Erthyglau newyddion |

Barod yn Barod

Share this page

Paratowch lai meddai Prif Arolygydd Estyn

Mae Estyn wedi lansio Barod yn Barod (Ready Already), sef ymgyrch sy’n mynd i’r afael â rhai o’r camsyniadau yn ymwneud ag arolygiadau mewn ysgolion ac UCDau, sydd â’r nod o roi sicrwydd i ddarparwyr addysg i beidio â gorbaratoi ar gyfer arolygiadau ac addysgu fel y byddant fel arfer.

Cyflwynodd Estyn newidiadau i arolygiadau mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn 2022, gan gynnwys cael gwared ar raddau crynodol fel ‘Rhagorol’, ‘Da’, ‘Digonol’ neu ‘Anfoddhaol’. Mae ein hymagwedd wedi creu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr, arweinwyr, athrawon a staff cymorth gyfrannu’n adeiladol at sgyrsiau cydweithredol yn ystod y broses arolygu.

Mae Barod yn Barod yn ymgyrch addysgiadol sy’n cynnwys arweinwyr ysgolion ac athrawon o bob rhan o Gymru sydd â phrofiad diweddar o’r fframwaith arolygu diweddaraf ac sy’n rhoi adborth gonest am yr ymagwedd a disgwyliadau darparwyr cyn ac yn ystod arolygiad.

Mae’r ymgyrch hefyd yn cyfleu ffeithiau’n uniongyrchol gan arolygwyr Estyn er mwyn ceisio rhoi eglurder a chwalu llawer o’r chwedlau cyfredol yn ymwneud ag arolygu.

Mae Estyn yn cydnabod y pwysau ychwanegol y gall arolygu ei greu. Mae pob un o’r arolygwyr yn gyn athrawon neu arweinwyr addysg eu hunain, sydd wedi mynd trwy arolygiadau amrywiol, ac maent yn gwerthfawrogi y dylai’r broses fod yn heriol ond yn adeiladol hefyd, gan adlewyrchu gwir ansawdd dysgu mewn ysgol neu Uned Cyfeirio Disgyblion.

Mae arolygwyr yn rhannu eu canfyddiadau ag uwch arweinwyr a’r enwebai trwy gydol yr wythnos arolygu, yn ogystal â rhoi adborth yng nghyfarfod terfynol yr arolygiad.

Mae Kelly Walker, Arweinydd Cynhwysiant a Lles yn Ysgol Gynradd Alexandra yn Wrecsam, yn siarad yn gadarnhaol am ei phrofiad o arolygiad.

Ni ddes i oddi yno’n teimlo fy mod wedi cael fy nghroesholi. Fe ddes i oddi yno’n meddwl fy mod wedi cael sgwrs am beth rwy’n ei wneud yn yr ysgol a sut rydym yn gweithio. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwybod mwy amdanom ni a’n hethos. Nid oes angen i chi fod â phentwr mawr o bethau i’w cyflwyno i arolygwyr. Y cwbl sydd ei angen arnoch yw gallu siarad a gwybod eich pethau. Maen nhw’n dod i weld beth rydych chi’n ei wneud yn dda. Efallai y bydd pethau y byddant yn awgrymu eu gwella. Dyna eu gwaith. Ond, fel ysgol, dyna rydyn ni ei eisiau, hefyd. Rydyn ni eisiau gwybod sut y gallwn ni wella."

Dywed Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Owen Evans,

Ein hamcan yw pwysleisio i ddarparwyr dysgu ledled Cymru eu bod nhw’n barod ar gyfer arolygiadau yn barod.

Nid oes angen gorbaratoi ar gyfer arolygiad o gwbl. Rydym yn gwybod bod darparwyr yn wynebu llwythi gwaith heriol ac yn aml yn ychwanegu at y pwysau hwn trwy deimlo bod rhaid iddyn nhw baratoi llwyth o waith papur ychwanegol cyn arolygiad.

Nid yw hynny’n wir. Mae ein timau arolygu eisiau gweld sut mae darparwyr yn addysgu o ddydd i ddydd. Rydyn ni eisiau gweithio ar y cyd i amlygu blaenoriaethau addysg a hyfforddiant, sy’n helpu i lunio’r deilliannau gorau posibl i ddysgwyr.”