Estyn yn rhannu canfyddiadau o ymchwil amgyffredion rhanddeiliaid 2025
Yn ddiweddar, buom yn holi barn rhanddeiliaid fel rhan o’n hymchwil amgyffredion rhanddeiliaid annibynnol. Nod y gwaith hwn yw ein helpu i ddeall sut mae rhanddeiliaid ledled Cymru yn gweld ein gwaith, pwy ydym ni, beth rydym ni’n ei wneud a’r effaith a gawn. Un o’n huchelgeisiau yw bod pawb rydym yn rhyngweithio â nhw yn deall ac yn gwerthfawrogi ein cyfraniad at y sector ac at ddysgwyr yng Nghymru.
Hon yw’r ail flwyddyn i ni gynnal y gwaith hwn, sy’n cynnwys arolwg ar-lein agored a chyfweliadau manylach dros y ffôn. Mae’r canfyddiadau yn ein helpu i gael dealltwriaeth fanylach o’r perthnasoedd gwaith sydd gennym â’n rhanddeiliaid – i asesu ein henw da, asesu effaith a defnyddioldeb ein hadroddiadau, ein cyhoeddiadau a’n hymgyrchoedd allweddol, a deall y dulliau y mae rhanddeiliaid yn eu ffafrio i gyfathrebu ac ymgysylltu â ni.
Bydd Estyn yn defnyddio’r canfyddiadau i lywio gwaith parhaus i wella cysondeb, lleihau pryderon, a chryfhau ymgysylltu a chyfathrebu—yn enwedig gyda staff mewn rolau nad ydynt yn rhai uwch.
Dywed Owen Evans, y Prif Arolygydd,
“Mae’n galonogol fod y rhai sydd wedi cael arolygiadau yn y blynyddoedd diwethaf yn adrodd am safbwyntiau mwy cadarnhaol, sy’n amlygu pwysigrwydd y newidiadau a gafodd eu cyflwyno o dan y fframwaith arolygu newydd a’n ffocws clir ar ddeialog a chydweithio.
“Mae’r ymchwil hon yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr ac amserol i ni ar sut caiff Estyn ei amgyffred gan ystod eang o randdeiliaid ledled Cymru. Rwy’n hynod falch ein bod ni, eleni, wedi clywed gan lawer mwy o arweinwyr canol a staff sy’n gweithio’r tu allan i rolau uwch, y mae eu lleisiau’n hanfodol os ydyn ni am ddeall effaith lawn ein gwaith.
“Rydyn ni’n cymryd y canfyddiadau hyn o ddifri. Maen nhw’n atgyfnerthu’r angen i ni barhau i wella cysondeb, tryloywder a chyfathrebu, a sicrhau bod ein gwaith yn cael ei ddeall, nid yn unig gan uwch arweinwyr ond gan staff ar bob lefel. Bydd lleihau pryderon diangen, cryfhau ymgysylltu ag arweinwyr canol ac athrawon, a rhannu arfer orau yn fwy effeithiol yn parhau yn flaenoriaethau allweddol i ni. Mae gwrando ar adborth fel hyn yn ganolog i’n hymrwymiad i ddysgu, gan wella a meithrin ymddiriedaeth ar draws y system addysg.”
Byddwn yn parhau i gynnal yr ymarfer hwn yn flynyddol i’n galluogi i feincnodi a mesur cynnydd yn ein gwaith wrth i ni wrando ac ymateb.
Darllenwch mwy yma: Canfyddiadau ymchwil rhanddeiliad 2025