Erthyglau newyddion |
Estyn yn croesawu Prif Arolygydd newydd
Mae Meilyr Rowlands wedi ymgymryd â rôl Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
O 1 Mehefin ymlaen, ef fydd yn gyfrifol am arwain yr arolygiaeth a goruchwylio bron 400 o arolygiadau’r flwyddyn, cynghori’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, a chefnogi’r ymdrech i sicrhau gwelliant mewn addysg.
Dywed Meilyr, “Rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn o fod yn Brif Arolygydd newydd Estyn. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar gryfderau ein system arolygu a gweithio gydag athrawon, uwch arweinwyr, rhieni a dysgwyr.”
I ddysgu rhagor am Meilyr, darllenwch ei fywgraffiad.