Erthyglau newyddion |

Corff Cymraeg cenedlaethol yn cynnig manteision i ddysgwyr sy’n oedolion

Share this page

Mae sefydlu Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i symleiddio’r ddarpariaeth cyrsiau Cymraeg i oedolion ledled Cymru wedi bod yn llwyddiannus, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn. Er 2016, mae’r Ganolfan Genedlaethol wedi helpu i ddarparu cyfeiriad strategol clir i’r holl ganolfannau sy’n darparu cyrsiau hyfforddi Cymraeg, ac mae wedi gwneud cynnydd o ran dod â mwy o gysondeb mewn dulliau i ddatblygu’r cwricwlwm, casglu data ac asesu.

Mae adroddiad Estyn, Adolygiad o waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn archwilio’r modd y mae’r Ganolfan Genedlaethol yn arwain, rheoli ac yn dylanwadu ar y datblygiadau yn y sector addysg Cymraeg i Oedolion yn dilyn ad-drefnu cenedlaethol.  Yn  2016, sefydlwyd 11 o ddarparwyr yn unig gan y Ganolfan Genedlaethol yn lle’r chwe chanolfan ranbarthol flaenorol a’u 20 is-gontractwr.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,

“Rydw i’n falch fod y Ganolfan Genedlaethol wedi ad-drefnu’r sector Cymraeg i Oedolion yn effeithiol a’i bod yn mynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector, fel yr amrywiad eang yn yr ymagwedd at y cwricwlwm.
 

“Mae gwaith strategol y Ganolfan Genedlaethol yn gam pwysig wrth greu cenedl ddwyieithog a chynorthwyo oedolion i wella eu medrau Cymraeg gartref ac yn y gweithle.”

Canfu arolygwyr, er bod y Ganolfan Genedlaethol wedi diffinio a chyfleu ei hamcanion yn glir, nad yw pob darparwr Cymraeg i Oedolion yn gwbl ymwybodol o drefniadau llywodraethu’r Ganolfan Genedlaethol, ac mewn rhai achosion, maent yn araf i ymateb i newidiadau arfaethedig.  Mae’r adroddiad yn argymell y dylai darparwyr roi’r polisïau a’r arferion a gyflwynwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar waith yn llawn, ac y dylent wella eu dealltwriaeth o’r arferion hyn ac o strwythur y Ganolfan Genedlaethol.

Amlinellir dau argymhelliad pellach yn yr adroddiad ar gyfer y Ganolfan Genedlaethol i’w helpu i ddwyn darparwyr Cymraeg i Oedolion i gyfrif am eu perfformiad, a mireinio strategaeth farchnata’r Ganolfan Genedlaethol i dargedu mwy o ddarpar ddysgwyr.

        Nodiadau i Olygyddion:

        Ynglŷn â’r adroddiad

  • Ym Mai 2015, dyfarnodd Llywodraeth Cymru y grant i sefydlu’r endid cenedlaethol i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS).  Mae’r grant am gyfnod o saith mlynedd o 2015-2022.  Yn Ionawr 2016, creodd PCDDS gwmni cyfyngedig trwy warant, sef ‘Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol / The National Centre for Learning Welsh’, fel yr endid cenedlaethol. 
  • Mae sail y dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad yn cynnwys holiaduron a dogfennau eraill o’r 11 darparwr Cymraeg i Oedolion a chyfweliadau â staff o sampl gynrychioliadol o chwe darparwr.
     

Darparwyr Cymraeg i Oedolion presennol a’u hardaloedd daearyddol:

  • Prifysgol Bangor / Grŵp Llandrillo Menai (Gwynedd / Ynys Môn / Conwy)
  • Coleg Cambria / ‘Popeth Cymraeg’ (Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam)
  • Nant Gwrtheyrn (cyrsiau preswyl sydd wedi eu lleoli yn Llithfaen, Gwynedd)
  • Prifysgol Aberystwyth (Ceredigion / Powys a chyrsiau dwys yn Sir Gâr)
  • Cyngor Sir Gâr (cyrsiau nad ydynt yn rhai dwys Sir Gâr yn unig)
  • Cyngor Sir Penfro (Sir Benfro)
  • Prifysgol Abertawe (Academi Hywel Teifi) (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot)
  • Prifysgol De Cymru (Rhondda Cynon Taf / Merthyr Tudful / Pen-y-bont ar Ogwr)
  • Cyngor Bro Morgannwg (Bro Morgannwg)
  • Prifysgol Caerdydd (Dinas a Sir Caerdydd)
  • Coleg Gwent (siroedd yng Ngwent)