Adroddiad thematig newydd yn darganfod cyfleoedd i gryfhau a gwella gwasanaethau tiwtora ar gyfer dysgwyr bregus ledled Cymru - Estyn

Adroddiad thematig newydd yn darganfod cyfleoedd i gryfhau a gwella gwasanaethau tiwtora ar gyfer dysgwyr bregus ledled Cymru

Erthygl

A teacher sitting at a desk opposite a learner, smiling.

Mae adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, Mwy na dewis olaf: Trefniadau ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol yng Nghymru, a’i hansawdd, yn darganfod bod gwasanaethau tiwtora, ar y cyfan, yn darparu cymorth o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion bregus. Fodd bynnag, mae ansawdd ac argaeledd cyffredinol y ddarpariaeth yn amrywio’n rhy eang ledled Cymru.

Mae gwasanaethau tiwtora yn chwarae rôl hanfodol mewn cefnogi disgyblion nad ydynt yn gallu mynychu’r ysgol oherwydd anghenion iechyd neu amgylchiadau personol cymhleth eraill, gan eu helpu i barhau â’u dysgu a chynnal cysylltiad ag addysg. I lawer o’r dysgwyr hyn, mae gwersi tiwtora yn cynnig llwybr pwysig i ailymgysylltu ag addysg, magu hyder a pharatoi ar gyfer dysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Mae ein hadroddiad yn amlygu enghreifftiau o arfer gref lle mae gan arweinwyr weledigaeth strategol glir ar gyfer darpariaeth diwtora ac yn ei hystyried yn ymyrraeth bwrpasol sy’n helpu disgyblion i ailgysylltu â dysgu a symud ymlaen i gyrchfannau cadarnhaol. Yn yr achosion hyn, mae disgyblion yn elwa ar addysgu difyr, cwricwla wedi eu cynllunio’n ofalus a chymorth effeithiol ar gyfer eu lles.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn darganfod bod arweinyddiaeth, goruchwyliaeth ac ansawdd y ddarpariaeth yn anghyson ledled Cymru. Mewn llawer o ardaloedd, mae disgyblion yn cael nifer gyfyngedig o oriau o ddarpariaeth diwtora bob wythnos yn unig, ac mae cyfleoedd i ddilyn cwricwlwm eang a chytbwys yn gyfyngedig. Mae darpariaeth yn aml yn canolbwyntio’n gyfyng ar Saesneg a mathemateg, sy’n gallu cyfyngu ar gyfleoedd disgyblion i ennill cymwysterau a symud ymlaen i ddysgu pellach neu gyflogaeth.

Canfu Estyn hefyd nad yw disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer darpariaeth diwtora yn ddigon clir. Mae hyn wedi arwain at wahaniaethau yn y modd y mae awdurdodau lleol yn dehongli eu cyfrifoldebau, gan arwain at amrywiad o ran faint o ddysgu mae disgyblion yn ei gael, ac ystod y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:

“Mae gwasanaethau tiwtora yn cefnogi rhai o’r bobl ifanc fwyaf bregus yng Nghymru. Ar eu gorau, maen nhw’n darparu sefydlogrwydd, yn magu hyder o’r newydd ac yn helpu dysgwyr i ailgysylltu ag addysg a chynllunio ar gyfer eu dyfodol. Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau’n dangos bod ansawdd ac argaeledd y ddarpariaeth yn amrywio gormod ledled Cymru. Mae gormod o ddisgyblion yn cael cwricwlwm cul ac oriau dysgu cyfyngedig, sy’n cyfyngu ar eu cyfleoedd i ennill cymwysterau a symud ymlaen i gyrchfannau cadarnhaol.

Bydd cryfhau arweinyddiaeth strategol, egluro disgwyliadau a gwella monitro yn hanfodol i sicrhau bod pob disgybl sy’n dibynnu ar wasanaethau tiwtora yn cael yr addysg a’r cymorth o ansawdd uchel y mae’n ei haeddu.”

Mae’r adroddiad yn galw am ddisgwyliadau cenedlaethol cliriach, goruchwyliaeth gryfach gan awdurdodau lleol a monitro darpariaeth yn well, yn enwedig lle mae gwasanaethau wedi eu comisiynu neu’n cael eu darparu ar-lein. Bydd y camau hyn yn helpu sicrhau bod gwasanaethau tiwtora ledled Cymru yn darparu cymorth cyson, o ansawdd uchel, ac yn galluogi pob dysgwr i symud ymlaen yn hyderus i’r cam nesaf yn ei addysg neu gyflogaeth.