Erthyglau newyddion |

Dylai ysgolion sy’n cydweithio ganolbwyntio ar ddeilliannau disgyblion

Share this page

Mae bron pob ysgol yn cymryd rhan mewn rhyw fath o bartneriaeth ag ysgolion eraill, ond nid yw effaith y gwaith hwn ar y cyd ar ddisgyblion yn cael ei harfarnu ddigon, yn ôl adroddiad gan Estyn a gyhoeddir heddiw.

Mae’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau o gymorth rhwng ysgolion, gan gynnwys trefniadau anffurfiol wedi’u creu gan yr ysgolion neu drefniadau wedi’u brocera, cydweithrediadau a ffederasiynau. Mae’r adroddiad yn ystyried beth sy’n gweithio, a sut a pham mae’n gweithio. Hefyd, mae’n trafod yr effaith, y ffactorau llwyddiant a’r rhwystrau sy’n wynebu mentrau rhwng ysgolion.

Dim ond lleiafrif o ysgolion â phartneriaethau anffurfiol wedi’u creu ganddynt eu hunain sy’n gallu nodi effaith gwaith ar y cyd ar safonau. Mae’n rhy gynnar eto i arfarnu effaith ysgolion sy’n gweithio mewn ffederasiwn ffurfiol ar safonau.

Darganfu adroddiad Estyn ‘Cymorth a chydweithio rhwng ysgolion’ fod cymorth llwyddiannus rhwng ysgolion yn gweithio orau pan fydd angen clir wedi’i amlygu, ymrwymiad gwirioneddol gan arweinwyr ysgol, a phartneriaeth a luniwyd i fod o fudd i bawb. Hefyd, mae’n hanfodol bod gan ysgolion sy’n gweithio gyda’i gilydd amcanion strategol a meini prawf llwyddiant sydd wedi’u nodi’n glir.

Meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:

"Mae manteision clir i ysgolion yn sgil cydweithio, gan gynnwys gwella deilliannau i ddisgyblion a chreu ymdeimlad ar y cyd o gyfrifoldeb am welliant. Mae bod yn agored, ymddiriedaeth a thryloywder rhwng arweinwyr ysgolion yn hanfodol, yn ogystal â buddsoddi mewn amser staff ar gyfer ymchwil, datblygu a chydweithio. 

"Er bod gweithio rhwng ysgolion yn dod yn fwy cyffredin, mae arno angen mwy o gymorth a chyfeiriad gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Mae adroddiad heddiw yn cynnwys astudiaethau achos sy’n amlinellu gwahanol fathau o gydweithio rhwng ysgolion ac mae’n nodi’r rhwystrau rhag cydweithio effeithiol rhwng ysgolion."

Y prif rwystr rhag gweithio effeithiol rhwng ysgolion yw amharodrwydd i fuddsoddi amser staff mewn cydweithio. Mae angen i arweinwyr ysgol fynd i’r afael â phryderon am bwysau ar amser staff, yn enwedig os oes angen rhyddhau staff o ymrwymiadau addysgu.

Mae un enghraifft o weithio rhwng ysgolion a nodwyd yn yr adroddiad yn ymwneud ag Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot, a’i gwaith gydag ysgolion eraill, gan gynnwys gwaith ar lythrennedd a rhifedd, gwella datblygiad y Gymraeg, a chefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. O ganlyniad i strategaeth wedi’i diffinio’n glir, mae’r ysgol wedi elwa o rannu arfer dda a dylid ei chanmol am ei diwylliant o ddatblygiad proffesiynol a’r cynnydd yn ei gallu i wella’n barhaus.

Mae’r adroddiad yn argymell bod arweinwyr ysgol yn datgan yn glir beth maent yn dymuno’i gael o ganlyniad i gymorth rhwng ysgolion, eu bod yn nodi meini prawf llwyddiant penodol a’u bod yn gwneud yn siŵr bod y ffocws ar godi safonau. Dylai awdurdodau lleol a chonsortia feddu ar strategaeth glir ar gyfer paru ysgolion i weithio gyda’i gilydd, gosod disgwyliadau ynghylch sut bydd grwpiau o ysgolion yn gweithredu, darparu adnoddau i gefnogi gwaith rhwng ysgolion a lledaenu arfer dda. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ffyrdd o ganiatáu i ffederasiynau gofrestru fel un ysgol a chydlynu cronfa ddata genedlaethol o arfer dda.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn defnyddio gwybodaeth o ymweliadau â 9 darparwr. Fe’u dewiswyd oherwydd eu bod yn cymryd rhan yn y mathau penodol o gymorth rhwng ysgolion a ystyrir yn yr arolwg hwn. Yn yr ymweliadau hyn, roedd gweithgareddau’n cynnwys:

  • trafodaethau ag uwch arweinwyr, athrawon dosbarth a llywodraethwyr
  • cyfarfodydd â staff awdurdodau lleol a phartneriaid sydd ynghlwm wrth y gwaith rhwng ysgolion
  • deilliannau arolygiadau a holiaduron sampl o ysgolion ym mhob teulu o ysgolion uwchradd

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos a:

  • Deuluoedd ‘cynradd’ Ynys Môn
  • Ysgol Uwchradd Elfed, Sir y Fflint
  • Ysgol Tregarth ac Ysgol Bodfeurig, Gwynedd
  • Y Ffederasiwn o Ysgolion yng Nghwm Afan Uchaf, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Ddydd Arbennig Crownbridge a’i phartneriaid Ysgol Arbennig Portfield, Ysgol Arbennig Greenfields, Ysgol Arbennig Heronsbridge, Ysgol Hen Felin ac Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn