Estyn yn penodi tri Chyfarwyddwr Anweithredol newydd i gryfhau arweinyddiaeth strategol - Estyn

Estyn yn penodi tri Chyfarwyddwr Anweithredol newydd i gryfhau arweinyddiaeth strategol

Erthygl

3 Non executive directors placed on an orange background

Mae Estyn, yr arolygiaeth dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn falch o gyhoeddi penodi Gareth Morgans, John Cappock a Ravi Pawar yn gyfarwyddwyr anweithredol ar ei fwrdd. Bydd eu medrau a’u profiad yn ategu rhai aelodau presennol y bwrdd, sef Maria Rimmer a David Jones, wrth iddynt gydweithio i arwain gweledigaeth strategol Estyn i wella ansawdd addysg a hyfforddiant ledled Cymru.

Dewiswyd aelodau newydd y bwrdd o gefndiroedd proffesiynol amrywiol i ddod â safbwynt eang ac amrywiol i fwrdd strategaeth Estyn. Bydd ei mewnwelediadau’n cynnig cyngor gwerthfawr a her adeiladol wrth i’r sefydliad adeiladu ar weithredu ei fodel arolygu newydd yn llwyddiannus a’i esblygiad parhaus wrth iddo ymdrechu i gryfhau’r system addysg yng Nghymru.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans: “Mae’n bleser gennyf groesawu Gareth, John a Ravi i fwrdd Estyn. Maent yn dod â chyfuniad trawiadol o fedrau a phrofiad a fydd yn cyfoethogi ein dull ac yn sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau. Bydd eu harweiniad yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i gryfhau ein dull a chyflawni ein hymrwymiad i wella deilliannau i ddysgwyr ledled Cymru.”

Trwy gydweithio’n agos â thîm gweithredol Estyn, bydd y cyfarwyddwyr anweithredol newydd yn helpu i lunio strategaeth hirdymor y sefydliad, gan sicrhau bod Estyn yn parhau i fod yn ymatebol, yn flaengar ac yn effeithiol yn ei oruchwyliaeth o ddarpariaeth addysg a hyfforddiant i wella ansawdd addysg a hyfforddiant a deilliannau i bob dysgwr yng Nghymru.

“Hoffwn ddiolch i Charlotte Williams ac Emyr Roberts, ein cyfarwyddwyr anweithredol sy’n ymadael, sydd wedi cwblhau eu cyfnod ac wedi ein cefnogi trwy gyfnod cyffrous o ddatblygiad wrth inni ddatblygu a gweithredu ein model arolygu newydd ar draws y rhan fwyaf o sectorau a arolygwn.”

Roedd Gareth yn bennaeth mewn dwy ysgol gynradd yn Sir Gâr ac mae wedi dal dwy rôl uwch arweinyddiaeth yn Awdurdod Addysg Sir Gâr, gan gynnwys Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant. Fel Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru yn ystod pandemig Covid-19, fe arweiniodd gydweithio ledled Cymru a chyfrannu at grwpiau allweddol Llywodraeth Cymru. Mae Gareth yn arolygydd cymheiriaid profiadol Estyn ac yn eiriolwr dros ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol a hawliau plant.

Mae John Cappock yn Gyfrifydd Siartredig sy’n dod â chyfoeth o brofiad arweinyddiaeth addysgol ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa’n gweithio mewn rolau uwch yn y sector addysg uwch. Mae’n Aelod Anweithredol Annibynnol ac yn Gadeirydd Archwilio ar gyfer Bwrdd Gofal Integredig GIG Bryste, Gogledd Gwlad yr Haf a De Swydd Gaerloyw. Mae hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd y Bwrdd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Swydd Gaerloyw. Mae John hefyd yn aelod annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Risg y Cyngor Optegol Cyffredinol.

Mae Ravi Pawar yn arweinydd addysg profiadol sydd â thros 33 o flynyddoedd mewn addysg uwchradd. Mae’n gyn-Lywydd ASCL Cymru a chanddo ddealltwriaeth ddofn o wella ysgolion, polisi addysgol, llywodraethu a datblygu’r gweithlu yn y system addysg yng Nghymru. Mae wedi cyfrannu’n helaeth at ddiwygio addysg genedlaethol trwy rolau cynghori, arolygu a llywodraethu. Ar hyn o bryd, mae’n Aelod Bwrdd ar gyfer Cymwysterau Cymru ac yn Gadeirydd Parthian Books Lts. Mae’n arolygydd cymheiriaid profiadol yn Estyn ac, yn ddiweddar, bu’n fentor i ddarpar arweinwyr  trwy Raglen Arweinyddiaeth Lleiafrifoedd Ethnig Estyn.