Adroddiad newydd yn galw am lwybrau dilyniant cliriach a defnydd gwell o ddata mewn darpariaeth medrau sylfaenol oedolion - Estyn

Adroddiad newydd yn galw am lwybrau dilyniant cliriach a defnydd gwell o ddata mewn darpariaeth medrau sylfaenol oedolion

Erthygl

Grŵp o fyfyrwyr sy'n oedolion ac athro yn trafod o amgylch bwrdd mewn ystafell ddosbarth.

Mae adroddiad diweddaraf Estyn ynghylch Medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned yn amlygu rôl hollbwysig dysgu oedolion yn y gymuned mewn helpu pobl i feithrin medrau hanfodol – yn aml fel ‘ail gyfle’ i gael mynediad at addysg a gwella cyfleoedd bywyd. Er bod arolygwyr wedi gweld addysgu effeithiol ac enghreifftiau o ddarpariaeth greadigol ledled Cymru, mae’r adroddiad yn codi pryderon am ba mor dda y caiff data ei ddefnyddio i olrhain cynnydd dysgwyr ac eglurder y llwybrau sydd ar gael i helpu dysgwyr i symud ymlaen.

Ymwelodd arolygwyr ag wyth o’r 13 partneriaeth ranbarthol ac Addysg Oedolion Cymru, buont yn adolygu data, yn cynnal arolygon o diwtoriaid, ac yn defnyddio tystiolaeth arolygu ac ymweliadau cyswllt blynyddol. Gwelsant fod partneriaethau’n deall y rhwystrau cymhleth y mae llawer o oedolion yn eu hwynebu wrth geisio ymgysylltu o’r newydd â dysgu – yn cynnwys hyder isel, eithrio digidol, ac anawsterau ariannol neu iechyd. Er bod rhai darparwyr wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r rhain, mae gwefannau llawer o bartneriaethau’n parhau i fod yn anodd i’w llywio, ac mae dysgwyr yn aml yn cael trafferth dod o hyd i wybodaeth glir am gyrsiau sydd ar gael.

Roedd addysgu’n effeithiol, ar y cyfan, a thiwtoriaid yn teilwra’r cyflwyno ac yn cynnig cymorth un i un cryf. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, roedd gormod o ddibyniaeth ar lyfrau gwaith neu ystod gyfyngedig o strategaethau addysgu yn golygu nad oedd rhai dysgwyr yn ymgysylltu. Mae’r adroddiad yn galw am ddysgu proffesiynol cryfach ar gyfer tiwtoriaid i ddatblygu eu medrau penodol i bwnc ymhellach.

Mae’r adroddiad hefyd yn codi pryderon am ba mor dda y mae darparwyr yn olrhain dilyniant dysgwyr. Er bod 84% o ddysgwyr wedi cwblhau eu cyrsiau yn 2022-2023, nid oedd systemau casglu data yn ddigonol i ddangos sut mae dysgwyr yn datblygu dros gyfnod neu’n symud ymlaen i ddysgu pellach neu waith. Canfu arolygwyr fod diffyg llwybrau dilyniant trylwyr yn aml mewn partneriaethau ac nid oeddent bob amser yn rhoi i ddysgwyr y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gymryd eu camau nesaf.

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos pa mor bwysig yw dysgu oedolion yn y gymuned o ran rhoi i bobl y medrau a’r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i wella’u bywydau. Mae tiwtoriaid yn gweithio’n galed i deilwra cymorth i anghenion dysgwyr – ond rhaid i ni wneud mwy i wneud dilyniant yn gliriach a sicrhau ein bod yn dysgu oddi wrth y data rydym yn ei gasglu. Dylai pob un o’r oedolion sy’n ddysgwyr gael llwybr clir ymlaen, p’un a ydyn nhw’n dysgu i helpu eu plant, dod o hyd i waith neu’n syml i fagu eu hyder.”

Mae’r adroddiad hefyd yn myfyrio ar effaith menter ‘Lluosi’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a ehangodd ddarpariaeth rhifedd rhwng canol 2023 a dechrau 2025. Er bod hyn wedi creu partneriaethau newydd ac wedi cyrraedd dysgwyr oedd wedi ymddieithrio yn y gorffennol, roedd darparwyr yn teimlo’n rhwystredig gan natur tymor byr y cyllid. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Medr a Llywodraeth Cymru gynnig canllawiau cliriach a mwy hyblyg ynglŷn â defnyddio’r grant dysgu cymunedol, yn enwedig ar gyfer ymgysylltu a darpariaeth dysgu teuluol.

Mae cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau i fod yn gyfyngedig, ac mae dysgwyr, at ei gilydd, yn blaenoriaethu caffael medrau dros iaith yr adddysgu. Fodd bynnag, mewn ardaloedd dwyieithog, caiff rhywfaint o ddysgu digidol a rhifedd ei gyflwyno’n llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r adroddiad yn annog mwy o gydweithio â sefydliadau lleol i ehangu darpariaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg, lle bo’n briodol.

Mae Estyn yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer Medr, Llywodraeth Cymru, partneriaethau a thiwtoriaid, yn canolbwyntio ar wella arweiniad, defnydd o ddata, cynllunio dilyniant, a dysgu proffesiynol.