Adroddiad newydd yn rhybuddio bod heriau ymddygiadol yn cynyddu mewn colegau AB yng Nghymru

Mae adroddiad newydd gan Estyn yn tynnu sylw at sut mae colegau addysg bellach (AB) yng Nghymru yn wynebu heriau ymddygiadol cynyddol, gyda materion fel absenoldeb, camddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, a fepio yn dod yn gyffredin. Er bod llawer o ddysgwyr yn ymgysylltu’n gadarnhaol ac yn barchus â’u cymunedau coleg, mae ymddygiadau negyddol parhaus a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn parhau i effeithio ar amgylcheddau dysgu.
Gan dynnu ar ymweliadau â saith coleg, arolygon cenedlaethol o staff a dysgwyr, ac ymgynghoriadau â rhanddeiliaid, mae “Ymddygiad Dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach: Deall, Cefnogi a Hyrwyddo Ymddygiad Cadarnhaol” yn archwilio sut mae colegau’n hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, yn cefnogi staff, ac yn ymateb i anghenion cymhleth dysgwyr.
Mae’r adroddiad yn nodi absenoldeb, cyrraedd yn hwyr, a defnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol fel pryderon ymddygiadol eang. Mae’r cynnydd mewn fepio ar gampysau yn her sylweddol arall. Er bod materion difrifol fel aflonyddu rhywiol a chamddefnyddio sylweddau yn llai cyffredin, maent yn parhau i fod yn bryder. Mae’r adroddiad yn galw am ganllawiau cenedlaethol cliriach a strategaethau wedi’u targedu, yn enwedig i fynd i’r afael â defnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol a fepio.
Canfu arolygwyr hefyd fod gwaddol pandemig COVID-19 yn parhau i effeithio ar ymddygiad dysgwyr a lles staff. Mae llawer o bobl ifanc – yn enwedig y rhai ar gyrsiau lefel is – yn cael trafferth gyda sgiliau cymdeithasol a gwydnwch. Mae hyn, yn ei dro, yn rhoi pwysau ar staff, ac mae llawer ohonynt yn nodi straen cynyddol a’r angen am fwy o gefnogaeth i reoli tarfu ymddygiadol yn effeithiol a diogelu eu lles.
Dywedodd y Prif Arolygydd Owen Evans:
“Mae’n galonogol gweld llawer o ddysgwyr yn dangos aeddfedrwydd, annibyniaeth a pharch at eraill. Ond ni ddylem anwybyddu cymhlethdod cynyddol problemau ymddygiadol sy’n wynebu colegau. Mae canllawiau cliriach, strategaethau wedi’u targedu a buddsoddiad hirdymor yn hanfodol i helpu colegau i greu amgylcheddau dysgu cynhwysol, parchus a diogel i bawb.”
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at sut mae ymddygiad yn amrywio ar draws grwpiau dysgwyr. Mae dysgwyr gwrywaidd ar gyrsiau galwedigaethol fel adeiladu yn fwy tebygol o ddangos ymddygiad amhriodol tra bod dysgwyr niwrowahanol ac ymylol yn wynebu heriau penodol, gan gynnwys risg uwch o fwlio ac aflonyddu. Mae Estyn yn argymell bod colegau’n cryfhau systemau cymorth cynhwysol i ddiwallu anghenion y dysgwyr bregus hyn.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu ystod o arfer effeithiol sy’n hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a welwyd yn ystod ymweliadau ac ymgynghoriadau â cholegau. Er enghraifft, mae tîm lles Coleg Pen-y-bont yn cynnal ffeiriau cymorth yn rheolaidd fel rhan o’i ymrwymiad i wella ymddygiad a lles dysgwyr, a lleihau rhwystrau rhag dysgu, tra bod Coleg Sir Gâr wedi datblygu adnodd ymarferol, sef pecyn cymorth ‘Creu Amgylchedd Cynhwysol’, i ymestyn strategaethau addysgu a chefnogi ymddygiad dysgwyr.
Er bod llawer o sefydliadau’n cynnig hyfforddiant i staff mewn rheoli ymddygiad a dulliau sy’n seiliedig ar drawma, mae’r gweithredu’n aml yn anghyson. Un o’r rhwystrau mwyaf i welliant cynaliadwy yw cyllid. Mae colegau’n dibynnu’n fawr ar gyllid tymor byr, sy’n cyfyngu ar eu gallu i ymgorffori polisïau cyson, cadw staff profiadol, ac adeiladu strwythurau cymorth tymor hir. Mae’r adroddiad yn argymell bod Medr yn ystyried sut y gall cyllid AB gefnogi buddsoddiad tymor hir mewn systemau rheoli ymddygiad a chadw staff medrus.