Deallusrwydd artiffisial: datblygu ein hymagwedd

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn archwilio sut gall deallusrwydd artiffisial (AI) gefnogi ein gwaith yn effeithiol ac yn gyfrifol. Ein huchelgais yw datblygu amgylchedd diogel ar gyfer AI a fydd yn galluogi gweithio’n fwy effeithlon. Bydd sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith yn cefnogi arweiniad clir i’n staff a’n rhanddeiliaid. Amlinellir ein huchelgais, ein hegwyddorion arweiniol a’n blaenoriaethau ar gyfer 2025-26 mewn perthynas ag AI yn ein hymagwedd strategol y gellir ei darllen yn llawn yma.
Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddwn yn canolbwyntio ein gwaith ar dri phrif faes:
- Gwaith AI Estyn: Byddwn yn parhau i arbrofi’n ddiogel â sut gall AI gefnogi effeithlonrwydd a gwella ein gwaith, gan gynnwys ymgorffori meysydd rydym wedi bod yn eu treialu yn ein busnes yn ôl yr arfer
- Adolygiad cyflym o AI mewn addysg a hyfforddiant: Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth gyfunol o sut mae darparwyr addysg a hyfforddiant yn defnyddio AI ac yn rhannu arferion effeithiol
- Cydweithio rhyngwladol: Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i werthuso sut gall AI wella gwaith arolygu, gan ddefnyddio arfer orau ryngwladol
Dywedodd Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol sy’n arwain Deallusrwydd Artiffisial yn Estyn:
“Yn unol â phob darparwr addysg a hyfforddiant, rydym yn awyddus i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan AI o fewn a thu hwnt i Estyn. Yn fewnol, rydym yn edrych ar sut gall AI ein helpu i wella’r ffordd rydym yn arolygu ac ymgysylltu ag ysgolion ac, ar yr un pryd, rydym yn gweithio gydag ystod o randdeiliaid, ledled Cymru ac yn rhyngwladol, i rannu’r hyn a ddysgwyd ac arfer orau a fydd yn llywio ein datblygiad. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel ac yn foesegol, gan sicrhau ei fod yn cefnogi yn hytrach na disodli barn ac arbenigedd dynol.
“Mae’r diddordeb yn yr hyn y gall y dechnoleg hon ei wneud yn cynyddu’n gyflym ac rydym yn awyddus i gefnogi’r system ehangach gyda defnydd effeithiol a chyfrifol. Yn ddiweddar, cynhaliom arolwg ar ran Llywodraeth Cymru i greu darlun cenedlaethol o sut mae AI eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau). Roeddem yn falch o gael safbwyntiau mwy na 300 o weithwyr addysg proffesiynol ac rydym yn gwneud gwaith dilynol manylach gydag ystod o ddarparwyr i amlygu arfer effeithiol i’w rhannu. Rydym eisiau deall a rhannu sut mae AI yn cael ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth, beth sy’n gweithio’n dda, a beth yw’r heriau. Bydd canfyddiadau’r adolygiad hwn yn helpu i ffurfio arweiniad a chymorth yn y dyfodol i ysgolion ac UCDau ledled Cymru. Bydd yr Adolygiad Thematig llawn – Deall AI mewn Ysgolion ac UCDau, yn cael ei gyhoeddi ar 9 Hydref ac edrychwn ymlaen at rannu’r canfyddiadau a sicrhau bod arweiniad clir a hygyrch yn cael ei hyrwyddo’n eang i gefnogi ysgolion.