Arolwg ar ddefnyddio AI mewn ysgolion ac UCDau - Estyn

Arolwg ar ddefnyddio AI mewn ysgolion ac UCDau

Erthygl

Ar ôl cyhoeddi ein hadroddiad thematig diweddar, Oes Newydd: Sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Cefnogi Addysgu a Dysgu, sy’n archwilio sut mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn cael ei ddefnyddio ar draws addysg yng Nghymru, rydym yn ailgyhoeddi ein harolwg ar ddefnyddio AI mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau).

Cafodd yr arolwg gwreiddiol gyfradd ymateb uchel iawn a bu llawer iawn o ddiddordeb yng nghanfyddiadau a negeseuon yr adroddiad cyhoeddedig. Tynnodd hyn sylw at sut mae ymgysylltiad darparwyr addysg ag AI yn cynyddu a brys yr angen am ymateb strategol, cydlynol ar bob lefel yn y sector.

Rhannwyd yr arolwg gyntaf flwyddyn yn ôl a rhoddodd gipolwg diddorol ar sut roedd ysgolion ac UCDau yn dechrau archwilio AI, ei risgiau a’i fanteision. Trwy ailgyhoeddi’r holiadur, hoffem ddeall sut mae pethau wedi newid dros amser a datblygu darlun cliriach o sut mae ymgysylltu ag AI yng Nghymru yn esblygu, gan gynnwys newidiadau o ran hyder, arfer, cyfleoedd a phryderon.

Byddem yn croesawu ymatebion gan gydweithwyr a lenwodd yr arolwg yn flaenorol, yn ogystal â’r rhai na wnaethant ei lenwi. Caiff y rhai a lenwodd yr arolwg y tro diwethaf eu hannog i wneud hynny eto i fyfyrio ar sut mae eu defnydd a’u dealltwriaeth o AI wedi newid. Mae’r holiadur ar agor i unrhyw un sy’n gweithio mewn ysgolion ac UCDau yng Nghymru, yn ogystal â’r rhai sy’n eu cefnogi, fel swyddogion awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol addysg eraill.

Bydd y canfyddiadau’n helpu i lunio ein gwaith parhaus ar AI mewn addysg ac yn cefnogi dealltwriaeth gyffredin o sut mae AI yn cael ei ddefnyddio ar draws y system.