o safonau i ysgolion cyn datblygiadau pellach i’r fframwaith, ynghyd ag arweiniad clir a hwylus.

Nodiadau i Olygyddion

Ynglyn â’r adroddiad

Yr adroddiad hwn yw’r ail mewn cyfres a gyhoeddir mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014, ac mae ar gael yn llawn yma.

Mae’r adroddiad cyntaf ar gael yma.

Astudiaethau achos arfer orau

  • Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili
  • Ysgol Uwchradd Elfed, Sir y Fflint
  • Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Bro Morgannwg

Ynglyn ag Estyn

Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ond yn cael ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk