Ffocws Manylach Estyn ar Ddarllen: Cefnogi Pob Dysgwr i Lwyddo - Estyn

Ffocws Manylach Estyn ar Ddarllen: Cefnogi Pob Dysgwr i Lwyddo

Erthygl

Plentyn mewn gwisg ysgol yn dal llyfr i fyny mewn llyfrgell, gyda phlentyn arall a silffoedd llyfrau yn llawn llyfrau yn y cefndir.

O fis Medi 2026, byddwn yn lansio ffocws manylach tair blynedd ar ddarllen. Rydym yn gwybod nad yw llawer o ddysgwyr yn ddarllenwyr rhugl, datblygedig erbyn iddynt adael yr ysgol neu addysg bellach a hoffem fod yn rhan o’r ateb sy’n torri’r cylch hwn. Ein nod yw cefnogi pob darparwr addysg – o leoliadau meithrin nas cynhelir i ysgolion, colegau a gwasanaethau dysgu oedolion – i wella lefelau llythrennedd pob dysgwr yng Nghymru. Byddwn yn canolbwyntio ein gwaith arolygu ac yn datblygu ystod o adnoddau i helpu i roi hwb i safonau ledled Cymru; i roi’r cyfle gorau i bob dysgwr lwyddo.

Mae darllen yn rhugl yn hanfodol ar gyfer dysgu, lles a chyfleoedd bywyd ac mae ymchwil yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng llythrennedd isel a thangyflawniad, tlodi a throseddu. Mae’r rhai sydd â llythrennedd gwael ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith, yn ennill 60% yn llai, ar gyfartaledd, ac mae gan dros hanner y boblogaeth oedolion yn y carchar fedrau darllen islaw medrau plentyn 11 oed. Hoffem sicrhau bod dysgwyr yn gallu gwneud cynnydd gwell ar draws pob un o feysydd y cwricwlwm a chael cyfleoedd gwell mewn bywyd.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Owen Evans:

“Darllen yw’r allwedd i gynifer o bethau. Nid oes sylfaen bwysicach ac, er bod arfer ragorol mewn addysgu darllen ledled Cymru, nid yw pob darparwr yn canolbwyntio digon ar wella darllen dysgwyr. Hoffem fod yn rhan o’r ateb a fydd yn helpu i dorri’r cylch rhwng llythrennedd isel a thlodi.

“Trwy ein harolygiadau a’n hymweliadau ymgysylltu, byddwn yn ennill dealltwriaeth well o ba mor dda y mae darparwyr yn datblygu diwylliant darllen cryf ac yn gwerthuso effeithiolrwydd systemau sy’n cefnogi dysgwyr wrth iddynt symud trwy wahanol gamau o ddatblygu darllen. Bydd ein harolygwyr yn ystyried a yw darparwyr yn defnyddio dulliau wedi’u seilio ar dystiolaeth, sy’n addas ar gyfer anghenion dysgwyr, a chyda ffocws traws-sector ar ddarllen, byddwn yn nodi’r hyn sy’n gweithio’n dda ac yn rhannu canfyddiadau i gefnogi gwelliant ar draws y system addysg. 

“Mae darllen yn fedr gydol oes sy’n agor drysau i gyfleoedd yn y dyfodol a thrwy’r dull targedig hwn, ein nod yw cefnogi dysgwyr yn well i wneud cynnydd ar draws pob un o feysydd y cwricwlwm a chael cyfleoedd gwell mewn bywyd.

“Mae ein dysgwyr yn haeddu ymdrech gydweithredol i roi hwb i safonau darllen a byddwn yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol Cymru, Dysgu, Adnodd, Arolygiaeth Gofal Cymru a Chymwysterau Cymru i sicrhau bod ein hymdrechion yn cyd-fynd â’i gilydd.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

“Darllen yw conglfaen dysgu ac mae’n fedr sylfaenol sy’n llunio cyfleoedd bywyd. Mae gwella lefelau llythrennedd yn flaenoriaeth uchel ac rwy’n croesawu ffocws manylach Estyn ar ddarllen a’u hymrwymiad i gydweithio ar draws y system addysg i godi safonau. Trwy sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn datblygu medrau llythrennedd cryf, rydym nid yn unig yn gwella deilliannau addysgol — rydym yn agor drysau i gyflogaeth, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn rhoi’r offer sydd eu hangen ar ein pobl ifanc i ffynnu. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd yn ei chael ar ddysgwyr ledled Cymru.”

Bydd Estyn yn parhau i ddatblygu rhaglen dros y misoedd nesaf sy’n integreiddio ffocws clir ar ddarllen yn yr holl waith arolygu ac ymgysylltu. Bydd golwg ychydig yn wahanol ar hyn ym mhob sector a bydd yn cael ei gefnogi gan raglen hyfforddiant gynhwysfawr ar gyfer yr holl staff arolygu cyn ei lansio ym mis Medi 2026. Yn ogystal â hyn, bydd Estyn yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau byw a rhithwir i rannu arfer orau â darparwyr addysg.