Camau positif i Twf Swyddi Cymru+ wrth i ddarparwyr gryfhau cefnogaeth

Mae pobl ifanc ledled Cymru yn derbyn cefnogaeth sydd wedi’i dargedu’n well drwy raglen Twf Swyddi Cymru+, yn ôl adroddiad dilynol newydd gan yr arolygiaeth addysg Estyn. Mae’r rhaglen wedi cryfhau ei threfn cyfeirio ac wedi gwella darpariaeth lles i gyfranogwyr sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i gyflogaeth.
Canfu adolygiad Estyn o’r pum contractwr arweiniol a’r 49 o ganolfannau cyflawni fod cydweithio rhwng contractwyr, Cymru’n Gweithio a Llywodraeth Cymru wedi gwella sut mae pobl ifanc yn cael eu paru â llinynnau cymorth priodol yn sylweddol ers eu hadroddiad yn 2023. Mae gwell dogfennaeth cyfeirio bellach yn adrodd anghenion unigol cyfranogwyr yn fwy effeithiol, gan sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth mwyaf addas.
Mae cyfranogwyr yn adrodd yn gyson am brofiadau cadarnhaol, gan werthfawrogi’r amgylcheddau dysgu cefnogol a’r sylw personol gan staff. Maent yn gwerthfawrogi gweithgareddau cyfoethogi sy’n helpu i feithrin hyder, sgiliau cymdeithasol a galluoedd gweithio mewn tîm ochr yn ochr â’u datblygiad craidd.
Fodd bynnag, nododd y gwerthusiad heriau capasiti wrth i’r galw barhau i dyfu. Mae nifer cynyddol o gyfranogwyr yn ogystal â rhai yn aros yn hirach ar y rhaglen wedi creu rhestrau aros mewn rhai rhanbarthau, gan arwain at ohirio dyddiadau cychwyn a ymddieithriad cyfranogwyr posib. Mae argaeledd darpariaeth benodol i’r sector yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru, gan gyfyngu ar ddewis i rai pobl ifanc.
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:
“Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl ifanc i gymryd camau cadarnhaol tuag at addysg bellach neu gyflogaeth. Mae’n galonogol gweld sut mae cydweithio ar draws partneriaid yn gwella prosesau cyfeirio ac yn personoli cymorth. Ond mae angen gwneud mwy i sicrhau y gall pob dysgwr, waeth ble maen nhw’n byw, gael mynediad at yr hyfforddiant penodol i’r sector sy’n diwallu eu hanghenion a’u huchelgais.”
Mae Estyn wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru, contractwyr a’r holl randdeiliaid sy’n ymwneud â chyflwyno Twf Swyddi Cymru+ i sicrhau y gall cyfranogwyr gael mynediad at leoliadau gwaith penodol i’r sector mewn modd amserol, sy’n cyd-fynd â’u dyheadau gyrfa.