Er gwaethaf rhai gwelliannau diweddar, mae adroddiad diweddaredig gan Estyn yn datgelu heriau parhaus mewn gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd

Heddiw, mae Estyn wedi cyhoeddi fersiwn ddiweddaredig o’i adroddiad thematig ar bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, sy’n adeiladu ar ganfyddiadau’r cyhoeddiad gwreiddiol ym mis Ionawr 2024.
Er bod yr adroddiad yn nodi ystod o enghreifftiau o ddulliau llwyddiannus a ddefnyddir gan ddarparwyr, mae’n glir fod presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn parhau i fod yn sylweddol is na lefelau cyn y pandemig, ac yn parhau i fod yn bryder cenedlaethol pwysig.
Mae’r adroddiad diweddaredig yn darparu mewnwelediadau newydd a gafwyd o dystiolaeth arolygu ddiweddar, ymgysylltiad parhaus ag ysgolion a gafodd eu cynnwys o’r blaen, ysgolion yr ymwelwyd â nhw o’r newydd sydd wedi gwella presenoldeb, ac yn cynnwys dadansoddiad o’r data presenoldeb cenedlaethol diweddaraf.
Mae data cenedlaethol diweddar heb ei wirio yn amlygu bod presenoldeb cyffredinol ar gyfer ysgolion uwchradd wedi cynyddu 1.1% pwynt i 89%, ond mae hyn yn parhau i fod gryn dipyn yn is na lefelau cyn y pandemig, ac er bod presenoldeb disgyblion oedran uwchradd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu hefyd, mae’n parhau i fod yn bryderus o isel.
Ar sail data o 2023-2024, mae disgyblion ysgolion uwchradd yn colli bron i 11 diwrnod o addysg yn fwy bob blwyddyn, ar gyfartaledd, nag yr oeddent cyn y pandemig. Mae Estyn yn rhybuddio y byddai’n cymryd dros ddeng mlynedd i adfer i lefelau cyn y pandemig ar y gyfradd wella bresennol.
Mae disgyblion o gefndiroedd incwm isel ac sy’n byw o fewn y radiws tair milltir nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol yn wynebu rhwystrau sylweddol rhag mynychu’n rheolaidd.
Dywedodd penaethiaid wrthym hefyd fod arholiadau Blwyddyn 11 a’r ffaith fod disgyblion eisiau adolygu gartref hefyd yn cyfrannu at ostyngiad mewn cyfraddau presenoldeb ar ddechrau’r flwyddyn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Owen Evans:
“Er gwaethaf arwyddion cynnar o welliant, mae cynnydd wrth fynd i’r afael â materion presenoldeb yn araf o hyd mewn lleiafrif o ysgolion. Mae cymorth yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru, ac mae data cyfyngedig yn parhau i rwystro gallu ysgolion i werthuso effaith a thargedu camau gweithredu yn effeithiol.
“Rydyn ni wedi ychwanegu enghreifftiau newydd o ddulliau llwyddiannus gan ysgolion a dau argymhelliad pellach ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn atgyfnerthu’r angen dybryd am ymagwedd gydgysylltiedig a chenedlaethol at wella presenoldeb. Mae’n glir
Nni all ysgolion fynd i’r afael â’r mater hwn ar eu pen eu hunain.”