Arweinyddiaeth gref ac arfer cyson yn allweddol i ysgogi ymddygiad cadarnhaol yn ysgolion Cymru

Mae adroddiad newydd gan Estyn yn tynnu sylw at sut mae arweinyddiaeth gref, rheoli ymddygiad cyson, ac ymgysylltu cymunedol yn helpu i wella ymddygiad disgyblion ar draws ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Mae adroddiad thematig diweddaraf Estyn, “Meithrin parch ar y ddwy ochr – hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol mewn ysgolion uwchradd” yn edrych ar sut mae ysgolion uwchradd yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ac yn rheoli heriau fel agweddau herfeiddiol disgyblion, tarfu ar lefel isel, a chefnogaeth anghyson gan rieni i bolisïau ysgolion. Gan dynnu ar ymweliadau â 24 ysgol uwchradd ac ysgolion pob oed, yn ogystal â thrafodaethau ag awdurdodau lleol ac arolygon cenedlaethol o benaethiaid, staff a disgyblion, mae’r adroddiad yn nodi ffactorau allweddol sy’n sail i strategaethau ymddygiad llwyddiannus.
Mae’r adroddiad yn canfod bod ysgolion sydd â disgwyliadau cryf a chlir ar gyfer disgyblion a staff yn fwy tebygol o feithrin ymddygiad cadarnhaol. Yn yr ysgolion hyn, mae lles yn flaenoriaeth ac fe’i cefnogir gan bolisïau ymddygiad cynhwysfawr a dealladwy. Yn allweddol, mae’r ysgolion hyn yn sicrhau bod eu staff yn derbyn dysgu proffesiynol rheolaidd a bod dulliau rheoli ymddygiad yn cael eu gweithredu’n gyson. Mae ymgysylltu â rhieni a phartneriaethau cymunedol cryf hefyd yn allweddol i gynnal diwylliant o ymddygiad cadarnhaol.
Mae’r adroddiad yn nodi sawl her sy’n wynebu ysgolion. Mae’r rhain yn cynnwys gweithredoedd herfeiddiol gan ddisgyblion, tarfu parhaus ar lefel isel, adroddiadau cynyddol o gamddefnyddio ffonau symudol ac ymddygiad gwael mewn coridorau. Mynegodd rhai arweinwyr ysgolion bryder ynghylch effaith gynyddol pwysau economaidd-gymdeithasol, anghenion iechyd meddwl, a diffyg cefnogaeth arbenigol amserol. Mae ychydig o ysgolion hefyd yn adrodd am wrthwynebiad gan rai rhieni wrth lynu at bolisïau’r ysgol, gan ychwanegu at gymhlethdod y mater.
Dywedodd y Prif Arolygydd Owen Evans:
“Gall ymddygiad disgyblion fod yn heriol ac nid yw ymddygiad cadarnhaol yn digwydd ar hap – mae o ganlyniad i arweinyddiaeth gref a thosturiol ynghyd â rheoli ymddygiad clir a chyson, hyfforddiant staff cyson ac mae’n cynnwys cefnogaeth cymuned yr ysgol gyfan. Mae ein hadroddiad yn dangos bod ysgolion sy’n blaenoriaethu lles, yn gosod disgwyliadau uchel, ac yn meithrin perthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth â theuluoedd yn fwy tebygol o lwyddo i greu amgylcheddau dysgu diogel a chefnogol. Rydym am i’r adroddiad hwn wasanaethu fel llwyfan i hyrwyddo’r arferion effeithiol a chadarnhaol rydym wedi’u gweld mewn ysgolion ledled Cymru.”
Mae’r canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd dull ysgol gyfan, ble mae’r holl staff yn gyson am sut y maent yn hyrwyddo ymddygiad da. Yn benodol, mae’r ysgolion mwyaf effeithiol yn adolygu ac yn atgyfnerthu eu strategaethau’n rheolaidd trwy ddysgu proffesiynol a chydweithio. Mae arferion adferol, dulliau sy’n seiliedig ar drawma, a phartneriaethau cymunedol cryf i gyd yn cyfrannu at ymdeimlad o berthyn a pharch ar y cyd ymhlith disgyblion.
Mae Estyn yn argymell ffocws newydd ar ddysgu proffesiynol, cydweithio rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol, a diweddariad i ganllawiau ymddygiad cenedlaethol. Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i lansio ymgyrch genedlaethol ar ymddygiad cadarnhaol i gefnogi ysgolion a disgyblion fel ei gilydd.