Erthyglau newyddion |

Dysgwyr yn ffurfio eu profiad eu hunain o addysg

Share this page

Bellach, mae dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach a chanolfannau Cymraeg i oedolion yn chwarae mwy o ran mewn dylanwadu ar benderfyniadau am addysgu, am y cwricwlwm ac am adnoddau.

Canfu adroddiad Estyn, sef Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach a chanolfannau Cymraeg i oedolion, fod darparwyr yn well o lawer am gasglu barn a safbwyntiau dysgwyr, defnyddio cynrychiolwyr dosbarthiadau, paneli, grwpiau ffocws ac arolygon, o ganlyniad i roi strategaethau ar waith i gynnwys dysgwyr. Fodd bynnag, nid yw darparwyr yn mesur p’un a yw cynnwys dysgwyr mewn penderfyniadau wedi cael effaith ar eu cyrhaeddiad a’u medrau ai peidio. Dim ond megis dechrau gweithredu systemau ffurfiol i gofnodi a chydnabod deilliannau i ddysgwyr y mae darparwyr.

Dywed y Prif Arolygydd, Ann Keane,

“Rwy’n falch iawn bod dysgwyr yn cael eu cynnwys yn ehangach mewn ffurfio penderfyniadau sy’n effeithio ar eu profiad o ddysgu mewn addysg bellach a chanolfannau Cymraeg i oedolion erbyn hyn.

 

“Ers i ni adrodd ar gynnwys dysgwyr yn 2012, gwnaed cynnydd da o ran sicrhau bod dysgwyr yn cael dweud eu dweud. Mae darparwyr ôl-16 wedi defnyddio arweiniad Strategaeth Cynnwys Dysgwyr Llywodraeth Cymru yn effeithiol ac mae staff yn gwrando ar ddysgwyr ac yn cymryd eu barn o ddifrif.

 

Mae cynnwys dysgwyr mewn ffurfio’u profiad dysgu yn eu helpu i wella eu medrau personol a chymdeithasol a’u lles. Rydym wedi gweld myfyrwyr sydd wedi dylanwadu ar gyngor lleol, wedi darbwyllo coleg i gynyddu nifer y cyfrifiaduron sydd ganddo ac wedi cyfrannu at ehangu’r cwricwlwm.

 

“Mae’r dysgwyr hyn wedi sylweddoli bod ganddynt y gallu i effeithio ar newidiadau yn eu bywydau trwy weithredu ar faterion sydd o bwys iddynt.”

Mae Prosiect Cynrychiolaeth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi chwarae rhan mewn helpu dysgwyr i fynegi eu barn a’u safbwyntiau. Sefydlwyd y prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn 2010, ac mae wedi darparu hyfforddiant i gynrychiolwyr dosbarthiadau ac wedi helpu sefydliadau addysg bellach i gynnwys dysgwyr.

Gall cymryd rhan mewn penderfyniadau helpu i ddatblygu medrau dysgwyr. Mae dysgwyr Cymraeg i oedolion o’r farn bod gweithredu’n gynrychiolydd dosbarth yn eu helpu i ddefnyddio eu medrau iaith mewn cyd-destunau gwahanol. Fodd bynnag, mae rhai dysgwyr yn rhybuddio y gall bod yn gynrychiolydd dosbarth gymryd amser oddi wrth eu hastudiaethau, ambell waith.

Mae llawer o fanteision i gynnwys dysgwyr. Er enghraifft, teimlai staff Coleg Morgannwg yn Rhondda Cynon Taf fod cynnwys dysgwyr wedi helpu cyfraddau cadw. Yn yr ymgysylltiad llwyddiannus yng Ngholeg Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin, mae myfyrwyr y celfyddydau perfformiadol wedi gwella dealltwriaeth dysgwyr a staff o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Yng nghanolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg, mae paneli dysgwyr wedi helpu i gasglu adborth am gyrsiau, deunyddiau, y cwricwlwm ac ansawdd lleoliadau. Mae staff wedi trafod y materion a godwyd gyda dysgwyr ac wedi adrodd yn ôl ar y cynnydd a wnaed o ran ymateb iddynt.

Mae’r adroddiad llawn yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys cyflwyno systemau ffurfiol mewn sefydliadau addysg bellach a chanolfannau Cymraeg i oedolion i fonitro canlyniadau gweithgareddau cynnwys dysgwyr, gwella dealltwriaeth cynrychiolwyr dosbarthiadau o’u rôl a gwella dealltwriaeth tiwtoriaid o’u rôl o ran cynnwys dysgwyr.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn, ‘Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach a chanolfannau Cymraeg i oedolion’ gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn ei gyfanrwydd yma.
  • Mae sail dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys ymweld â phum sefydliad addysg bellach a phum canolfan Cymraeg i oedolion. Cyfarfu’r arolygydd cofnodol â staff Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr hefyd.

Astudiaethau achos arfer orau (trwy’r adroddiad cyfan)

  • Coleg Sir Benfro
  • Coleg Sir Gâr
  • Coleg Gwent
  • Coleg Morgannwg
  • Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant
  • Canolfan Cymraeg i oedolion Canolbarth Cymru
  • Canolfan Cymraeg i oedolion Caerdydd a’r Fro
  • Canolfan Cymraeg i oedolion Morgannwg
  • Canolfan Cymraeg i oedolion Gogledd Cymru
  • Canolfan Cymraeg i oedolion Gwent

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk