Estyn yn fyw: Hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol mewn ysgolion uwchradd
Erthygl

Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar Estyn yn Fyw am 4:00yh ar 23 Mehefin 2025 am drafodaeth ynglŷn ag arfer effeithiol a chanfyddiadau allweddol o’n hadroddiad thematig diweddar:
Meithrin parch ar y ddwy ochr – hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol mewn ysgolion uwchradd – Estyn
Bydd awdur yr adroddiad, Aranwen Morgans-Thomas AEF yn cael cwmni cynrychiolwyr o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd i rannu eu profiadau.
Bydd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â’r adroddiad, neu’r pwnc yn ehangach.