Estyn i gynnal digwyddiadau Estyn yn Fyw misol ar gyfer 2025/26 - Estyn

Estyn i gynnal digwyddiadau Estyn yn Fyw misol ar gyfer 2025/26

Erthygl

Portread o unigolyn proffesiynol gyda logo Estyn ar y dde uchaf, wedi'i osod yn erbyn cefndir deuol o wyrdd a gwyn.

Mae Estyn yn lansio cyfres newydd o weminarau Estyn yn Fyw misol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, wedi’u cynllunio i gefnogi gweithwyr addysg proffesiynol ledled Cymru.

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar thema allweddol, o dynnu’r dirgelwch allan o’r broses arolygu i rannu arfer effeithiol o’n hadroddiadau thematig diweddaraf. Bydd mynychwyr yn clywed yn uniongyrchol gan arolygwyr Estyn yn ogystal â darparwyr, a fydd yn rhannu eu profiadau a’u mewnwelediadau. Bydd pob gweminar hefyd yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb byw, gan roi cyfle i gyfranogwyr ofyn eu cwestiynau’n uniongyrchol i’r siaradwyr.

Cynhelir ein gweminar Estyn yn Fyw cyntaf am 4:00pm ar 24 Medi 2025. Ymunwch â Phrif Arolygydd Ei Fawrhydi Owen Evans a’i dîm wrth iddynt ganolbwyntio ar arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Bydd y sesiwn drafod yn dadansoddi popeth sydd angen i chi ei wybod cyn arolygiad – gan ei gwneud yn sesiwn hanfodol i arweinwyr ysgolion, staff a llywodraethwyr sydd eisiau dysgu mwy am y broses.

Isod mae amserlen Estyn yn Fyw ar gyfer 2025/26. Bydd rhagor o fanylion am y sesiynau sydd i ddod yn cael ei gyhoeddi drwy gydol y flwyddyn.

Dydd Mercher 24 Medi 16:00 – Arolygu ar gyfer ysgolion ac UCDau – popeth y mae angen i chi ei wybod!

Dydd Iau 23 Hydref 16:00 – Addysgu Cwricwlwm i Gymru

Dydd Iau 27 Tachwedd 16:00 – Ieithoedd Rhyngwladol mewn Ysgolion

Dydd Iau 11 Rhagfyr 16:00 – Mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg

Dydd Iau 29 Ionawr 16:00 – Ffocws ar Ddarllen

Dydd Iau 12 Chwefror 16:00 – Adroddiad blynyddol PAEF: negeseuon allweddol

Dydd Iau 26 Mawrth 16:00 – Y tu mewn i Ymweliad Interim

Dydd Iau 30 Ebrill 16:00 – Arolygu yn y sector ôl-16 – popeth y mae angen i chi ei wybod!

Dydd Iau 21 Mai 16:00 – Mynd i’r afael â phresenoldeb mewn ysgolion

Dydd Iau 25 Mehefin 16:00 – Prentisiaethau: Adolygiad o’r cylch

Dydd Iau 16 Gorffennaf 16:00 – Arolygu yn y sector gwaith ieuenctid – popeth y mae angen i chi ei wybod!