Erthyglau newyddion |

Cynnydd mewn lefelau presenoldeb ysgolion uwchradd ond angen gwelliant o hyd

Share this page

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae presenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi gwella. Er gwaethaf y gwelliant hwn, mae absenoldeb yn bryder o hyd mewn bron traean o’r ysgolion uwchradd a arolygwyd er 2010. Mae disgyblion sy’n absennol yn gyson bellach yn cyfrif am chwarter yr holl absenoldebau.

Mae adroddiad Estyn yn amlygu’r effaith negyddol a gaiff absenoldeb ysgol ar berfformiad addysgol. Po fwyaf o ddosbarthiadau y mae disgyblion yn eu colli, y lleiaf tebygol y maent o gyflawni. Er enghraifft, dim ond tua dau o bob pum disgybl sy’n colli rhwng 10% ac 20% o amser ysgol sy’n cyflawni 5 TGAU da gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a mathemateg. Fodd bynnag, nid yw disgyblion bob amser yn cael eu cyfeirio at y Gwasanaethau Lles Addysg oni bai bod lefel eu habsenoldeb dros 20%.

Meddai Ann Keane, Prif Arolygydd,

“Mae’n galonogol i mi weld bod lefelau presenoldeb wedi gwella’n raddol. Fodd bynnag, hoffwn weld lefel absenoldeb disgyblion yn gostwng ymhellach, yn enwedig lefelau absenoldeb disgyblion mewn grwpiau agored i niwed a’r disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, y mae eu lefel bron ddwywaith lefel disgyblion eraill. Mae disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn fwy tebygol o fod yn absennol yn gyson a thanberfformio.

“Mae gwella presenoldeb wedi bod yn argymhelliad mewn bron traean o adroddiadau arolygiadau ysgolion uwchradd am y pedair blynedd diwethaf. Os yw disgyblion yn absennol o’r ysgol, ni allant ddysgu ac maent yn fwy tebygol o ddisgyn ar ei hôl hi.

“Cynigiaf fod pob ysgol, awdurdod lleol, rhiant a disgybl yn parhau i fynd i’r afael â lefelau presenoldeb er mwyn helpu i sicrhau bod safonau’n parhau i wella.”

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar strategaethau a chamau gweithredu i wella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd ac awdurdodau lleol. Darganfu arolygwyr fod dulliau strategol clir gan y rhan fwyaf o ysgolion ar gyfer gwella presenoldeb; fodd bynnag, mae llai nag hanner yr ysgolion yn dadansoddi’r rhesymau pam mae disgyblion yn colli ysgol yn ddigon da. Mae’r ysgolion hyn yn methu dadansoddi’r data ar bresenoldeb fel y gall staff dargedu grwpiau ac unigolion penodol sydd â phatrwm o absenoldeb o’r ysgol.

Mae astudiaethau achos o arfer orau yn yr adroddiad yn dangos sut mae ysgolion llwyddiannus wedi ymgysylltu â disgyblion i wneud gwahaniaeth. Nododd Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd, fod angen ymgysylltu â’r cymunedau Roma Tsiecaidd a Slofacaidd er mwyn helpu i wella presenoldeb. Trwy weithio gyda rhieni, disgyblion a’r cymunedau, fe wnaeth yr ysgol gynyddu lefelau presenoldeb yn llwyddiannus a chynyddu lefelau cyrhaeddiad.

Mae ‘Presenoldeb mewn ysgolion uwchradd’, yn cynnwys cyfres o argymhellion i ysgolion ac awdurdodau lleol. Dylai ysgolion ddefnyddio data am bresenoldeb yn well, cryfhau cysylltiadau ag asiantaethau allanol sy’n cynorthwyo i gefnogi teuluoedd, ac ymgysylltu â mwy o ddisgyblion. Dylai awdurdodau lleol roi hyfforddiant ac arweiniad clir i ysgolion ar ddefnyddio codau presenoldeb yn gywir.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Dyma’r cyntaf o ddau adroddiad mewn ymateb i gais am gyngor ar bresenoldeb yn llythyr cylch gwaith blynyddol Llywodraeth Cymru i Estyn ar gyfer 2013-2014, gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar strategaethau a chamau gweithredu mewn ysgolion uwchradd ac awdurdodau lleol i wella presenoldeb a bydd yr ail yn canolbwyntio ar ysgolion cynradd. Mae’r adroddiad ar gael yn llawn yma.

Astudiaethau achos o arfer orau

  • Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd
  • Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd
  • Awdurdod Lleol Conwy
  • Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant i Gymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth cyngor ac arolygu annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru, ond cawn ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk