Cymwysterau Cenedlaethol yn destun trafod ar faes Eisteddfod yr Urdd

Y Cymwysterau Cenedlaethol newydd 14-16 sydd yn dod o fis Medi oedd testun trafod arweinwyr o’r sector addysg yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon.
Cafwyd drafodaeth banel bywiog ar stondin Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr cymwysterau, ar y cyd gydag Estyn, yr arolygiaeth addysg ac hyfforddiant, ar faes yr Eisteddfod ym Margam.
Dan arweiniad Ashok Ahir, Cyfarwyddwr Cyfathrebu & Ymgysylltu Strategol Cymwysterau Cymru, roedd y panel yn cynnwys David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru, Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn, a Matthew McAvoy, Arweinydd Uwchradd CYDAG sydd hefyd yn Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Yn dechrau o fis Medi yma, bydd dysgwyr Blwyddyn 10 yn gallu dewis o ystod eang o gymwysterau newydd a ddatblygwyd i gefnogi pwrpasau’r Cwricwlwm i Gymru, ac i ddarparu sgiliau sydd mewn galw gan gyflogwyr.
Mae’r pynciau sy’n dod eleni yn cynnwys TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Mathemateg a Rhifedd, Busnes, Cyfrifiadureg a Bwyd a Maeth. Bydd mwy o gymwysterau TGAU newydd yn dilyn o’r flwyddyn nesaf, ac o 2027, am y tro cyntaf bydd ysgolion hefyd yn gallu cynnig cymwysterau TAAU cysylltiedig â gwaith mewn pynciau fel TAAU Gwasanaethau Cyhoeddus a TAAU Peirianneg – yn ehangu’r hyn sydd ar gael i ddysgwyr ledled Cymru.
Roedd y pynciau a drafodwyd gan y panel yn cynnwys sut mae’r cymwysterau newydd yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, y cymwysterau gwahanol a gyflwynir ymhob ton rhwng 2025 a 2027, a’r rôl bwysig y bydd ysgolion yn ei chwarae o ran datblygu darpariaeth.
Dywedodd David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru:
“Rwy’n mwynhau cyfarfod â llawer o ddysgwyr, rhieni a thiwtoriaid yn yr Eisteddfod ond yn arbennig eleni gan mai dyma fy mlwyddyn olaf fel Cadeirydd. Rwy’n falch iawn y byddaf yn cael gweld y cymwysterau 14-16 newydd sbon cyntaf yn cael eu cyflwyno cyn i fy nghyfnod ddod i ben. Mae datblygu’r cymwysterau newydd hyn wedi bod yn broses hir a manwl, gan gynnwys cymaint o randdeiliaid – gan gynnwys dysgwyr, athrawon ac arweinwyr ein hysgolion, wrth gwrs. Mae’r dysgwyr hynny bellach yn mynd i fanteisio ar gyfleoedd gwell ar gyfer dysgu ymarferol, cymysgedd gwell o ddulliau asesu, a’r cyfle i adeiladu gwybodaeth a sgiliau mewn ystod eang o bynciau. Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn y panel heddiw.”
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi Estyn:
“Mae’n wych bod yma yn yr Urdd yr wythnos hon ac yn benodol bod yn gysylltiedig â thrafodaeth am dirwedd y dyfodol o gymwysterau yng Nghymru yn y sesiwn a gynhelir gan Gymwysterau Cymru. Roedd yn wych clywed barn arweinydd ysgol mewn perthynas â hyn. Mae’r cwricwlwm a dysgu o safon uchel bob amser yn faes o gyffro i ni yn ystod archwiliad ac rydym yn dymuno’n dda i ysgolion gyda’u gwaith i weithredu’r cymwysterau newydd.”
Dywedodd Matthew McAvoy, CYDAG:
‘Roeddwn i’n falch iawn o gael fy ngwahodd i gymryd rhan yn y panel hwn. Wrth edrych ymlaen i gynnig y cymwysterau newydd o fis Medi, wrth gwrs mae yna lot fawr i’w baratoi – fel sydd bob amser cyn unrhyw newid sylweddol – a bydd y gwaith partneriaeth a’r cydweithio sy’n bodoli eisoes rhwng ysgolion ledled Cymru yn chwarae rhan bwysig wrth i ni symud ymlaen gyda’r cymwysterau newydd yma. Gan siarad o safbwynt fy ysgol i, rydym ni’n hynod gyffrous ein bod ni’n mynd i allu ehangu ein cynnig i’n dysgwyr fel eu bod nhw’n derbyn cymwysterau sy’n adlewyrchu’n wirioneddol sut rydym ni’n byw ac yn gweithio nawr – yn eu gosod nhw mewn sefyllfa dda ar gyfer y llwybr maen nhw’n ei ddewis ar ôl iddynt adael ni.’
Am fanylion llawn y Cymwysterau Cenedlaethol newydd, gan gynnwys pa bynciau fydd yn cael eu cyflwyno pryd, gweler Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 | Cymwysterau Cymru.
I ddysgu mwy am waith Estyn, gweler www.estyn.gov.wales.
I ddysgu mwy am CYDAG, gweler www.CYDAG.cymru